Fy Mhenwythnos CLIC
Mae'r erthygl hon wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Adolygiad Gorau yng Ngwobrau CLIC 2011.
Canolfan Awyr Agored Red Ridge, Y Trallwng
Dydd Un
Ar ddiwrnod cyntaf y preswyl CLIC y cynllun oedd i mi gyfarfod y bws mini tu allan i Orsaf Trenau Castell-nedd.
Yn anffodus, oherwydd traffig roeddent 30 munud yn hwyr [Oi! Roeddem ni ar amser! – golygydd]
Pan gyrhaeddodd y bws o'r diwedd, es yn nerfus tuag ato i gyfarfod aelodau o amryw dimau golygyddol.
Roedd ychydig o bobl ar y bws yn barod yn disgwyl am dri arall. Unwaith roedd y codi yng Nghastell-nedd yn llwyddiannus teithiom i godi aelod arall oedd yn digwydd gwisgo ei het flewog newydd.
Unwaith roeddem wedi codi'r person diwethaf roeddem ar ein ffordd i'r Trallwng, cymerodd tua phedair awr i gyrraedd. Gan fod y mwyafrif o bobl eisiau bwyd, dywedodd golygydd CLIC, Ryan, ei fod wedi gobeithio stopio mewn McDonalds ond gan ein bod yn teithio yng nghanol unlle nid oedd McDonalds i'w weld yn unman.
Wedi cyrraedd y lleoliad, cawsom ein cwrdd gan dîm arall o De Cymru, rhai ohonynt oedd i weld wedi cyfarfod ar breswyl cynt. Aethom â'n bagiau i'r adeilad a disgwyl i'r tîm o Ogledd Cymru gyrraedd.
Unwaith roedd pawb yno aethom i'r ystafell fwyta i fynd dros y rheolau. Ar ôl y rheolau cawsom fwyd a daeth pawb at ei gilydd yn y lolfa i ddewis pa gwrs hyfforddiant RhCA roedd ganddynt ddiddordeb ynddo: Ffotograffiaeth, Fideo neu Ysgrifennu Creadigol.
Gan mai dim ond un llyfr dwi wedi darllen o fewn y flwyddyn ddiwethaf, ac wedi rhoi gorau iddi ar ôl y paragraff cyntaf, penderfynais byddai'n syniad da i mi gymryd y cwrs Ysgrifennu Creadigol. Ar ôl i bawb ddewis, cawsom amser rhydd ac aethom i chwilio am ein llofftydd. Roedd un fi yn cael ei rannu gyda thri o bobl eraill, a diolch byth doeddent ddim yn chwyrnu.
Roedd yr adeilad wedi'i leoli ynghanol nifer o gaeau gyda defaid ac yn cynnwys ystafell gemau (tri bwrdd tenis bwrdd a Connect 4 mawr), lolfa gyda theledu! (rhywbeth annisgwyl gan ein bod yn ganol unlle) ac yn amlwg amryw lofft (y genethod i fyny'r grisiau a'r bechgyn i lawr grisiau).
Ar ôl darganfod ein hystafelloedd dadbaciwyd y bagiau ac yna aethom i'n hamser rhydd. Es i'r ystafell gemau lle'r oedd amryw o bobl ac eisteddais yn un o'r cadeiriau. Ar ôl ychydig aeth pawb o'r ystafell ac roeddwn ar ben fy hun, ond dim am hir ar ôl i un o olygyddion theSprout ofyn a oeddwn eisiau gêm. Gan ddweud ia cychwynnom chwarae tenis bwrdd a sylweddolais fy mod i wir yn mwynhau'r profiad ac yn gystadleuol eisiau curo'r person arall.
Yn hwyr yn y nos roedd y mwyafrif o'r bobl yn yr ystafell gemau ac yn mwynhau eu hunain. Gofynnodd rhywun i mi chwarae tennis bwrdd gyda nhw, y tro hyn gyda phedwar o bobl, ac roeddwn hyd yn oed yn chwarae gêm fach slei o Connect 4 yn erbyn y tîm arall (rhywbeth roeddent yn dda iawn yn chwarae).
Wrth i'r noson ddod i ben penderfynodd rhai ohonom fynd i'r gwely, finnau yn un ohonynt. Roedd hyn yn rhoi cyfle da i bawb ddod i adnabod y bobl roeddent yn rhannu ystafell gyda nhw yn well.
Dydd Dau
Yn fuan y bore cawsom ein deffro gan gnocio uchel a llais yn dweud wrthym ei bod hi'n 7:30yb. Gan fy mod i'n hanner cysgu penderfynais gymryd cawod, a chael braw fod y d?r yn gynnes.
Ar ôl y gawod es i'r ystafell fwyta i gael brecwast ac roeddwn yn hapus iawn fod ganddynt Coco-Pops. I gyfaddef, cefais tair bowlen ac roeddwn yn eu bwyta fel petai hwn yn bryd diwethaf i mi.
Yn ystod brecwast gofynnodd golygydd arall o dîm theSprout i mi pa gwrs RhCA roeddwn yn ei wneud. Ar ôl cael gwybod nad oeddwn yn darllen nac yn ysgrifennu straeon atebodd "O, mae hynny yn dda iawn, byddai llawer o bobl ddim yn ei wneud gan ei fod yn rhywbeth newydd". Gwenais.
Ar ôl i bawb arwyddo i fyny am gwrs gwnaethant yn sicr fod niferoedd y grwpiau yn gyfartal, a chafodd pawb ei roi ar y cwrs roeddent wedi'i ddewis. Yna cawsom ein gwahanu a chychwyn ein cwrs. Fel torri'r ia aethom o gwmpas y bwrdd a chyflwyno ein hunain gan ddweud ein henw a'r llyfr neu'r erthygl ddiwethaf i ni ddarllen neu ysgrifennu.
Wrth i mi esbonio fy mod wedi rhoi gorau iddi ar ôl paragraff cyntaf y llyfr ymateb un o'r golygyddion CLIC oedd "Efallai fod hynny yn rhan allweddol o unrhyw lyfr, i sicrhau fod y cychwyn yn afaelgar ac yn adlonni fel nad yw'r darllenydd yn colli diddordeb". Cyngor da roeddwn i'n feddwl.
Cychwynnom drwy lenwi'r bylchau yn ein llyfryn gwaith ac ysgrifennu cynllun i arwain ni. Roedd fy stori i am hen ddyn a'i wraig yn cynllunio eu pen-blwydd priodas 50 mlynedd, ond ychydig cyn hyn mae'r wraig yn disgyn yn sâl ac yn marw. Mae'r dyn yn dioddef o iselder ac yn troi i mewn i ddyn blin, yn casáu'r mwyafrif o bobl. Yna, ar y pen-blwydd priodas mae popeth yn dod yn ormod iddo ond mae'n cael ei achub gan rywun ar y funud ddiwethaf oedd wedi cyfarfod a helpu ei wraig cynt. Mae'r dyn yn goresgyn ei galar ac yn cael ei ysbrydoli i helpu pobl sydd yn yr un cyflwr a'i wraig pan roedd hi'n sâl.
Cawsom gyfnod hir i ysgrifennu disgrifiad byr o beth fydda'n digwydd yn y cychwyn, canol a'r diwedd ac yna'n rhoi mwy o fanylion o fewn pob pennod. Roedd hyn wedyn yn caniatáu i ni ysgrifennu ein straeon ar liniaduron Mac a hefyd yn gadael i ni ddisgrifio ein straeon drwy archwilio gwybodaeth trwy'r rhyngrwyd.
Ychydig wedyn siaradodd y gr?p am rywbeth sydd wedi digwydd iddynt dros y flwyddyn ac roedd angen i bawb wneud stori i fyny am beth ddigwyddodd i'r person yna h.y. sut roeddent yn teimlo a beth ddigwyddodd.
Ychydig wedi cychwyn, roedd cinio'n barod. Golygai hyn llawer o fwyd fel rhôl selsig, selsig ac ati. Roedd y pwdin yn grymbl afal blasus iawn. Ar ôl cinio trafodom pa weithgareddau fydda'n digwydd ac aethom i gael ein hunain yn barod, golygai hyn newid rhag ofn i ni gael yn wlyb ac yn fwdlyd. Unwaith roeddem wedi newid casglodd pawb at ei gilydd yn yr ystafell fwyta a chael ein cyflwyno i'r bobl fydda'n dangos ac yn helpu ni gyda'n gweithgareddau.
Gwahanwyd ni i dimau o 15, ac yna i dimau o ddau eto ar ôl cael ein gweithgaredd. Tîm 1 oedd ar y wal ddringo ac yn abseilio tra roedd Tîm 2 ar y wifren sip. Yn Nhîm 1 roedd rhaid i ni gefnogi ein gilydd drwy afael mewn rhaff i sicrhau na fyddai'r person oedd yn dringo yn disgyn ac yn annog nhw drwy ddweud eu bod yn gwneud yn dda ac yn agos i'r brig.
Fi oedd un o'r rhai diwethaf i fynd, ac ar ôl gweld pawb arall nid oeddwn yn ofni o gwbl gan iddynt wneud iddo edrych yn hawdd. Cysylltodd un o'r aelodau tîm fi i'r rhaff fel gallaf symud ymlaen. Cerddais at y wal, rhoi fy nhroed dde ar y garreg camu a thynnu fy hun i fyny gan roi fy nhroed chwith ar y garreg camu nesaf. Yn amlwg, parhaodd hyn i fyny'r wal. Unwaith cyrhaeddais hanner ffordd roedd y wal yn gorffen a nawr yn dod yn ddarnau o bren trwchus wedi gosod ar ongl.
Roedd hi'n braf bod ar ongl a ddim yn dringo'n syth i fyny ond yn anffodus, oherwydd hyn, gallwn weld gweddill y tîm ar y llawr pan edrychais i weld ble i roi fy nhroed. Wrth gwrs, gan weld nhw roeddwn yn gweld yr uchder hefyd, a gan fy mod yn un sydd yn ofn uchder, roeddwn yn teimlo'n anghyffyrddus iawn.
Wrth ddringo collais hyder yn fy ngallu i gyrraedd y brig. Gyda fy nghorff yn crynu tynnais fy hun i fyny dwy garreg arall, gan orfod edrych i lawr eto. Yna dechreuais banigio.
Erbyn hyn mae'n rhaid bod gweddill y tîm wedi gweld fy mod i mewn trafferth ac felly roeddent yn annog ac yn rhoi cyngor i mi i roi un llaw i fyny un garreg a thynnu fy hun ymhellach. Roedd hyn yn cymryd ymdrech mawr gan fy mod i bellach yn llawn nerfau, ond gyda'r gefnogaeth cyrhaeddais y brig o'r diwedd lle roeddwn yn gafael yn dynn am fy mywyd.
Ac, fel petai hynny ddim yn ddigon anodd, roedd rhaid i mi nawr wneud fy ffordd ar draws llawr metel roeddet ti'n gweld drwyddo. Gan gyfarfod gydag ychydig o aelodau'r tîm ar gyfer yr abseilio disgwyliom yn amyneddgar am ein twrn i ni.
Gollyngodd y person o flaen ei helmed diogelwch ar ddamwain, ac ymddangosai fel petai'n cymryd am byth i gyrraedd y llawr, gan wneud twrw mawr wrth daro'r concrid. Gan fod hwn yn gwymp syth roeddwn lawn nerfau eto.
Pan roedd hi'n gyfle i mi roi'r menig ymlaen (er mwyn osgoi llosg rhaff) a chael fy nghlipio yn ddiogel i mewn i'r harnais, cefais wybod sut i ollwng fy hun drwy lacio gafael ar y rhaff oedd yn fy nal. Plygais i lawr bron fel petawn i'n heistedd a rhoi fy nghoesau trwy'r twll.
Yna gorfodais fy nghorff crynedig i wneud naid fach a gafael ar y rhaff yn syth unwaith eto. Roeddwn wedi cynhyrfu ond yn nerfus iawn. Wrth i mi ollwng fy hun cychwynnais ddod yn llai nerfus a chychwyn mwynhau'r ychydig eiliadau yn symud tuag at y llawr. Teimlais fel aelod o'r SAS ar hyfforddiant.
Ar ôl y diheurbrawf hwn penderfynais fy mod wedi cael cymaint o hwyl yn dringo waliau ac yn abseilio fel fy mod eisiau trio rhywbeth arall. Cawsom gyngor i gyfarfod gydag un o staff y ganolfan ger y wifren sip. Golygai hyn dringo uchder tebyg i gynt ond y tro hyn yn dringo ar ddarnau o bren cylch wedi siapio'n gymhleth, ac roedd hyn yn golygu twistio'r corff a chael synnwyr am gyfarwyddiadau. Gan nad oes gen i'r sgiliau hyn, roeddwn yn cael trafferth. Yn lwcus dilynais y person o'm mlaen nes iddi ddweud wrthyf droi'n ôl gan nad oedd ffordd drwodd. Teimlais banig yn gorfod dringo i lawr a gan fy mod i'n denau iawn roeddwn ofn llithro rhwng y pren a disgyn y rhan fwyaf o'r ffordd i lawr.
Diolch byth, wedi ychydig eiliadau, gwelodd ffordd drwodd ac aethom yn ein blaen. Unwaith cyrhaeddom y brig roedd cwrs bychan lle'r oedd rhaid cael balans dda. Nid oedd rhaid ei wneud ond gan fod yr aelod arall yn cymryd rhan meddyliais waeth i mi gael tro hefyd. Unwaith cyrhaeddom y wifren sip ymunodd aelod tîm arall â ni a chychwyn gwneud sylwadau gwirion. Roeddwn yn meddwl eu bod nhw'n ddoniol iawn.
Ar ôl cael ein clymu i mewn gollyngais fy hun oddi ar yr ymyl a sleidio i'r gwaelod, rhywbeth mwynheais yn fawr iawn a chefais hyd yn oed ail dro, y tro hwn yn neidio oddi ar yr ymyl. Ar ôl i bawb gael tro casglodd pawb ger y drws tu allan. Wrth i ni fynd drwy'r drws teimlais fel Alice In Wonderland. Roedd y nenfwd mor isel fel bod rhaid plygu i symud.
Roedd un person yn lwcus gan ei bod hi'n gallu sefyll yn syth, ac roedd pawb wedi gwirioni efo hyn. Fel darganfuwyd, ogof tan ddaearol oedd yr ystafell hon (wedi'i wneud o bren ac efo rhwystrau yn y twneli fel pibell blastig, darnau o bren ayb). Esboniodd y dyn fod nifer o oleuadau yn yr ogof, sydd ar switsh pylu. Y tro cyntaf byddwn yn mynd i mewn bydd y goleuadau ymlaen yn llawn, yr ail waith wedi pylu a'r trydydd gwaith i ffwrdd.
Aethom i gyd i mewn i'r twneli gyda'r goleuadau ymlaen ac roedd rhai rhannau yn eithaf tywyll ond roeddem yn gallu gweld ble roeddem yn mynd. Roedd hi'n hwyl fawr cropian ac yn ceisio pasio'r rhwystrau. Es yn ôl i mewn pan roedd y goleuadau wedi pylu yn rhoi fy llaw o flaen fy llygaid i osgoi cael fy nghicio yn fy wyneb (gan ein bod yn eithaf agos at ein gilydd).
Ar ôl meddwl fod ail waith ychydig anoddach es i mewn am y tro diwethaf mewn tywyllwch llwyr. Roedd hi'n od gwybod bod pobl o'm mlaen a ddim ond yn eu clywed. Roeddwn tu ôl i aelod tîm anhygoel oedd yn dweud ble roedd ef a beth oedd yn dod i fyny. Roedd hyn yn helpu fi i symud o gwmpas y rhwystron. Ar ôl mynd rownd amryw gornel a gwasgu rhwng tiwbiau gwelais olau o'r diwedd. Gyda'r person o'm mlaen cropiais yn ofalus tuag at y golau. Unwaith cyrhaeddais ddiwedd y twnnel codais a tharo fy mhen ar y nenfwd, ac eto ychydig eiliadau wedyn.
Ar ôl gorffen yn yr ogofeydd cerddom i fyny lwybr a dod at dargedau saethyddiaeth. Doeddwn i erioed wedi gwneud saethyddiaeth o'r blaen yn fy mywyd, felly roeddwn yn anobeithiol mewn gwybod sut i ddefnyddio bwa a saeth. Gan sylweddoli pa mor anobeithiol oeddwn i, derbyniais help gan aelod tîm cyfeillgar (yr un aelod tîm ollyngodd ei helmed).
Gan ei bod nhw wedi gwneud hyn o'r blaen cefais wybod sut i sefyll, sut i lwytho saeth a sut i saethu'n gywir. Gyda'r wybodaeth a'r help yma llwyddais daro'r targed heb fethu unwaith. Roeddwn mor hapus.
A dyna ni am y gweithgareddau awyr agored. Aethom yn ôl i'r adeilad a newid i ddillad cynnes a chael pryd nos, y tro hyn yn cael cacen sbwng gyda chwstard cynnes fel pwdin. Ar ôl y pryd hwn, aethom yn ôl i'n cwrs RhCA i orffen ein gwaith. Ar ôl hyn roedd pawb yn cyfarfod yn yr ystafell fyw i gael hwyl.
Roedd 'Mae Gan CLIC Dalent' yn wych, gyda llawer o bobl dalentog yn dangos eu sgiliau. Mae'r fideos yma wedi cael ei lwytho ar dudalen YouTube CLIC ers hyn sydd yn atgof gwych i gael. Ar ôl y sioe dalent cawsom karaoke lle'r oedd nifer o bobl yn canu ac yn chwarae'n wirion.
Mwynheais yr amser roedd pawb yn treulio gyda'i gilydd yn fawr iawn. Ar ôl i bopeth ddistewi cafodd pawb amser rhydd a gwahanu. Ar ôl aros yn yr ystafell fyw am dipyn es i lawr y grisiau i weld tipyn o bobl yn eistedd yn yr ystafell fwyta.
Gan fy mod yn swil eisteddais ar fwrdd gyferbyn â nhw ger y drws. Wrth sylwi fy mod ar ben fy hun gofynnodd un o aelodau CLIC i mi ymuno gyda nhw gan ddweud nad oedd hi'n brathu. Chwarddais ac ymunais â nhw. Roedd ganddynt fag llawn o fwyd a gwagiodd hwn dros amser. Roeddent yn foesgar iawn yn cynnig bwyd i mi. Treuliodd pawb amser hir o gwmpas y bwrdd yn siarad ac yn cael hwyl.
Roedd hi'n mynd yn hwyr felly roedd yr aelod CLIC yn ceisio awgrymu ei bod hi'n hwyr iawn a bod arni eisiau cysgu, ond dwi'n meddwl, gan ei bod yn noson ddiwethaf ar y preswyl, roedd pawb eisiau gwneud iddo barhau mor hir â phosib. Cyn hir ymunodd mwy ac aethom i ffwrdd i wneud gweithgaredd arall. Awgrymodd rhywun i fyn i'r lolfa a gwylio teledu. Cytunodd pawb ac aethom i fyny.
Wrth i mi deithio i fyny'r grisiau gofynnodd yr aelod CLIC os oeddwn yn mynd i'r gwely. Gwenais gan ddweud "na" ac roedd hi'n edrych yn siomedig braidd. Eisteddom i lawr o gwmpas y teledu yn bwyta creision ac yn treulio'r amser oedd ar ôl yn gwylio The X Factor.
Pan orffennodd am 3yb penderfynodd hanner ohonom fynd i'r gwely (gan gynnwys fi) tra roedd y lleill wedi aros i fyny ychydig hirach, dwi'n tybio i wylio The Xtra Factor.
Dydd Tri
Unwaith cododd yr haul a disgleirio i mewn i'm hystafell roedd curiad arall ar y drws, ond y tro hwn, am ryw reswm, am 8 o'r gloch tra cafodd y lleill eu deffro ar yr amser arferol o 7:30yb. Unwaith eto cefais gawod ac es i'r ystafell fwyta i fwyta'r Coco-Pops hyfryd.
Wedi brecwast, aethom i fyny i'r ystafell fyw unwaith eto i ddangos ein ffilmiau, straeon, barddoniaeth a lluniau. Roedd yn wych gweld gwaith pawb a beth roeddent wedi bod yn wneud.
Roedd yn amser gwerthuso ein penwythnos yn y ganolfan gan roi adborth ar bethau fel 'sut oedd y bwyd?', 'sut oedd y llety?' ayb. Unwaith gorffennom cawsom ein crysau-t CLIC (woo hoo!) a chychwyn allan i gael tynnu llun pawb.
Yn anffodus roeddwn yn edrych yn ofnadwy [nac oeddet! – golygydd :)] ond roeddwn yn falch fod y llun wedi'i dynnu fel bod pawb yn cofio pwy oedd yno. Unwaith roeddem wedi pacio, roeddem yn barod i fynd adref. Roedd hyn yn drist iawn gan fod pawb wedi cael ymlaen mor dda dros y penwythnos.
Aeth pawb i mewn i'w bysiau a gadael gan godi llaw wrth fynd. Stopiwyd am fwyd ac yn od iawn cyfarfûm gyda'r tîm arall o De Cymru ychydig funudau wedyn wrth iddynt ddod drwy'r drws. Ar ôl dweud hwyl fawr unwaith eto, roeddem ar ein ffordd gartref yn cofio am y penwythnos gwych roeddem wedi'i gael. Roedd y golygydd CLIC, Ryan, yn ddigon caredig i ollwng fi yn fy nhref i.
Gyda'r holl weithgareddau a'r wynebau newydd roeddwn wedi'i gyfarfod, dwi'n falch fy mod wedi mynd. Byddwn yn bendant yn awgrymu preswyl i unrhyw un a phawb!
Gweler fideos o'r preswyl ar www.youtube.com/user/cliconline
Fydda ti'n hoffi dod ar y preswyl CLIC nesaf? E-bostia ryan@cliconline.co.uk i ddarganfod sut!







