Fy Mhrofiad Gwaith
Yr wythnos ddiwethaf dw i wedi bod ar wythnos o brofiad gwaith gyda chwmni dylunio graffigol o’r enw "Burning Red" sydd wedi'i leoli ym Mae Caerdydd.
Mae'r cwmni yn un proffesiynol iawn ac ar hyn o bryd yn gweithio ar bob math o wahanol brosiectau gan gynnwys y wefan yma.
Mi ddechreuais yr wythnos drwy ymchwilio drwy gylchgronau gwahanol ar gyfer ysbrydoliaeth i greu "Stop Motion". Penderfynais selio'r "stop motion" ar y math o ddoli o’r enw doli "Blythe" tebyg i'r rhai y gwelir ar hysbyseb "diet coke".
Roedd yn rhaid ymchwilio am wahanol fathau o’r ddoli yma er mwyn ysbrydoliaeth a dewis ffefryn i ddylunio fy un i. Ar ôl gorffen ymchwili roedd yn rhaid mynd ati i ddylunio'r ddoli a'i thorri allan o gerdyn. Er mwyn cael y ddoli i symud roedd yn rhaid iddi gael ei roi gyda'i gilydd gyda "push pins".Yna ar ôl creu stori fwrdd mi osodais i hi ar sgrin werdd a thynnu lluniau ohoni yng nghamau gwahanol y stori. Yna roedd yn rhaid llwytho’r lluniau i gyd i'r cyfrifiadur a gosod golygfeydd gwahanol fel cefndir.
Y Diwrnod Olaf.
Roedd y diwrnod olaf yn brysur iawn gan osod yr effeithiau cywir ar y lluniau a chreu'r fideo gorffenedig. Roedd yn rhaid "cropio'r" lluniau a'i ffocysu ar bwynt penodol yn y fideo er mwyn dal y ddoli mewn man arbennig ac fel ei bod yn aros yn llonydd heb neidio o gwmpas. Felly erbyn 5 roedd y fideo wedi'i gwblhau ac yn amser i adael y swyddfa a dechrau ar y daith yn ôl adref i Fachynlleth.







