Fy Straeon O'r Preswyl CLIC
Cafodd y straeon hyn eu hysgrifennu ym Mhenwythnos Preswyl CLIC fel rhan o'r RhCA mewn Ysgrifennu Creadigol. Bydd mwy o stwff i ddilyn o'r preswyl yr wythnos hon.
Stori HMS Manchester
Yn ddiweddar ysgrifennais lythyr i gapten yr HMS Manchester i ofyn ychydig o gwestiynau am y criw, ond yn bennaf roeddwn eisiau gwybod os ydynt yn cefnogi Manchester United. Gofynnais nifer o gwestiynau eraill am y llong, ble roeddent a sut beth ydy bod ar long yn bell o dy deulu. Cefais ymateb wythnos wedyn gan y capten ac atebodd y mwyafrif o fy nghwestiynau. Ni allai ateb pob un gan y gallai rai cwestiynau ddatgelu gwybodaeth sensitif.
Cefais wybod pan mae'r llong yn y porthladd ger Manceinion, ac os oes gêm pêl droed ymlaen gyda'r tîm maent yn cefnogi, yna gall holl griw'r llong gael tocynnau am ddim. Cefais wybod hefyd eu bod wedi teithio ymhell iawn, er ni ddatgelodd y capten yn union ble roeddent wedi'i fod.
Cefais lun diweddar o'r llong hefyd, tra roedd yn y porthladd ger Manceinion; roeddwn yn teimlo'n bwysig ac yn arbennig iawn gyda'r ymateb yma ac roeddwn hefyd yn hapus i ddarllen os byddwn i byth yn digwydd bod yn agos i ble mae'r llong wedi'i ddocio byddai'r criw yn hapus i gyfarfod gyda fi.
Sioe Iron Maiden Jess
Roedd Jess wedi cynhyrfu'n fawr i gael gweld Iron Maiden yn fyw yng Nghaerdydd. Hyd yn oed gwell cafodd i mewn am ddim gan fod ei thad nid yn unig efo ffrind yn y CIA ond hefyd yn adnabod un o aelodau'r band yn dda iawn gan iddynt dyfu i fyny gyda'i gilydd ac yna arfer jamio gyda'i gilydd yn y gorffennol. Cyrhaeddwyd y CIA pum munud cyn i'r drysau agor ac ymuno yn y ciw i gael mewn; roeddent yn clywed y bobl arall yn cynhyrfu i gael gweld y band.
Pan lwyddodd Jess a'i thad gael i mewn i'r CIA o'r diwedd dywedwyd wrthynt am fynd tu cefn i'r llwyfan; roedd Jess yn hapus iawn a ddim yn credu ei lwc tra roedd ei thad yn hapus i gael gweld ei hen ffrind. Cyrhaeddodd y ddau du cefn i'r llwyfan a daeth Bruce Dickinson allan yn syth gyda'i gitâr a chwarae can personol i Jess, roedd hi'n cochi ac wedi syfrdanu cymaint fel ei bod wedi rhewi i'r man a'r lle ac am unwaith yn ei bywyd yn methu dweud gair.
Yn syth wedi'r gân orffen gallent glywyd y dorf yn galw am y band a dywedodd Bruce wrth Jess a'i thad i eistedd yn y balconi agosaf i'r llwyfan. Wrth wrando ar y band yn chwarae rhai o'i hoff ganeuon cafodd Jess ei synnu eto wrth i Bruce droi rownd a galw ei henw, symudodd y sbotolau arni ac roedd ei thad yn clapio ac yn mwynhau'r gân.
Pan orffennodd y sioe daeth Bruce drosodd i'r balconi a chynnig y cyfle i Jess a'i thad i dreulio ychydig o amser gyda nhw tu cefn i'r llwyfan cyn iddynt orfod gadael.
Newyddion – Ysgrifennu Creadigol
Erthygl berthnasol: Cyflwyniad Ysgrifennu Creadigol







