Gadael Ysgol
Mae gadael ysgol yn un o’r pethau mwyaf ti’n wynebu mewn bywyd.
Y dyddiau hyn mae’n anoddach gan fod llai o waith allan yna a mwy o bobl yn ceisio amdanynt.
Fe es i ar wefan swyddi yn ddiweddar ac roedd bron i 200 yn ceisio am y rhan fwyaf o’r gwaith ti ddim angen gradd i wneud.
Mae’n benderfyniad enfawr i wneud dewis gyrfa. Dwi wedi cael chwe swydd mewn gwahanol feysydd gwaith a dwi dal ddim wedi darganfod y math o waith dwi eisiau. Dim ond pan gychwynnais wirfoddoli roeddwn i wedi darganfod yr yrfa roeddwn i eisiau.
Doeddwn i byth yn gwybod ble i droi na pwy i fynd ato am gyngor. Dim ond dau ddiwrnod yr wythnos roedd y cynghorydd gyrfa yn gweithio yn ein hysgol ni. Roedd hi’n anodd iawn cael apwyntiad ac yr unig gymorth yn cael ei roi i’r disgyblion oedd yn y set isaf. Dwi’n gwybod fod angen mwy o gymorth arnynt ond nid yw addysg uwch i bawb.
Dwi’n meddwl dylai fod blwyddyn o brofiad gwaith i rai sydd yn gadael ysgol. Fe ddylai nhw allu mynd i mewn i swyddi i weld sut beth ydynt o ddifrif. Mae yna cymaint o bobl sydd yn casáu eu swyddi a byddai cael profiad gwaith yn gymorth mawr i benderfynu am y swydd yna am weddill oes.
Dwi’n gwybod bod posib ail-hyfforddi yn hwyrach mewn bywyd, ond os wyt ti’n gallu darganfod y swydd ddelfrydol ar y cychwyn, yna byddai bywyd yn gymaint haws.
Tudalennau Addysg
Tudalennau Cyflogaeth a Hyfforddiant
Gyrfa Cymru







