Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gofal Trenau Alstom

Postiwyd gan kranenvuhurr o Conwy - Cyhoeddwyd ar 26/01/2012 am 16:00
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Addysg, Amgylchedd, Materion Cyfoes, Teithio, Yn Gymraeg

  • t1
  • t2
  • t3
  • t4
  • t5

English version

Dwi wedi bod yn lwcus iawn i ymweld ag un o storfeydd mwyaf Alstom, ble mae cynnal a chadw yn cael ei wneud ar y fflyd adran 175 a'i adolygu i CLIC.

Ar ddydd Gwener 4 Tachwedd 2011, roeddwn i a chyd aelodau o Fflintyr Ifanc wedi cyffroi wrth i ni gyrraedd gorsaf trên Gaer am 10 o'r gloch y bore.

Disgwyliom tan tua hanner awr wedi deg cyn gwneud ein ffordd i'r storfa.

Yn nerfus, disgwyliom yn yr ystafell ddisgwyl, ddim yn gwybod beth i ddisgwyl nes cawsom ein cyfarfod gan y swyddog iechyd a diogelwch, oedd yn ddyn neis iawn. Ysgwydom ei law ac aethom i mewn i ystafell briffio. Roeddwn i wedi cynhyrfu'n lan erbyn hyn.

Aethom i fyny'r grisiau lle cyfarfuwyd gan ddelweddau o'r storfa neu luniau o'r 175 ar hyd arfordir Gogledd Cymru yn y lifrai Arriva. Eisteddom o gwmpas bwrdd lle cawsom ein briffio ar ddiogelwch a chael gweld llinell amser o sut mae Alstom wedi datblygu dros y blynyddoedd a ble mae nhw nawr.

Yn ystod y llinell amser yma, dysgais ychydig o ffeithiau diddorol iawn, nid yn unig am ein man geni ni ond hefyd am Arriva ac Alstom. Roedd meddwl fod storfa Gaer yn arfer bod yn sied stem ar gyfer y Rheilffordd Great Western yn gwneud i mi deimlo byddai'r etifeddiaeth yma yn parhau i fod yn rhan o hanes am byth.

Ond, yn 1960 cafodd y siediau eu troi i mewn i storfa disel ac yn gartref i tua 100 o unedau defnyddir trwy Ogledd Cymru. Yn 1997 cafodd y storfa cynt ei gau a rhoddwyd y cytundeb o Railtrack i adeiladu storfa newydd. Cafodd yr hen storfa ei ddymchwel ac un newydd ei gwblhau yn Rhagfyr 1999.

Cafodd y trenau eu harchebu yn 1996 a phwrpas Gofal Trenau Alstom, fel ydyw bellach, oedd cartrefu'r cerbydau cledrau newydd. Cynhyrchwyd dau fersiwn o'r Coradia 1000 gan Alstom. Fersiwn 100mya a 125mya.

Roedd y fersiwn 125mya i fynd i lawr i'r de ond tan hynny byddai'r fersiwn 100mya, i ddod yn 175 cyn hir, yn cymryd rheolaeth o siwrneiau Blackpool tan roedd yr unedau 185 wedi cael eu cynhyrchu. Cafodd yr uned gyntaf ei brofi yn fis Hydref 1999 ble roedd y 175101 yn cael ei dreialu yn Kidderminster.

Ond yr uned gyntaf i gyrraedd Caer oedd 175003 ar Noswyl Nadolig 1999 oedd wedi mynd drwy arbrofi egniol yn y Rheilffordd Dyffryn Hafren i helpu addasu'r trên ar gyfer perfformiad effeithlon. Wrth i'r amser basio cyrhaeddodd mwy o unedau yn Alstom ac roedd y storfa yn meddwl ei bod hi'n fwy cynhyrchiol i gyflogi gyrwyr eu hunain i siyntio cerbydau'r cledrau.

Yn 2000 gwobrwywyd y cytundeb cynnal a chadw gan Drenau Angel i Alstom ar 3ydd Ionawr 2000. Ond yn 2003 doedd trenau First North Western yn bodoli ddim mwy a les-fenthyciodd Trenau Arriva Cymru'r fflyd Trenau Angel. Yn 2005 trosglwyddwyd y 175 cyntaf i lifrai Trenau Arriva.

Hefyd, cawsom weld yr holl ffyrdd mae Alstom yn mesur eu targedau a sut maent yn llwyddo i gael boddhad cwsmer. Un ffordd oedd y bwrdd SQCD sydd yn mesur diogelwch, ansawdd, cost a throsglwyddiad. Mae hwn yn helpu i gadw gwasanaeth effeithlon yn rhedeg ac yn cael ei adolygu wrth drosglwyddo drosodd i shifft nos neu'r shifft dydd.

Ar lawr y gweithdy cawsom edrych o gwmpas 175 oedd yn cael atgyweirio injan. Gan ei fod yn uned tri char, mae hyn yn cymryd bron i wythnos i gwblhau. Mae unrhyw ddarnau sydd wedi difa yn cael ei newid ac mae unrhyw wasanaethu sydd angen ei wneud yn cael ei gwblhau wrth iddynt lanhau'r ei lanhau yn drylwyr.

Fe welsant wedyn sut mae'r jaciau yn gallu codi uned tri char i gyd gyda'i gilydd. Ond y peth mwyaf anhygoel gwelais oedd y 'bogie drop', sut mae'n symud bogies, ac yn rhoi'r bogies ar drac arall i newid set olwynion.

Mae uchafu trenau a sut maent yn rhedeg hefyd wedi dod yn sialens fawr i Alstom gan fod y 175008 yn cael ei dreialu gyda disgiau brêc hollt haearn bwrw yn hytrach na disgiau confensiynol. Y fantais o ddisgiau haearn bwrw ydy ei bod nhw'n parhau am lawer hirach. Mae Alstom yn ceisio cyflawni un filiwn o filltiroedd allan o'r olwynion sydd wedi'u ffitio i'r uned yma.

Yna fe welsom dau drên ar archwiliad A, sydd yn profi pwysedd, drysau a diogelwch o fewn y trenau. Gwelsom hefyd y planhigion golchi, sydd yn galluogi i 175 gael ei olchi a'i sychu i dymheredd o finws deg gradd. Mae hyn yn rhwystro rhew rhag ffurfio ar y trenau ar ôl cael eu golchi a'u cadw dros nos.

Roedd y ffordd tanwydd yn rhyfeddu fi, gyda faint o danwydd oedd yn gallu cael ei gario ar y 175. Yn nhermau gwastraff a'r gwarediad o danwydd, mae'r storfa yn seiliedig ar hambwrdd diferion mawr, a prin mae'r Alstom yn cael ei wagio gan fod holl golled tanwydd neu olew yn cael ei ymdrin ag yn y ffordd angenrheidiol.

Yna aethom yn ôl i fyny'r grisiau i'n hystafell cyfarfod cyn gorffen y daith. Gorffennwyd drwy gyfarfod rheolwr y storfa. Darganfuwyd faint o ymdrech sydd yn digwydd tu ôl i'r drysau haearn i helpu cadw Trenau Arriva Cymru i weithredu/

Mae hwn yn helpu ni i gymudo i hyfforddiant, cyfweliadau ar amser neu hyd yn oed i gwblhau pethau dyddiol fel siopa. Er fy mod i'n ffan fawr o beirianneg ac yn gyn peiriannwr, roedd yn wych i weld y dechnoleg sydd gan Alstom. Mae'n dangos yr ochr dda i drafnidiaeth a pa mor gyffrous ydy hi i gymryd y trên a faint o hanes sydd yng Nghymru a Lloegr gyda'n linciau rheilffordd.

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o helpu trefnu'r daith a dangos ni o gwmpas y storfa. Yn olaf, hoffwn hefyd ddiolch i bawb sydd wedi bod tu ôl i'r llenni i helpu ni gyda'n hadolygiad.

Tudalennau Trafnidiaeth

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50