Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

GLC Yn Taro'n Ôl

Postiwyd gan EmilyJaneCole o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 16/08/2010 am 16:01
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Comedi, Cerddoriaeth, Pobl, Technoleg, Materion Cyfoes

English version

Pa un ai os wyt ti’n caru nhw neu’n casáu nhw, dydy’r cyffro rapio Cymraeg Goldie Lookin Chain byth yn ffaelu i greu caneuon doniol a gafaelgar. Wythnos diwethaf rhyddhaodd GLC fideo ar YouTube na weler ei math – parodi o barodi.

Mae’r band, a ddaeth yn enwog yn 2004 yn dilyn eu sengl rhif 3 Guns Don’t Kill People, Rappers Do, yn ymateb i’r fideo Newport (Ymerodraeth State of Mind) a gafodd ei ryddhau ychydig fisoedd yn ôl fel parodi o sengl lwyddiannus Jay-Z a Alicia Keys, New York (Empire State of Mind), ac aeth yn firaol yn sydyn iawn gyda dros 2.6 miliwn golwg. Cafodd y fersiwn hwn ei dynnu oddi ar YouTube yn gan y meistr cerddoriaeth EMI yn dilyn torri hawlfraint wythnos diwethaf.

Ond, cyn iddo gael ei dynnu postiodd GLC fersiwn nhw o’r gan Newport State of Mind (You’re Not From Newport) ac aeth hwnnw hefyd yn firaol o fewn ychydig oriau. Siaradodd Rhys, y prif ddyn yn y fideo, wrthym am sut digwyddodd yr holl beth.

“Roeddem yn meddwl byddai’n ddoniol i wneud y diwn. Roedd y rhan fwyaf o’r bobl yng Nghasnewydd yn eithaf dig am fod y bobl oedd wedi gwneud y fersiwn firaol gwreiddiol o Swindon. Roeddem yn dweud beth mae pobl yn ei feddwl. Hiwmor da ydy’r holl beth, mae fel yr hen frwydrau hip hop ond heb y gynau a ddim o America.

“Roedd ysgrifennu’r geiriau yn hawdd gan i ni bigo fyny o’r cyfeirio anghywir i Gasnewydd yn y fersiwn arall. Ysgrifennwyd a’i recordio o fewn ychydig oriau a saethwyd y fideo mewn dwy awr. Bosh!”

Ond ydy Rhys yn poeni fod fideo’r band yn mynd i ddioddef yr un ffawd ag Ymerodraeth State of Mind?

“Dwi’n sicr y gwnaiff. Dwi’n sicr bydd eu fersiwn nhw am gael ei ryddhau. Roeddwn yn siarad gyda’r bobl yn EMI ac roedden i weld yn dangos eu bod mewn trafodaethau gyda nhw.”

Mae GLC wedi bod yn ddistaw am amser ond nawr maent ôl ac yn llawn bywyd; fideos parodi, yr ail dâp cymysg a llawer mwy o’u rapio gwaradwyddus Cymraeg. Cymera olwg ar y fideo a dweud wrthym beth wyt ti’n ei feddwl. Mae wedi cael adolygiadau cymysg ar YouTube, beth wyt ti’n ei feddwl?

DELWEDD (mân lun): ide0tech

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.