Gwaith Budr
Rhybudd: Mae’r erthygl hon yn disgrifio sut beth ydy gweithio mewn toiled clwb nos. Os wyt ti’n anghyffyrddus efo gwaed a chwyd, paid darllen pellach!
Fe ddes i bwynt llynedd (fy mlwyddyn gyntaf mewn Prifysgol) pan roeddwn wirioneddol angen ychwanegu at fy incwm: roedd fy ail orddrafft yn cael ei ymestyn yn fisol a’r cyntaf wedi’i ddefnyddio ar ôl wythnos y glas. Dim problem, meddyliais; beth fyddai’n haws na ffeindio gwaith rhan amser i roi arian cwrw i mi (a bwyd a phethau angenrheidiol i astudio os wyt ti’n darllen hwn, mam).
Felly cychwynnais wrth geisio am y gwaith myfyriwr clasurol: tu ôl i’r bar, gweini, cynorthwyydd siop…i gyd heb lwc. Felly symudais at y gwaith llai confensiynol wrth i’r angen am arian ddod yn fwy angenrheidiol – cerdded cŵn, gwerthu cŵn poeth – ond dal dim llwyddiant.
Gwariais dri mis yn ceisio am fwy a fwy o swyddi ac yn clywed dim, yn rhoi CV’s allan “rhag ofn i rywbeth ddod i’r amlwg”, nes i mi weld swydd yn cael ei hysbysebu ar un o wefannau recriwtio mwy ‘di-nod’ Caerdydd: i roi syniad i ti o beth ydw i’n feddwl wrth ddweud hynna, cysidra fod y wefan hefyd yn gwasanaethu i hyrwyddo swyddi gwag am ferched ifanc tlws sydd yn barod i yrru eu dillad isaf wedi’i gwisgo a llun i ‘ŵr bonheddig cefnog’ (darllena: perfyn) am £50 y pâr. Felly fel yr wyt yn dychmygu nid oedd gen i obeithion uchel.
Y gwaith dynnodd fy sylw oedd un oedd yn cynnig £10 yr awr i’r ymgeiswyr llwyddiannus i weithio shifft pedair-awr mewn clwb nos, tair waith yr wythnos. Ar £120 yr wythnos byddwn wedi talu fy rhent mewn dim ond pythefnos. Dyna ni felly; ffoniais a chynigwyd y swydd i mi, yn cychwyn y dydd Sadwrn hwnnw. Dydd San Ffolant.
Beth fyddai’n fwy rhamantus nag gwario’r noson yng nghwmni pump i chwe chant o ffans rygbi chwyslyd meddw (wedi i mi gael fy mherswadio i wario’r diwrnod yn gwylio’r gêm fy hun). Ffoniais adref i ddweud wrth dad (oedd wedi bod yn cwyno arna i gael swydd ers fy niwrnod cyntaf yn y brifysgol) fy mod i o’r diwedd yn cychwyn gweithio. Efallai fy mod wedi glamoreiddio teitl y swydd ychydig… fe ddywedais fy mod yn mynd i fod yn ‘Goruchwylydd Monitro Closed Dwr’, gyda chyfrifoldeb dros gyfleusterau’r clwb nos. Os nad wyt ti wedi dyfalu erbyn nawr roedd hynny yn golygu roeddwn yn cychwyn fy shifft gyntaf fel glanhawr toiledau Tiger Tiger. Neu ‘cynorthwyydd’ fel roedd yr hysbyseb swydd yn ei ddweud.
Roedd fy treial yn daith sydyn o gwmpas y clwb efo’r rheolwr a ddysgodd i mi hanfodion y gwaith: os yw’n wag, llenwa ef (papur toiled, sebon, papur sychu dwylo) ac os yw wedi arllwys, glanhau o (diod, gwydr, gwaed, chwyd, tampons, dillad isaf wedi’i taflu, snot, poer…BOB DIM).
Chwe mis wedyn ac roeddwn wedi gweithio digon o shifftiau afiach i lenwi ein hunllefau i gyd.
Dwi ddim yn sicr iawn faint y dylwn i ddweud. Nes i ddim arwyddo unrhyw fath o gytundeb cyfrinachedd felly fe ddylem fod yn iawn. Dwi’n ymddiheuro nawr os mai ti oedd y ferch gysgodd am hanner awr cyn i ni dy ffeindio yn reit gyffyrddus ond efo dy ddillad isaf o gwmpas dy ffêr – yn amhosib deffro. Roedd hi’n hollol unionsyth, yn y safle pi pi ond yn cysgu’n sownd. Fe gymerodd fi, rheolwr ac aelod benywaidd o’r staff diogelwch i ddarbwyllo iddi nad y toiledau oedd y lle gorau i gael nap a fyddai’n bosib iddi fynd adref nawr gan ein bod i gyd wedi gweld ei rhannau preifat!
Cysgodd merch arall hefyd, wedi chwydu holl alcohol y noson i fewn i’w glin ac yna llithro fel Amy Williams wrth drio gadael y toiled. Pan lwyddom i agor y drws roedd hi wedi cwympo mewn pentwr ar y llawr ar ôl gorchuddio ei hun a’r pedwar wal mewn chwyd. Roedd rhaid i mi lanhau hwnnw i gyd ar ôl iddi gael ei symud o’r clwb ond dwi wir yn meddwl bod ei noson hi yn waeth nag un finnau.
"Ti isio fi dorri rhywbeth, cariad? Neith o roi rhywbeth i ti wneud" oedd gwaedd un cwsmer brawychus penodol pan welodd fy mod yn darllen a ddim yn mopio. “Dwi ddim yn ysmygu” oedd fy ffefryn personol. Fel arfer yn cael ei ddweud fel roedd cwmwl o fwg sigarét yn gwneud ei ffordd o dan ddrws y toiled a finnau ar fy ffordd i nôl y staff diogelwch.
Yn bell o redeg i’r ganolfan gwaith roeddwn yn mwynhau’r ddrama oedd ar gael yn nhoiledau’r merched. Fi oedd y cyntaf i wybod cariad pwy oedd wedi bod efo pwy. Pwy sy’n ast a pam fod y flondan yn crio i mewn i’w bag.
Doeddwn i ddim yn deall fod gen i stumog mor gryf. Er ei fod yn afiach y rhan fwyaf o’r amser, gwelais y digwyddiadau fwyaf gros rhwng yr oriau roeddwn yn darllen neu’n diflasu yn y toiledau fel rhai eithaf doniol. Nid i’r rhai oedd yn defnyddio’r toiledau, yn anffodus, ond yn bendant i mi.
Os yw unrhyw beth yn hysbysiad yn erbyn y diwylliant ‘yfed binjo’ yna swydd yn y toiledau ydyw. Mae’n anhygoel faint o weithiau roedd genethod yn darbwyllo fod wyth Smirnoff Ice yn gwneud eu llais mor dda â Duffy neu Celine. Dysgais yn fuan iawn fod iPod yn hanfodol os nad oeddet eisiau clywed galwadau parhaol o “(mewnosoda enw geneth), WYT TIIII I FEEWNN YMMMA?”
Yn ogystal, roeddwn bob tro yn clywed “ti ddim yn cael dy dalu digon, cariad” neu “mae’n rhaid bod ti’n casáu dy waith.” Clywais un ddynes fawr benodol, efo daint blaen ar goll a dau strap ei bra i lawr wrth ei phenelin yn dweud wrth ei ffrindiau dylwn i “gael gwaith go iawn.”
Pan ofynnodd un ferch wrthyf, efo’i acen 'prynodd-dad-ferlen-i-mi', “O diar, faint maen nhw’n talu i ti wneud hyn?” Dywedais wrthi a’i ymateb oedd rhoi llaw eiddil ar fy ysgwydd. Gydag aeliau sympathetig a golwg gordidwyll ar ei hwyneb, dywedodd: “Wel da iawn ti ta.” A, cerdded i ffwrdd a’i phen i fyny yn cadw cyswllt llygaid dwys ond ‘dealladwy’; fel mai hwn oedd fy newis gyrfa ac nad oeddwn yn gwybod yn well.
Mae bod heb brofiad tu ôl i’r bar yng Nghaerdydd yn golygu fod cystadleuaeth am waith arall yn eithaf caled. Bu i dad longyfarch mi ar fy swydd newydd drwy ddweud wrthyf ei fod yn sicr y byddai’n “lwybr i bethau gwell.” Dwi’n gobeithio mai dyma’r gwir ac os rhywbeth mae fy ngwaith yn y toiledau wedi rhoi ysbrydoliaeth i mi rannu fy mhrofiad gwaith myfyriwr yn yr erthygl hon, yn ogystal â thalu fy rhent am bron i flwyddyn, felly nid oedd yn ddrwg i gyd. Bu i mi adael y swydd ar ôl y Nadolig: y partïon staff oedd yn dod i’r clwb am eu un trip allan y flwyddyn ac yn ail-addurno’r toiledau. Dwi erioed wedi gweld cymaint o chwyd. Roedden nhw fel arfer yn bwyta pryd mawr o flaen llaw a ddim wedi cael digon o amser iddo fynd i lawr yn iawn.
Yn ogystal, roedd y diflastod a'r unigrwydd sydd yn dod efo gwaith lle rwyt ti’n sgubo papur toiled ystyfnig ar ben dy hun yn dechrau cael fi i lawr ac felly bu i mi adael a chwilio am waith tîm gan ei ddarganfod yn Pizza Hut. Mae hi’r trydydd diwrnod yno nawr a dwi’n teimlo’r gwahaniaeth yn syth. Dim mwy o weddïo fy mod yn baglu ar un o’r amryw dyllau ar bafinau Cathays’ ar y ffordd i’r gwaith – yn derbyn iawndal a noson i ffwrdd o’r gwaith ar yr un pryd. Nawr, dwi’n gwenu am dip, chwerthin efo’r staff ac yn glanhau byrddau, nid toiledau.
Delweddau gan:
Chris Strouth - 'The Very Filthy Toilet'
GorillaSushi - 'How We Roll'








