Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwefan Newydd Yr Urdd

Postiwyd gan welshtyke o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 15/06/2010 am 11:36
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Chwaraeon a Hamdden, Yn Gymraeg

  • Photo 1

English version

Fel swyddog hyfforddi chwaraeon o fewn yr Urdd, yr wyf yn chwilio’n gyson am ffyrdd i ddenu a recriwtio pobl ifanc i wirfoddoli i ymwneud â helpu a chefnogi ein gweithgareddau chwaraeon ledled Cymru.

Ar ôl ymchwilio i wefannau perthnasol, penderfynwyd y byddai gwefan ryngweithiol newydd yn ardderchog i helpu gyda recriwtio a fyddai o fudd mawr i'r adran mewn nifer o ffyrdd eraill.

Mae ein gwefan ar hyn o bryd yn gwneud gwaith ardderchog o hysbysebu'r mudiad ar y cyfan, fodd bynnag, yn dilyn datblygiad diweddar yr Adran Chwaraeon yr Urdd, yr ydym yn teimlo ein bod ni angen cyfleuster i dynnu sylw at y nifer o weithgareddau a chyfleoedd sydd ar gael i'n haelodau.

Y nod oedd denu mwy o wirfoddolwyr a hyfforddwyr yn ogystal ag i hysbysebu ein gweithgareddau cyfredol ac yn y dyfodol i aelodau'r clwb, athrawon a rhieni.

Rydym eisiau gwefan fyddai yn rhyngweithiol, yn addysgiadol ac yn hawdd i’w defnyddio. Ffordd syml i wirfoddolwyr newydd gofrestru eu diddordeb ac i roi cyfle i’n gwirfoddolwyr i lawr lwytho unrhyw adnoddau perthnasol.

Rydym yn ffyddiog bod ein gwefan newydd yn denu sylw ac yn ddeniadol i blant, pobl ifanc a rhieni. Mae'n darparu ffordd gyffrous o ddilyn unrhyw ddatblygiad i aelodau’r clybiau.

Mae’n bosib i rieni gael gwybod am y clybiau sydd ar gael, gallant ymchwilio i bolisi Amddiffyn Plant ac yn y dyfodol byddant yn gallu cael golwg ar glipiau fideo o sesiynau clybiau.

Byddwn yn defnyddio'r wefan i adrodd ar unrhyw weithgareddau blaenorol ac i hysbysebu unrhyw ddigwyddiadau newydd. Mae hefyd yn bosib tynnu sylw at y gwaith yr ydym yn ei wneud gydag awdurdodau lleol a Chyrff Llywodraeth.

Ar ein tudalen gysylltiadau byddwn yn falch o bostio manylion cyswllt sefydliadau y byddwn yn gweithio gyda hwy. Yn ogystal, mae gennym flwch calendr hyfforddi ble fyddwn yn annog unrhyw Gyrff Llywodraeth Genedlaethol i anfon hysbyseb o gyrsiau newydd y byddent yn hoffi hysbysebu yn y blwch yma.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.