Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwersi Cerddoriaeth

Postiwyd gan ANTLERD o Sir y Fflint - Cyhoeddwyd ar 22/06/2010 am 09:28
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Addysg, Cerddoriaeth, Materion Cyfoes

English version

A ddylai cerddoriaeth fod yn fwy perthnasol mewn addysgu?

Credaf y dylid cefnogi pobl ifanc i ysgrifennu cerddoriaeth mewn gwahanol ffyrdd, oherwydd mae rhai ysgolion yn dysgu dim ond canu neu ymarfer côr, yn hytrach nag arddulliau gwahanol o ysgrifennu caneuon neu o gynhyrchu cerddoriaeth.

Rydw i wedi bod eisiau ysgrifennu fy nghaneuon fy hun drwy fy oes. Dydw i ddim wedi gwneud hynny eto ond gyda chymorth gwersi cerddoriaeth yn yr ysgol efallai y byddwn wedi gallu gwneud hynny.

Gofynnais i’m hysgol a fyddent yn gallu fy helpu a dywedwyd na allent wneud hynny oherwydd bod yr hyn y maent yn gorfod ei addysgu wedi ei osod yn barod, ond rydw i’n meddwl y dylai ysgolion gynnwys pobl ifanc yn fwy mewn gwersi cerdd.

Efallai bydd hyn yn magu didordeb mwy o bobl ifanc ac yn rhoi gwell dechreuad iddynt.

Beth ydy dyy farn di?A ddylai ysgolion fod yn fwy hyblyg o ran yr arddulliau a’r gerddoriaeth yu maent yn ei haddysgu?Rhoh dy sylwadau isod.

Hefyd edrycha ar adran cerddoriaeth ein tudalennau gwybodaeth.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.