Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwersyll Girlguiding

Postiwyd gan Rainbow_Drop_5 o Caerffili - Cyhoeddwyd ar 14/06/2010 am 14:54
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Amgylchedd, Gwyl, Pobl, Gweithgareddau Gwyliau Ysgol, Gwirfoddoli

English version

Rydw i’n adrodd o’r Aruthrol Cant Yng Nghymru: Gwersyll Galw Heibio Girlduiding Cymru.

Rydym yn gwersyllu ym maes y Sioe Frenhinol, gyda genethod yn mynychu o bob rhan o Gymru.

Mae dros 600 o enethod yn cymryd rhan, ac rydym yn aros am ddwy noson a thri diwrnod. Rydym wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau fel crefftau, antur, a sialensiau gwahanol.

Rydym hefyd wedi cymryd rhan mewn gweithdai taekwondo,  ffensio, saethyddiaeth,  drysfa meddwl, trin adar a ffuredau a llawer mwy. Fe fwynheais y saethyddiaeth fwyaf.

Yn y dosbarth crefft fe wnaethom gi o lanhawyr pibell, mwclis a hwyaid,  a llawer mwy. Ar y nos Wener cawsom dân gwersyll heb y tân, ble buom yn canu nifer o ganeuon er nad oeddem yn gwybod nifer ohonynt.

Dwi’n hoffi bod yn y Girguides yn fawr iawn gan ei fod o’n llawer o hwyl, a dwi wrth fy modd pan rydym yn cael bathodynnau ac yn trio pethau gwahanol.

Rydym hefyd yn cael gwneud lot o ffrindiau newydd o wahanol lefydd.

LINCIAU

Girguiding Cymru

Girlguiding Cymru ar Facebook

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.