Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwirfoddola

Postiwyd gan jeopreddy o Castell-Nedd Port Talbot - Cyhoeddwyd ar 11/05/2010 am 23:00
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Gwirfoddoli, Yn Gymraeg

  • jess

English version

Dwi wedi bod â diddordeb mewn dinasyddiaeth weithredol ers 2006.

Y peth sydd yn gwneud i mi fod eisiau gwirfoddoli ac i helpu pobl ifanc i leisio eu barn ydy Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).

Yn fy nghlwb ieuenctid lleol mae yna dipyn o fyrddau hysbyseb gyda phosteri, taflenni a.y.b. sydd yn ymwneud â phobl ifanc. Yn ystod y clwb ieuenctid byddwn yn darllen y CCUHP ac yn mynd o gwmpas y clwb yn ebychu fy hawliau. Gofynnodd un gweithiwr ieuenctid, Jan, i mi os oeddwn eisiau ymuno gyda fy nghyngor ieuenctid lleol. Dyna ble gychwynnodd popeth!

Ymunais â Chyngor Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot mis Mawrth diwethaf. Yn ystod y cyfarfodydd rydym yn trafod materion sydd yn effeithio pobl ifanc yn ein hardal ni, ac yna rydym yn dewis tri neu bedwar pwnc i gyflwyno i aelodau’r cabinet.

Mae’r cyngor ieuenctid wedi creu gymaint o gyfleoedd i mi; heb y cyngor ni fyddwn i’n gwneud pethau efo CLIC. Fe es i’r ddau Benwythnos Preswyl Mawr CLIC. Roedd y ddau yn hwyl dros ben ac roedd yn teimlo’n dda fod ein lleisiau yn cael eu clywed.

Fe es i Afan FM, gorsaf radio lleol ni, ychydig o weithiau, yn trafod pynciau yn ymwneud â phobl ifanc. Rhoddodd hyn brofiad i mi yn y cyfryngau ac mae gen i ddiddordeb yn hynny, fel medri di ddweud efo’r erthyglau i gyd rwyf wedi ‘sgwennu.

Dwi wedi gwneud nifer o bethau yn fy nghymuned leol. Ysgrifennais i’m hawdurdod lleol yn gofyn a gallant nhw adeiladu cae criced newydd gan fod yr un sydd yno ddim yn cael ei gadw yn dda iawn ac mae ein cynghorydd lleol wedi mynd a’r mater hwn ymlaen.

Hefyd, ynghyd â eraill rydym ni wedi gwneud cais am gronfa i gael caffi ieuenctid yn ein canolfan cymunedol. Ysgrifennodd Stephanie a finnau i’n cynghorydd lleol yn gwneud cais am beiriant gwerthu yn y canolfan cymunedol lle mae ein clwb ieuenctid wedi’i leoli. Byddai’n elwa ni ac eraill sydd yn defnyddio’r neuadd.

Yn mis Rhagfyr 2009 enillodd ein cyngor ieuenctid wobr yng ngwobrau Phillip Lawrence. Cawsom fynd i Lundain i fynychu’r digwyddiad cyfareddol oedd yn cael ei gyflwyno gan Trevor McDonald.

Ar ôl y digwyddiad, cysylltodd PLAnet (Rhwydwaith Gwobrau Phillip Lawrence) gyda rhai aelodau o’r cyngor ieuenctid i gynrychioli nid yn unig Castell-nedd Port Talbot ond Cymru.

Aeth Ben a finnau i’n preswyl cyntaf efo PLAnet, i Firmingham. Rhoddodd gymaint o annibyniaeth a hyder i ni wrth deithio ein hunain. Nid yn unig hyn ond rydym yn helpu i farchnata’r digwyddiad. Rydym yn mynd i Lundain i farchnata’r gwobrwyon, a hefyd i Nottingham i gynllunio.

Ar ôl popeth dwi wedi’i wneud, dwi wedi derbyn Gwobr Uwch Siryf gan Uwch Siryf Gorllewin Bro Morgannwg, ac roeddwn i yn fodlon ac yn anrhydeddus i’w dderbyn. Cefais fy adnabod hefyd gan fy ysgol a derbyn Gwobr Am Gyfraniad I’r Gymuned Leol.

Dwi wedi gwneud gormod o bethau i sôn amdanynt, ond fe fedraf dy sicrhau ei fod yn hwyl i gyd. Mae gwirfoddoli yn edrych yn dda ar dy CV, nid yw’n unig yn dda i ti ond i’r bobl a’r sefydliadau eraill rwyt ti’n helpu.

Bydda’n rhan o bethau, gwirfoddola! 

Am fwy o wybodaeth ar wirfoddoli edrycha ar adran gwybodaeth CLIC.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.