Gwledd Conwy Feast
Os ydych chi yn rhywun sy’n caru bwyd, peidiwch â cholli Gwledd Conwy Feast, gŵyl fwyd dau ddiwrnod a gynhelir mewn gwahanol leoliadau yn Nhref Conwy yng ngogledd Cymru o ddydd Sadwrn 23 – dydd Sul 24 Hydref 2010.
Am ffi o £5, gallwch gymryd rhan yn un o wyliau bwyd gorau Cymru lle gallwch ymweld â mwy na 100 o stondinau bwyd a chrwydro o gwmpas Castell canol oesol ysblennydd Conwy a gwarchodfa fywyd gwyllt Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB)
Fe gewch hefyd gyfle i fwynhau rhaglen wych o sgyrsiau, ffilmiau a setiau DJ.
Gwenynwr lleol a threfnydd Ffair Fêl Conwy Peter McFadden, a oedd yn dymuno cyflwyno digwyddiad a fyddai’n hyrwyddo ystod ehangach o fwyd lleol, a gafodd y syniad gwreiddiol am Wledd Conwy Feast.
Dewiswyd dyddiadau’r ŵyl i gyd-fynd â’r tymor mêl a’r tymor pysgota am fisglod. Mae’r rhain hefyd yn cyd-fynd â gwyliau hanner tymor yr hydref, gan alluogi mwy o bobl i ddod a mwynhau’r digwyddiad.
Y llynedd denodd lawer o bobl ifanc dalentog, ac ymddangosodd y cynhyrchydd, y cogydd a’r perfformwyr ifanca’ erioed yn yr ŵyl.
Bu Luke Thomas, 15 oed, o Gei Connah, yn gweithio gyda phrif gogyddion ac ymysg yr 140 o stondinwyr roedd Tybalt Melia, 9 oed o Gapel Curig, gyda’i jamiau cartref.
Bydd yr ŵyl yn ei seithfed flwyddyn yn 2010 ac mae’n argoeli i fod yn fwy ac yn well nag erioed o’r blaen.
Os dymunwch ddod yno i arddangos neu os hoffech ddarganfod ffyrdd y gallwch gymryd rhan yng Ngŵyl Conwy Feast, ewch i www.conwyfeast.co.uk neu ffoniwch 01492 593874.
DELWEDD: Helen Olney






