Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwobr NadoCLIC

Postiwyd gan Sam (Sub-Editor) o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 01/12/2011 am 09:21
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Ysgrifennu Creadigol, Technoleg

  • 3DS
  • Nadoclic

English version

Iawn, mae prif gyngor cyfrinachol CLIC wedi cyfarfod gyda’r dyn mawr mewn coch (na, nid Ryan) ac rydym wedi cytuno beth fydd prif wobr NadoCLIC.

Pwy bynnag fydd yn ysgrifennu, saethu, llunio, cymysgu, chwarae, recordio, gweu, naddu, cerfio, odli (ti'n deall o ble dwi'n dod) y peth gorau i'r Calendr NadoCLIC yn ennill…

Nintendo 3DS newydd sbon! Dwi'n tybio fod y llun wedi difetha'r syrpréis braidd! Mae'n Nintendo 3DS newydd sbon sydd yn sgleiniog ac yn goch metelaidd i gyd-fynd â siwt Siôn Corn! Damnia, hoffwn i os byddwn i dal yn berson ifanc.

Mae'r ffenestri yn llenwi yn sydyn ond mae cwpl ar ôl os wyt ti eisiau cystadlu. Beth ydy meini prawf NadoCLIC ti'n gofyn? Rydym eisiau unrhyw beth sydd yn a) greadigol, 2) wedi'i greu gennyt ti a c) yn safbwynt ti ar dymor y Nadolig. Agorodd y ffenestr gyntaf am hanner dydd a bydd un yn agor bob dydd hyd at y diwrnod mawr. Dyna 24 ffenestr o aur NadoCLIC pur a chyfle 1 mewn 24 o ennill Nintendo 3DS os wyt ti'n cystadlu!

Sut wyt ti'n cystadlu? Yr unig beth sydd yn rhaid gwneud ydy e-bostio fi – sam@cliconline.org.uk a byddaf yn cadw lle i ti. Yna cyflwyna dy beth yn yr un modd ac y byddet gydag unrhyw gyflwyniad arall i CLIC (h.y. trwy'r dudalen hon) ond cynnwyd "NadoCLIC" yn y teitl.

Un peth diwethaf… pa gêm ddylai Siôn Corn gael i fynd gydag ef? Mario Kart 7? The Legend of Zelda – Ocarina of Time 3D? FIFA? Lego Pirates of the Caribbean? Sylwadau isod plîs!

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.