Gwobrau CLIC 2011: Bodiwr Ffynnon Taf
Nodyn Is-Olygydd: Cyn i ni hyd yn oed cychwyn gyda hwn gad i mi ddyfynnu’r adran gwybodaeth am fodio lifft sydd yn dweud: "Os ydych chi mewn unrhyw amheuaeth yngl?n â rhywun sy'n cynnig lifft i chi, peidiwch â'i dderbyn. Dilynwch eich greddf a pheidiwch byth â rhoi'ch hunan mewn sefyllfa beryglus" ac "Gall risgiau fod ynghlwm wrth fodio gan nad ydych chi'n gwybod pwy fydd yn cynnig lifft i chi. Os ydych chi'n mynd i fodio. Gwnewch yn si?r bod yna o leiaf dau ohonoch chi'n teithio gyda'ch gilydd". Felly dyna ti!
Rydym ni i gyd yn gwybod fod y Gwobrau CLIC 2011 yn digwydd ar ddydd Sadwrn 19 Tachwedd. Ond wyt ti'n gwybod beth ydy'r peth fwyaf pwysig rydym angen ar y noson honno?
Ia iawn, bwyd. Nid all wadd 200 o bobl a pheidio â'i bwydo, felly byddwn yn bendant yn darparu bwyd iddynt, ond na, nid dyna'r ateb. Beth? Het? Ia, iawn, y cod gwisg ydy i wisgo het, ond na, nid dyna'r peth fwyaf pwysig rydym angen, dim go iawn…

Iawn ta, ti wedi rhoi gorau iddi, felly fe wna'i ddweud wrthyt.
Ti'n gweld, bydd pawb yn teithio o dros Gymru gyfan i ddod at ei gilydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i ddarganfod pwy mae'r naw wobr yn mynd iddyn nhw. Felly, yn sicr, y peth mwyaf pwysig rydym angen y noson honno ydy'r gwobrau eu hunain.
Ti'n gwybod, fel un o'r pethau yna maen nhw'n rhoi allan yn y Grammys neu'r Oscars. Heblaw bydd un ni yn fwy anhygoel wrth gwrs.
Ia, felly mewn ymdrech i chwilio am y gwobrau anhygoel yma ar gyfer ein naw enillydd teilwng, penderfynais fynd i'r uwchfarchnad tlysau yn Ffynnon Taf. Ia, mae'r llefydd yma wir yn bodoli!
Nid wyf wedi bod i Ffynnon Taf erioed o'r blaen a dwi mor ofnadwy gyda chyfarwyddiadau felly canlyn hyn oedd fy mod i ar goll.
Cychwynnodd yr holl beth pan ddes oddi ar y trên yn Ffynnon Taf a darganfod fy hun yn sefyll yng nghanol stad ddiwydiannol. Agorais y map a fy nghyfarwyddiadau ond nid oeddent yn gwneud synnwyr o gwbl i mi felly arhosais ar y palmant yn gobeithio cyfarfod gyda rhywun oedd yn pasio.
Ond ar ôl sefyll yno am dipyn, sylweddolais byddwn yn sownd yma am hir iawn yn disgwyl i rywun basio.
Felly cerddais i mewn i un o'r warysau mawr ar waelod y ffordd a gofyn i'r dderbynfa am gyfarwyddiadau. "Cerdda'n syth tuag at y goleuadau traffig ac yna troi i'r chwith," meddai.
Swnio'n ddigon hawdd i mi felly i ffwrdd a fi. Cychwynnais gerdded i fyny allt pan droais i'r chwith ger y goleuadau. Roedd y draffordd islaw a choed mawr yn leinio'r ffordd un lôn roeddwn yn cerdded arni. Nid oedd cerddwyr na thraffig arall. Nid oedd hi'n debygol iawn mai dyma oedd y ffordd i warws tlysau, meddyliais. Beth? Drwy goedwig?
Yn sydyn dyma fan gwyn yn tynnu i fyny wrth fy ochr. Agorodd y drws a chlywais ddyn yn gofyn, "Wyt ti ar goll?" Cymerais un golwg ar du fewn blêr y fan a gweld wyneb cyfeillgar iawn yn syllu arnaf. "Ymm ia, dwi'n chwilio am y warws tlysau," atebais. "Dwi'n gwybod lle mae o, dyw e ddim yn bell," meddai.
Esboniodd y cyfarwyddiadau i mi ychydig o weithiau ond gwelodd y golwg blanc ar fy wyneb bob tro. Dwi ddim yn wirion. Dim ond nad wyf i'n dda iawn gyda chyfarwyddiadau. Iawn, ella bod fi ychydig bach yn wirion.
Yn lle ceisio eto dywedodd, "Edrych, dim ots, tyrd i mewn a fe roi lifft i ti." Roedd cywilydd mawr arnaf ac roeddwn wedi cyffroi gyda fy anallu ac atebodd, "Na, mai'n iawn, ymm wir… wyt ti'n si?r?" "Ydy, nid oes dim yn digwydd pnawn 'ma, a'i a ti yno."
Felly neidiais i mewn, cael sgwrs fach neis gyda'r dieithryn caredig ac o fewn ychydig funudau roeddem wedi cyrraedd y warws tlysau.
Roedd y bobl yn y warws yn gynorthwyol iawn ac mewn dim o amser, llwyddais bigo allan tlysau addas ar gyfer y pwrpas.
Yna daeth y darn anodd. Cael yn ôl at yr orsaf trên. Doeddwn i ddim yn cynllunio bodio lifft eto.
Ond y tro hyn roedd gen i gyfarwyddiadau clir a syml gan y dyn cyfeillgar yn y warws tlysau. "Troi i'r dde, cerdda heibio'r ddwy stad ddiwydiannol, arhosfa bws a byddet yn dod at lwybr gyda choed. Dilyna'r llwybr yna a byddet ti yn yr orsaf," meddai.
Wel, doedd o ddim yn swnio'n rhy anodd i mi felly llwyddais gadw'r holl wybodaeth yna ac o fewn 5 munud, roeddwn yn ôl ar y trên nesaf yn ôl i Gaerdydd.
Trwy'r siwrne bws, meddyliais os oedd wedi bod yn syniad da i neidio i mewn i gar dieithryn llwyr. Mae'n debygol nad oedd, ond roeddwn i wedi'n goresgyn yn gyfan gwbl gyda'r penderfyniad i ddod o hyd i'r tlysau gorau ar gyfer y noson fawr, fel nad oeddwn yn meddwl yn glir.
Os wyt ti eisiau bod yn un o'r naw enillydd lwcus gall fynd â'r tlws prydferth hwn yn ôl gyda thi ar nos Sadwrn 19 Tachwedd, cyflwyna dy gais nawr!
Ac am y gweddill ohonoch, wel, mae'n rhaid i ti ddod i'r Gwobrau CLIC nawr i weld beth dwi wedi rhoi fy hun drwyddo er mwyn cael gwneud hyn i'n henillwyr!
Digwyddiadau » Gwobrau CLIC 2011
Gwybodaeth » Byd, Ewrop, DU a Chymru » Trafnidiaeth » Ar droed
Gwybodaeth » Cyfraith a Hawliau » Dioddefwyr Trosedd » Diogelwch Personol
Erthygl berthnasol: Gwobrau CLIC 2011: Enwebiadau Ar Agor
DELWEDD: Emperor Commodus Finds Something Better to do with his Thumbs gan Totally Severe







