Gwobrau Maer Torfaen
Noswaith dda pawb.
Dwi newydd ddod gartref o Wobrau a Chymeradwyaeth Dinasol Maer Torfaen.
Roedd hwn yn ddigwyddiad lle'r oedd aelodau cymuned Torfaen, hen a newydd, yn cael eu gwobrwyo am eu gweithrediadau anhunanol i'r gymuned.
Er esiampl, cafodd cymeradwyaeth dinasol ei wobrwyo i aelodau'r gymuned sydd wedi bod yn gwirfoddoli yn weithgar o fewn Torfaen am yr 20 mlynedd diwethaf.
Roedd hefyd cymeradwyaeth wedi cael ei roi i gwpl o bobl ifanc sydd wedi codi arian i amryw grwpiau elusennol.
Cafodd Fforwm Pobl Ifanc Torfaen (FfPIT) ei enwebu am gymeradwyaeth dinasol gan y Cynghorydd Mary Barnett (Aelod Gweithredol Plant a Phobl Ifanc).
Cafodd pedwar o bobl ifanc eu gwadd i dderbyn y cymeradwyaeth:
Jade – Cadair y FfPIT
Eddie – Ysgrifennydd y FfPIT
Kaya – Cynrychiolydd y Ddraig Ffynci ar gyfer y FfPIT
Tom – Aelod gwasanaeth-hir a chynrychiolydd y Ddraig Ffynci ar gyfer y FfPIT
Roedd y pedwar yn falch iawn o dderbyn y wobr ar ran y FfPIT.
Iawn, dwi wedi siarad am hyn am dipyn nawr, plîs gweler y lluniau (yn anffodus dim ond lluniau'r Gr?p FfPIT lwyddais i gael).







