GwobrauCLIC: Ti'n Dod?
Mae'r dydd yn agosáu’n sydyn.
Mae GwobrauCLIC 2011 ar ei ffordd.
Mae'r diwrnod wedi'i osod mewn carreg rith, ac mae ar noswaith y 19eg o Dachwedd. Bydd y dydd yn cael ei lenwi gyda siantio llawen gan yr enillwyr a dagrau posib y rhai sydd ddim yn ennill, felly fe ddylai fod yn noson eithaf difyr.
Rydym wedi cael gafael ar gadarnle'r mamoth gwlanog, neu Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ar gyfer y digwyddiad. Bydd yn parhau am dair awr, a bydd yn dda. Fe fydd yn dda…
Bydd drysau yn agor am 6pm gyda'r seremoni yn cychwyn am 6:30pm gyda diwedd wedi’i amcangyfrif am 9pm. Bydd comedi gan Robin Morgan, cerddoriaeth gan enillydd BYB CLIC, Eric Unseen, perfformwyr syrcas o No-Fit State a gwobrwyon eithaf sgleiniog i'r enillwyr. A chreda di fi, maen nhw'n sgleiniog.
Mae cod gwisg, a'r cod ydy smart/'casual'. Wel, rydym yn dweud mai dyma yw'r cod ond ni fyddem yn alltudio ti os wyt ti'n dod mewn pyjamas neu'n gwisgo wig. Gwisga beth wyt ti eisiau, ond paid edrych yn rhy flêr. Mae'n rhaid sicrhau fod CLIC yn cadw enw da ti'n gweld? O, a phaid anghofio'r het. Mae'n rhaid i ti wisgo het. Dyna'r cod gwisgo.
Felly sut mae hynny yn swnio? Roeddwn yn gwybod byddet ti'n dweud hynna.
Eisiau gwybod os wyt ti wedi cael gwadd? Wel, gad i mi dorri'r swigod meddwl yna yn syth, mae pawb yn cael gwadd. Rydym yn eithaf hael yma yn CLIC, wyt ti'n cytuno?
Yn dod? Wel, gad i ni wybod un ai trwy ein tudalen Facebook neu mewn sylwad ar yr erthygl yma. Os wyt ti'n ymateb yn y ffordd hon yna byddet yn bendant yn cael sedd a bag rhoddion, ond os wyt ti'n troi i fyny ar y dydd ni allwn sicrhau dim i ti. Bydd hefyd bwffe ar y noson.
A chofia, mae pleidleisio yn dal yn mynd ymlaen, ac wedi ers 29 Hydref. Os nad wyt ti wedi pleidleisio eto, pam ddim? Nid oes hir bellach cyn i'r bleidlais gau ar ddydd Sadwrn 12fed Tachwedd 2011, wythnos cyn y digwyddiad.
Ac os wyt ti'n dod, siarada gyda dy olygydd lleol gan fod posibilrwydd eu bod nhw yn trefnu trafnidiaeth. Ac i'r rhai ohonoch sydd ddim yn adnabod eu golygydd lleol, gall ddarganfod hynny yma. Ac os dyw dy sir di ddim yma, gyrra e-bost i sam@cliconline.org.uk.
Felly ia, parha i bleidleisio, a gad i ni wybod os wyt ti'n dod neu beidio. A gwna hynny'n fuan, ia?
Erthyglau Perthnasol:
- GwobrauCLIC 2011: Pleidleisiau Nawr
- GwobrauCLIC 2011: Enwebiadau Ar Agor
- GwobrauCLIC 2011: Bodiwr Fynnon Taf
- GwobrauCLIC 2011: Y Recce A Dydd Sadwrn








