Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwrthdrawiad Trên: Un wedi Marw

Postiwyd gan jeopreddy o Castell-Nedd Port Talbot - Cyhoeddwyd ar 13/04/2010 am 10:15
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Comedi, Ysgrifennu Creadigol, Amgylchedd, Materion Cyfoes, Teithio, Gwaith a Hyfforddiant

  • p

English version.

Teithiais gyda Ben, cyd aelod o Cyngor Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot, i Birmingham i gwrs preswyl gyda PLAnet (Byddaf yn cyflwyno erthygl am PLAnet a sut y gallwch chi gymryd rhan yn fuan, felly peidiwch â chael eich drysu gan yr hyn mae PLAnet yn ei olygu) a ddiweddodd mewn trychineb.

Roedd y bobl ifanc a fynychodd y cwrs preswyl yn cynnwys gwahanol grwpiau oed yn amrywio o 13 – 24 o bob rhan o’r DU. Roedd y cwrs preswyl yn llawer o hwyl, ac yn llawn gwybodaeth. Aeth pawb â sgil newydd adref, yn sicr i chi!

Roeddem yn aros yn NASUWT pencadlys Undeb yr Athrawon yn Birmingham, a oedd yn grand iawn. Roedd y daith i Birmingham o Bort Talbot yn iawn, dim trafferthion, ond roedd daith yn ôl adref yn stori wahanol iawn.

Dywedodd pawb eu ffarwel, ar ôl cofleidio, ac ymadawyd mewn tacsis o’r llety i orsaf trenau Barnt Green. Roedd pawb ond Ben a minnau yn newid trên yn Birmingham New Street. Byddem ni yn newid ym Mhrifysgol Birmingham. 

Penderfynwyd cymryd trên cynharach, oedd yn golygu ein bod ddeng munud ar y blaen i’n hamserlen. Cyrhaeddwyd ein gorsaf yn ddiogel, ac aethom ar ein trên cysylltu i Gasnewydd. 

Roedd popeth yn iawn tan hanner awr i mewn i’n taith pan ddaethom i stop sydyn. Roeddem yn ein hunfan am hanner awr ac yn meddwl beth ar y ddaear oedd yn digwydd. Yna cyhoeddwyd bod ffesant wedi hedfan i mewn i’n trên, ac oherwydd bod yr aderyn a’r trên yn teithio mor gyflym, roedd wedi malu’r sgrin wynt, gan olygu bod yn rhaid i ni fynd yn ôl i New Street i newid trenau. Achosodd hyn i ni i gyd golli ein cysylltiadau, a chafodd y ffesant farwolaeth ddychrynllyd.

I ychwanegu at hyn, sylweddolais pan es i ffwrdd oddi ar y trên yng Nghasnewydd fod fy Blackberry newydd sbon yn dal ar y trên! Roeddem yn gwybod fod y trên yn diweddu yng Nghaerdydd Canolog, felly daliwyd trên i Gaerdydd a ffoniais fy ffôn, gan obeithio fod rhywun ffeind wedi dod o hyd iddi. Yn lwcus i mi, roedd hynny wedi digwydd. Atebodd dyn a dweud y byddai yn ei rhoi i mewn yn y swyddfa docynnau. Roeddwn wrth fy modd ond ar yr un pryd, doeddwn i ddim yn hapus iawn gyda’r ffaith ein bod oriau ar ei hôl hi!

Gwers y stori hon yw bod bywyd fel dominos. Mae pob penderfyniad yn effeithio ar un arall, gall newid ein meddyliau i gymryd trên cynnar arwain at i ni fod oriau yn hwyr. Hefyd, gludiwch eich Blackberry gwerthfawr wrth eich llaw!

Dyna beth oedd diwrnod!

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.