Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth Neu Beidio?

Postiwyd gan eddie secretary o Torfaen - Cyhoeddwyd ar 08/03/2011 am 17:09
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Addysg, Pobl, Gwaith a Hyfforddiant, Gwirfoddoli

English version

Dwi’n ysgrifennu’r erthygl hwn i rannu gyda thi'r caledi o’r byd gwybodaeth.

Dwi wedi bod yn ysgrifennu llyfryn gwybodaeth i bobl ifanc fy mwrdeistref leol, ac yn wynebu anawsterau ar bob cam.

I gychwyn, llynedd mater o gyllid oedd o. “O ble mae’n dod?” “Pwy sydd yn mynd i’w ysgrifennu?” a stwff fel yna.

Eleni dwi wedi penderfynu cychwyn y llyfr gwybodaeth a’i ddiweddaru a cheisio’i gyhoeddi. Wel, dim ond y cychwyn ydy hynna. Cyn  i mi hyd yn oed feddwl am ysgrifennu’r llyfryn mae’n rhaid i mi gael cyfarfodydd efo’r person yma a chyfarfodydd efo’r person yna.

Yna mae’n rhaid i mi ysgrifennu drafft a’i ddangos i’r corf yma o bobl a’r corf yna o bobl (enwau ddim yn cael eu crybwyll am resymau cyfrinachedd). Yna bydd rhaid iddo gael ei basio gan y bobl yma a’r bobl yna cyn i mi hyd yn oed dechrau meddwl ei yrru allan. (Os wyt ti’n cadw cyfrif rydym nawr wedi cyrraedd tuag wyth wythnos.)

Yna bydd yr arolwg/ymgynghoriad yn cymryd o leiaf dau fis i gael ymatebion yn ôl, yna bydd yn cymryd pythefnos i fi a thîm bach coladu a chofnodi’r ymatebion i gyd ac ysgrifennu adroddiad ar beth sydd angen.

Ar ôl hyn byddaf angen cyflwyno’r adroddiad i’r bobl yma a’r bobl yna, yna bydd yn cymryd tri mis arall i ail ysgrifennu’r llyfryn a gweithio gyda’r bobl ifanc i gael y dyluniad y ffordd maent eisiau.

O fan hyn bydd angen dangos o i’r bobl yma a’r bobl yna eto, i ddweud ei fod wedi’i orffen. Yna bydd rhaid i mi chwilio am ac ymgeisio am gyllid i gael cyhoeddi. Bydd wedyn yn cymryd dau fis eto i’w brintio yn llawn ac yn barod i gael ei roi allan i bobl ifanc Torfaen. (Mae hynna nawr tuag wyth i naw mis.)

Mae hyn i gyd er mwyn cyhoeddi llyfryn gwybodaeth ar gyfer pobl ifanc, felly ydw i’n mynd amdani neu beidio?

Wel, byddet yn falch o wybod fy mod i yn gwneud hyn, ond mae’n rhaid i mi gael y cyfarfodydd gyntaf.

Gobeithio bod pawb wedi mwynhau darllen, a gad sylwad os wyt ti eisiau.

Tudalennau Gwybodaeth

DELWEDD: edrabbit

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.