Gwylltineb Gemau
S'mae cyd-CLICwyr, JordyCee sydd yma. Cyd-olygydd gwefan CLIC Caerffili Youth4U, sydd yn gobeithio mynd yn fyw ar Mai 14eg felly nodwch hynny yn eich calendrau, dyddiaduron a ffonau smart!
Rydw i eisiau clywed eich barn chi ar rywbeth rydw i wedi dechrau dod ar eu traws yn y byd gemau ar-lein trwy PS3 ag Xbox. Rwyf yn chwaraeydd gemau fideo ac yn ei chwarae mor aml â phosibl, ond yn ddiweddaraf rwyf wedi sylwi fod mwy o chwaraewyr yn mynd yn fwy a mwy crac os byddaf i’n eu saethu nhw allan o lwyni, yn ddamweiniol (ar bwrpas) (Call Of Duty Modern Warfare 3), neu’n digwydd roi tair gôl heibio iddynt gyda Dinas Caerdydd tra eu bod nhw'n chwarae fel Dinas Manceinion (nid Unedig, gan eu bod yn sbwriel) neu hyd yn oed yn eu pinio i lawr ar WWE '12. Mae'n wneud i mi chwerthin, ond ges i ffrwydrad bach yn ddiweddar pan chwaraeais i FIFA 12 ond yna sylweddolais i ba mor ddwl mae'n debyg oeddwn i’n swnio.
Mae mor siomedig bod gennym ni’r rhai a elwir yn "ragers" mewn gemau. Er eu bod yn ddoniol weithiau, ar rhai adegau gallai fod yn eithaf brawychus, yn enwedig os ydych yn chwaraewr ifanc. Mae hyn wedi gwneud i mi feddwl yngl?n â phrofiadau pobl eraill. Wyt ti’n "rager"? Bydd yn ddiddorol i gael gwybod.
Er fy mod wedi siarad am y peth, rwy'n bwriadu
rhoi gwybod i bawb yngl?n â sut rydw i'n delio gyda "ragers" ac mae
môr syml a hyn... rydw i’n chwerthin amdano ac yn amlwg peidiwch â hongian o
gwmpas yn yr ystafell sgwrsio os ydynt yn mynd ymlaen ac ymlaen. Sut yr ydych
yn delio gyda materion fel hyn?
Wel, dyna ‘ny. Rwy'n credu dyna i gyd roeddwn i am ddweud, felly gadewch wybod
i mi bechgyn a merched yn yr ardal sylwadau isod!
Ar y we » Gwybodaeth Diogelwch
Newyddion » Categorïau » Technoleg
Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Y Celfyddydau Digidol
Erthyglau Perthnasol







