Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gŵyl Celfyddydau Mardi Gras

Postiwyd gan LoudandProud o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 28/07/2011 am 12:08
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Celfyddyd, Diwylliant, Ffasiwn, Gwyl, Cerddoriaeth

  • mardi

English version

Fel gwelir o'r erthygl cynt, mae Mardi Gras LHDT Caerdydd-Cymru yn cynnal Gŵyl Celfyddydau wythnos o hyd yn dathlu goreuon sîn celfyddydau gwych Caerdydd. Eleni mae'r bydd yr ŵyl yn cynnwys wythnos lawn o ddigwyddiadau yn arwain i fyny at y prif ddigwyddiad Mardi Gras yn Coopers Field dydd Sadwrn, 3 Medi.

Gweithdai Crefftau

Dydd Sadwrn 27 Awst 12:00 – 3:00pm

Llyfrgell Ganolog Caerdydd, Yr Hayes, Caerdydd

Mewn cydweithrediad ag Urdd Gwneuthurwyr Cymru a Llyfrgell Ganolog Caerdydd, Mardi Gras Caerdydd-Cymru yn falch o gynnig y cyfle i chi gael tro ar fod yn greadigol gyda gweithdai mewn gwneud ffelt a gemwaith.

Crefftau yn y Bae ydy'r lleoliad adwerthu ar gyfer crefftau cyfoes wedi'i greu gan aelodau Urdd Gwneuthurwyr Cymru. Fel sefydliad elusennol, mae'n cynnig cyfleoedd i'r cyhoedd i gymryd rhan mewn gweithdai crefft, ymweld ag arddangosfeydd a chyfarfod y gwneuthurwyr mewn arddangosiadau crefft. Darganfydda’ mwy yma.

Tocynnau: £20

Cadw Lle Nawr: Creu Gemwaith

Cadw Lle Nawr: Creu Ffelt

Cyngerdd Côr Meibion Hoyw De Cymru

Dydd Sul 28 Awst 1:00 – 4:00pm

Canolfan Grefftau'r Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd

Bydd Côr Meibion Hoyw De Cymru yn cyflwyno prynhawn o gerddoriaeth, hwyl ac ychydig o bethau annisgwyl i gefnogi Mardi Gras LHDT Caerdydd-Cymru.

Tocynnau: Am Ddim

Y Mardi Gras yng Nghlwb Ifor Bach (18 oed a throsodd)

Dydd Llun 29 Awst 8:00pm

Clwb Ifor Bach, Stryd Womanby, Caerdydd

Noson yn dathlu goreuon y sîn gerddoriaeth Cymraeg, gyda Clinigol a JJ Sneed a Nia Medi o Radio Cymru ar y deciau.

Am fanylion pellach am yr artistiaid cer i'r wefan http://cardiffmardigras.co.uk/festival/

Tocynnau: £4.00 (Talu ar y drws)

Stevenage

Dydd Mawrth 30 Awst 7:00pm

Canolfan Gelfyddydau Chapter, Canton, Caerdydd

"Fis Awst yn 1968 roedd dyn ifanc yn gwisgo siwt melfaréd brown yn teithio o'i gartref yng Nghanolbarth Lloegr a rhedeg i ffwrdd i Dre Newydd Stevenage. Digwyddodd rhywbeth yno, neu ni ddigwyddodd rhywbeth, ac mae beth sydd yn digwydd oherwydd beth sydd ddim yn digwydd ydy beth rwyt ti'n talu i mi ddweud wrthyt ti. Wel, nid yw hyn yn gwbl wir. Fe ros gwadd i ti. Ond mae'n rhaid dy fod di efo digon o ddiddordeb i ddod. Ac mae hynna'n golygu mae'n rhaid bod gen i stanc yn hyn i gyd. I roi pethau yn eu lle. I gael popeth allan yn yr awyr agored…"

Mae Stevenage yn berfformiad unigol aml-gyfryngol gan Mandy Romero, artist trawsrywiol. Mae Stevenage – y Dref Newydd Saesneg cyntaf – yn bwnc annhebygol i berfformiad. Ond mae'n berfformiad sydd yn archwilio amryw fywydau cydgysylltiol yn berffaith. – y "dyn ifanc mewn siwt melfaréd brown", bardd bugeiliol Saesneg, merch ifanc symudodd i'r de yn flynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif, actor ffilm ifanc, tref, dau bentref a bywydau cenhedlaeth ôl ryfel – i'r presennol. Wedi'i genhedlu a'i greu gan Mandy Romero. Cynhyrchir gan Cathy Butterworth.

Tocynnau: £10 / £8 / £6

Archebu Nawr: http://www.chapter.org/23408.html

Jas A Choctels

Dydd Mercher 31 Awst 7:00pm

Llyfrgell Ganolog Caerdydd, Yr Hayes, Caerdydd

Adloniant gan:

Acromis: Set unigryw wedi'i berfformio gan The Butler in the Billiard Room i gynnwys premiere byd rhai o waith newydd wedi'i gomisiynu trwy Arcomis (Arts Commissioning) – sefydliad sydd yn arbenigo mewn galluogi unigolion a busnesau i gomisiynu cerddoriaeth newydd.

Jenny Bradley's Occasional Brass Ensemble: Mae'r Occasional Brass Ensemble yn ail-greu sain band stryd acwstig New Orleans gyda llai o chwaraewyr ond heb fethu curiad.

Gyda rhigymau swing dwys, mae'r gwres cynhyrchir yn gyfunol o addasu ar y pryd fel grŵp a'r ymgorfforiad o elfennau o jas modern a pop i mewn i'w arddull Mardi Gras New Orleans. Mae'r Occasional Brass Ensemble yn gymar perffaith ar unrhyw achlysur i ddathlu.

Tocynnau £4.00 (talu ar y drws)

Noson Cabaret Mardi Gras Caerdydd

Dydd Iau 1 Medi 7:00pm

Lolfa L3, Neuadd Dewi Sant

Mae'r Ŵyl Celfyddydau Mardi Gras Caerdydd yn falch o gyflwyno blas o berfformiadau cabaret gorau'r ddinas. Mae'r perfformwyr yn cynnwys yr enillydd gwobr Total Theatre,  Sue Timms (My Name is Sue) a Cabaret Whales: cymysgedd unigryw o gomedi, pop a fersiynau clasurol wedi'u hail-weithio (poppers ddim wedi'u cynnwys). Cyflwynir gan Tina Sparkle.

Sue Timms wedi'i greu gan Dafydd James a Ben Lewis.

Cabaret Whales yn serennu Sara Lloyd a Llinos Mai. Ysgrifennwyd gan Roger Williams.

Gweithdai 'Nid oes rhaid i lenyddiaeth fod yn ddiflas!' gan Jane Blank (Oedran 16+)

Dydd Gwener 2 Medi

Llyfrgell Ganolog Caerdydd, Y Hayes, Caerdydd

Gweithdy Barddoniaeth 10:00am – 12 hanner dydd

Gweithdy Monologau 1:00 – 3:00pm

Mae Jane Blank yn athro Saesneg a Drama gymwysedig gyda phrofiad helaeth o ddysgu oedolion a phobl ifanc. Mae ganddi MA (Dist.) o Brifysgol Caerdydd mewn Dysgu a'r Ymarferiad o Ysgrifennu Creadigol ac mae hi wedi cael ei chyhoeddi mewn amryw o genres. Ar hyn o bryd mae hi'n dysgu mewn ysgol uwchradd iaith Gymraeg ac yn parhau i ddyfeisio a rhedeg cyrsiau ARCA penwythnos ar nifer agwedd o ysgrifennu a llenyddiaeth. Mae hi wedi gweithio i'r Ganolfan Ystâd Farncombe yn y Cotswolds a choleg The Hill yn Abergyfeni.

Mae gwaith diweddaraf Jane yn cynnwys sgript Nanteos a'r dramaeiddio o'i nofel The Geometry of Love.

Mae'r ddau weithdy’n agored i unrhyw un dros 16 oed. Mae mynediad am ddim ond mae llefydd yn brin. E-bostia Hywel@cardiffmardigras.co.uk i gadw dy le.

Nofit State a Jukebox Juniors

Dydd Gwener 2 Medi 7:30pm

Syrcas Nofit State, John St, Caerdydd

Noson o Dân, Hwyl a Dawnsio anhygoel, diolch i Nofit State a Jukebox Juniors. Bydd cenhedlaeth nesaf Nofit State yn arddangos dau gynhyrchiad newydd am y tro cyntaf:

Spark – Menter ar y cyd gyda'r Jukebox Juniors gwych, gyda dawns 'urban' wedi'i gymysgu gyda pherfformwyr tân gorau Nofit State.

Firelight – Cynhyrchir gan Denni Dennis, gyda weiren dynn, jyglo, trapîs a thalent syrcas ieuenctid Nofit State.

Tocynnau: £5 / £3

Swyddfa Tocynnau: 029 2022 1330

Hell's Bent vs Femme Fatale (18+)

Dydd Gwener 2 Medi 10:00pm

The Globe, Heol Albany, Caerdydd

Hell’s Bent vs Femme Fatale (18+)

Ymuna gyda ni yn ôl-barti swyddogol Gŵyl Celfyddydau Mardi Gras Caerdydd-Cymru, gyda Hell's Bent a Femme Fatale.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.