Hapusrwydd Anfarwol
English Version
Dwi erioed wedi gwneud darn o ysgrifennu creadigol, felly mae hyn yn ychydig o newid i fy stwff arferol.
Fy ngwaith cwrs Saesneg ydyw (cefais A, hapus dros ben!) ac roeddwn i’n meddwl dylwn i bostio fo i CLIC. Dyma fy stori…
Hapusrwydd Anfarwol
Roedd Tobias a Sarah yn ffrindiau gorau ers ysgol gynradd hwyr. Roedden nhw yn wastad efo’i gilydd a byth ar wahân. Roeddent yn wastad yn giglan byth yn anhapus. Roeddent yn wir ffrindiau, rhywbeth na fyddai byth yn gallu cael ei ddifetha, byth.
Roedd Sarah yn fach ac yn petit. Roedd ei gwallt mor wyn â gwair ac yn esmwyth fel sidan. Roedd ganddi sbectol ddu fain yn fframio ei llygaid brown gloyw. Roedd ei wyneb bach gwyn prin yn gallu dal ei wynepryd pinc. Roedd Sarah yn ddol tsieina, yr un mor brydferth, yr un mor brydferth. Ond, nid oedd hi’r ferch oedd yn gwisgo orau. Roedd y rhan fwyaf o’i dillad efo rhwygiadau a sêm wedi’u torri. Dim yn wahanol amdani nawr nag yr oedd deg – pymtheg mlynedd yn ôl. Roedd Sarah yn ferch ddeallus; ond nid oedd ganddi’r cyfleoedd i fynegi ei hun gan ei bod hi’n byw mewn stad blêr gyda’i rhieni tlawd.
Roedd Tobias, yn annhebyg i Sarah, yn dal ac yn parhau i fod. Roedd ei wallt brown siocled yn fras ac mor hir fel ei fod yn rhwystro ei olwg. Roedd yn dwt ac yn gwneud iddo edrych fel bachgen sbeis. Tyfodd allan o’i wyneb ciwt a daeth hwyneb hunanfoddhaol yn ei le. Roedd ei lygaid glas yn canmol ei wefusau coch. Roedd Tobi yn gwisgo siwtiau llwyd coes syth oedd yn crafu ei ffêr, yn wahanol iawn i’r dyngarîs a’r crysau comig o’i blentyndod. Nid oedd Tobi yn ddeallus iawn nac yn ddwl. Yn wrthgyferbyniad i Sarah, roedd o wedi cael digonedd o gyfleoedd a nifer o ddrysau agored gan fod ei rieni yn gyfoethog.
Gorffennaf 4ydd 1993
Mae Tobias a Sarah yn eistedd gyda'i gilydd ar y Boeing estron, oedd yn teithio dros 300 milltir yr awr i leoliad poeth, sef Barcelona. Roedd yn daith hedfan fyr oedd yn cynnwys y ddau ohonynt yn siarad am ba mor grêt byddai’r daith astudio ac am ble oedd eu lle delfrydol i fyw, ayb. Doedd dim posib cau eu cegau. Roeddent yn bobl ifanc blinedig i ddweud y gwir.
Ar ôl dwy awr o siarad di-dor, cyrhaeddant yn y ddinas llawn diwylliant. Roedd yn belydrol. Roedd arogl tanwydd yr awyren yn ymdroi yn eu trwynau ac yn gwneud iddynt grychu eu trwyn. Cerddodd y ddau i mewn i adeilad enfawr, oedd yn llawn pobl. Aethant at y rheolaeth pasport a chyflwyno eu pasport, yna parhau drwy’r maes awyr. Roedd brys mamoth i gael eu heiddo oddi ar y cludfelt. Roedd Tobias a Sarah yn ymweld wedi synnu pam fod pawb mewn brys, roeddent hwy eisiau profid popeth ar gyflymdra araf. Wedi’r dorf oedd fel gwartheg glirio, casglodd y ddau eu cês ddillad a thynnu nhw tuag at y drysau cylchdroi.
Tu allan roedd hi’n ferwedig. Roedd yr haul yn tywynnu i lawr a doedd dim allan o’i le. Dim cwmwl mewn golwg. Yr unig sŵn oedd raced y cesys yn cael eu tynnu ar hyd y llwybrau anhyblyg. Roedd Sarah yn ymweld fel yr un synhwyrol ac eisiau cadw ar ben popeth felly’n cadw’n agos i’r pac. Ond, roedd Tobi fel dafad goll. Nid oedd yn gwybod pa ffordd i edrych; roedd yn tagio tu ôl i bawb arall. Fel dominos, un wrth un daeth pob ffrind dosbarth i stop wrth i’r athro roi cyfarwyddiadau iddynt a chyflwyno nhw i’r ddinas ryfeddol.
Daethant oddi ar y bws a chael eu cyfarfu gan westy melyn wedi’i redeg lawr. Dim gwesty Dar Para Arriba. Roedd yr arwydd efo llythrennau ar goll ac uwchben y dderbynfa, ar y to, roedd fflip fflopiau, sanau, boteli gwag o eli haul wedi gwasgaru. Nid yw’r gwesty yn un deniadol. Mae ganddo ffwng gwyrdd yn tyfu o gwmpas cornel pob balconi.
Roedd y sleim gwyrdd yn parhau yn ystafell ymolchi'r gwesty. Safodd Sarah ym mhroffil i’r drych a thasgu ei hwyneb gyda defnyn o ddŵr wrth i Tobi wylio. Roedd o’n eistedd ar sedd y toiled yn syllu ar ei hadlewyrchiad. Ac yna agorodd ei geg…
“Sar, fe ddylai ti a fi fod efo’n gilydd. Be allai fynd o’i le?” meddai Tobias, yn edrych nawr ar y llawr yn swil. Mae Sarah yn edrych dros ei hysgwydd ac yn nodio, dilynir gan ddistawrwydd lletchwith.
Wedi pum diwrnod o syllu ar adeiladau prydferth, nosweithiau hwyr ar y traeth a siopa, safodd y cwpl ym maes awyr Caerdydd yn edrych ar ei gilydd, yn ddileferydd. Cusanodd Tobias ei thalcen a dweud hwyl fawr.
Gorffennaf 5ed 1997
Naw mlynedd fel ffrindiau gorau, mae’n rhaid i hyn ddod i ben yn o fuan. Roedd Tobias yn gadael am Brifysgol Fetropolitan Llundain, wedi’i dalu gan ei rieni. Ond roedd Sarah yn aros yn agosach at adref gan nad allai fforddio byw i ffwrdd o gartref. Roedd Prifysgol Abertawe yn ei disgwyl hi.
Saf y ddau yn baralel i’w gilydd. Roeddent yn gwisgo gwisgoedd coch yn gafael bagiau. Roedd hi’n ddiwrnod diwethaf coleg. Doedd gan yr un ohonynt yn difaru dim. Gafaelai Tobias ei dwylo hi yn ei rai ef a chusanu ei thalcen cyn chwifio hwyl fawr.
Gorffennaf 6ed 1998
Adlamodd Tobi allan o’r brifysgol ac mae bellach yn gyflwynwr teledu enwog ac adnabyddus ar GMTV. Roedd yn wastad yn defnyddio hyn fel mantais i ennill poblogrwydd, arian a genethod. Mae Tobias yn wastad yn mynd a genethod yn ôl i’w bad yn Llundain. Mae’n troi i mewn i drefn arferol.
Roedd gan Tobias feistresi. Un penodol oedd Naomi. Roedd ganddi groen heulfelyn ac ysgwyddau llydan gyda gwallt brown cyrliog oedd yn brwsio yn eu herbyn. Roedd hi bob tro yn ymddangos i wisgo coch, bod hyn yn ffrog neu’n fand arddwn. Golygai ddim i Tobi, roedd yn defnyddio hi, roedd hi’n gwneud iddo edrych yn dda a gwyddai hyn.
Doedd Tobias byth yn siarad â Sarah y dyddiau hyn, efallai galwad ffôn meddwol yma ac acw, ond dim cyfeillgarwch. Roedd Tobias wedi colli holl ddiddordeb yn Sarah bach. Roedd ganddo giwiau a llinellau o enethod gallai gael ar unrhyw adeg erbyn hyn. Doedd o ddim yn poeni ddim mwy.
Mae Tobias yn adnabyddus am nosweithiau gwyllt allan yn Llundain. Nosweithiau gwallgof, meddwol llawn cyffuriau a genethod. Y pethau roedd ei benwythnos saith diwrnod yn ei gynnwys.
Mae Tobi yn barhaol yn ymddangos ar soffa GMTV gyda phen mawr, yn flêr gyda bagiau o dan ei lygaid. Mae weithiau mor welw nad all colur orchuddio’i ormodaeth. Pan fydd y camera yn agosáu am saethiad agos, mae’n glir fod yr holl nosweithiau yn nhoiledau’r clybiau nos yn snwffian Cocên wedi achosi i’w septwm erydu. Mae ei ymddygiad yn parhau a bydd yn peryglu ei ddyfodol.
Mae bywyd Sarah wedi cael ei gymryd drosodd gan waith o’r Brifysgol. Mae hi yn byw gyda’i rhieni o hyd, sydd yn fwy synhwyrol nag Tobias. Dydy Sarah byth yn mynd allan; mae hi’n astudio bioleg yn ei hamser sbâr. Mae ei diwrnod arferol yn ailadroddus. Yn cychwyn am wyth, yn mynd i amryw ddarlith, a dim anarferol yn digwydd, gorffen am bedwar a dychwelyd adref. Ychydig o ffrindiau sydd gan Sarah, ac ychydig o fywyd cymdeithasol. Heb Tobias dyw hi’n ddim ond ar y funud mae’n well iddi fel hyn.
Gorffennaf 6ed 2007
Roedd popeth yn mynd yn iawn i Sarah, am unwaith. Roedd hi’n mynd i gyfweliad mawr i fod yn bennaeth Bioleg ym Mhrifysgol Caergrawnt. Dyma’r cyfle mwyaf i groesi ei llwybr.
Teithiodd Sarah i fyny i Lundain i aros am fis. I gynnal ei hun, cafodd swydd fel glanhawr toiledau mewn clwb nos adnabyddus. Clwb Nos R And R ydy un rheolaidd Tobias.
Mewn ystafell dywyll, fodern, mae’r pelydron o olau yn dangos y soffeydd rhuddliw wedi’u dotio o amgylch yr ystafell. Mae’r gerddoriaeth dawns yn gwahodd pobl i wladychu’r llawr ddawnsio. Yr unig le digalon a diflas yn y parti ydy ble mae’r toiledau. Ble mae Sarah wedi cael ei dympio.
Mae Tobias o’r diwedd yn cael ei ddal yn y weithred gan paparazzi llercion yn llwglyd am stori. Mae Tobi, gyda’i law ar gefn isaf Naomi, yn mewnanadlu’r sylwedd anghyfreithlon mae’n ei ddal rhwng dau fys. Er nad yw’n sylweddoli fod y ffotograffwyr yn clicio. Mae’n parhau i bwffian ac wrth wneud hyn mae’n gweld wyneb cyfarwydd ymhell yn y gornel.
Mae Sarah yn sefyll mewn rhan gysgodol, yn mopio’r lloriau yn drist. Mae hi’n codi ei phen ac wrth ei bodd yn gweld Tobi, ei ffrind hen goll! Wrth iddi godi ei llaw i chwifio, mae’n troi ei ben ac yn gwrthod hi. Yn teimlo’n ddigroeso ac yn ddigariad, gollyngai ei offer glanhau a brysio i’r fflat dros dro blêr ym maestrefi Llundain.
Gorffennaf 7fed 2007
Mae Tobias yn cael ei gyfarch gan hanner dwsin o bapurau newydd, pob un gyda lluniau o ef yn rebelio ac erthygl am ei weithredon gwarthus yn y lluniau hyn.
Mewn man arall, yn ddwfn o dan y ddaear, mae Sarah yn eistedd ar y Tiwb. Dyma’r hapusaf mae Sarah wedi bod, mae hi’n teimlo’n gynhyrfus ond ychydig yn nerfus. Yn ei phen mae hi’n paratoi ei meddyliau am ei chyfweliad mawr, ond gyda sŵn gwrthdaro mawr mae’r meddyliau yma yn stopio yn syth.
Wrth i Sarah orwedd yn llonydd, gyda phobl ddiniwed, marw, wedi’u lladd o’i chwmpas, mae’r cerbyd mae hi’n farw ynddo wedi’i rwygo, yn ddifrod. Wedi’i ffrwydro i ddarnau.
Mae Tobias yn wirioneddol angen ffrind, mae’n ffonio Sarah yn y gobaith y bydd hi dal yn ei garu. Nid oes ateb. Mae’n pwyso’r botwm coch diswyddiad ac yn ochneidio. Yn sydyn mae ei ffôn yn canu, mae’r neges yn fflachio ‘Sarah yn galw’. Mae’n ateb yn fuddugoliaethus ond ar ochr arall y ffôn nid Sarah sydd yno ond plismon yn gofyn i Tobias ddod i adnabod corf difywyd Sarah.
Mae Tobias yn gwyro dros ei chorff cleisiog ac yn cusanu ei thalcen ac yn sibrwd hwyl fawr. Ni fydd byth yn ei gweld hi eto.
DELWEDD: philippluecke







