Heb Gyfarfod Ti Eto
English version
(NB Michael – nid yw hwn amdanat ti!)
Roedd hi'n ddydd Gwener ac ar ôl ychydig o berswâd gan ffrind, es i'r dafarn efo hi yn hytrach nag i'r wers ddiwethaf.
Prynwyd diod, hanner o John Smith's i fi.
Waltswyd drwy'r adeilad yn sydyn yn chwilio am le i eistedd nes i ni ddod ar draws ffrind i fy ffrind. Eisteddom yn yr un bwth efo fo a chychwyn sgwrs. Roedd wedi gwisgo i lawr mewn du i gyd, efo amryw datw o'i le ar ei fraich a syllodd arna i wrth iddo gychwyn dadl: cariad.
Nawr, os wyt ti wedi darllen un o'm herthyglau eraill o'r blaen, byddi di'n ymwybodol fy mod i'n cwyno ac yn achwyn am y pwnc hwn ers degawdau, ond plîs paid anwybyddu hwn, parha i ddarllen achos mae pethau'n dod yn ddiddorol.
Gwrandawodd fy ffrind yn astud wrth iddo rantio am y ddwy eneth yma. Ond roedd un eneth benodol roedd ganddo'i lygaid arni, er ei bod hi'n byw yng Nghaergrawnt. Y broblem yn fan hyn oedd bod ganddi 'gariad ar-lein' yn AMERICA! Ia bobl CLIC, AMERICA!! Rhywun nad yw hi erioed wedi cyfarfod ond wedi cychwyn perthynas efo drwy vampire freaks dot com. Yn ôl pob sôn beth bynnag. Ac mae'r bachgen yma wedi gwneud yr un peth.
Daeth y rant yn ormod i mi ac yn ormod o ffactor comedi i fy ffrind, felly aethom tu allan a chael toriad sigarét. Roeddem yn giglan ac yn cwestiynu ei wallgofrwydd ond, meddyliais os fedri di ddarganfod cariad ar-lein yn WIRIONEDDOL a theimlo sbarc er nad ydych chi erioed wedi cyfarfod?
Sut fedra'r ferch yma feddwl am y bachgen Americanaidd yma fel ei chariad pan dydy'r ddau heb gyfarfod? Mae hynny fel fi yn dod o hyd i Russell Kane ar Twitter ac yn perswadio fo fod cysylltiad rhyngom ni am ei fod o'n... ti'n gwybod... ffit.
Oes posib cael gwir berthynas ar-lein ble dydy anwesu, cusanu, mynd ar ddêt a chysgu yn nhai eich gilydd ddim yn bodoli? Na! Heb sôn am ffydd a phwysigrwydd, sut fedri di gael ffydd mewn bachgen o Efrog Newydd pan ti'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr? Ti ddim yna i weld beth maen nhw'n wneud wyt ti? Dim ond fi sydd yn meddwl fod perthnasau syber yn ymddangos mwy fel jôc enfawr? Dwi'n gwybod fod rhai fi wedi dod i ben cyn i ti fedru dweud, "Dyma fy nghariad i," ond o leiaf roedden nhw'n wir.
Y diwrnod wedyn roeddwn yn gorwedd ar y soffa yn gwylio Sleepless In Seattle sydd yn stori debyg iawn. Dau o bobl oedd erioed wedi cyfarfod, un yn disgyn mewn cariad yn syth er mai dim ond yn ei adnabod trwy orsaf radio mae hi. Clywodd Alice Sam yn siarad â seicolegydd ar yr orsaf radio am golli ei wraig, a disgynnodd 'mewn cariad' ac ia, mewn gwir arddull Hollywood, mae'r ddau yn cyfarfod ac yn disgyn mewn cariad. Wrth i'r glodrestr rholio meddyliais, ai’r bobl yma ydy'r rhai gwallgof?
Heb adnabod y person 'arbennig' yna ond yn teimlo fel dy fod di'n adnabod nhw o'i goryn i'w sawdl yn barod a phenderfynu dy fod di'n caru nhw. Fi sydd yn wallgof am amau hyn? Ond nid all callineb ddod o dafod y gwallgof felly mae'n debyg bydd hyn yn aros yn ddirgelwch. Dirgelwch byddaf i'n datrys pan fydd fy nghalon yn methu curiad wrth gyfarfod yr un gwir gariad. Efallai wedyn byddaf i'n rhan o'r clwb cariadon gwallgof yma, dim ond bod un rheol: mae'n rhaid i'm nghariad ddod efo fi (Russell Kane yn amlwg).
Ond pan ti'n gwylio ffilmiau fel Sleepless In Seattle mae'n ymddangos yn rhamantus ac yn dderbyniol i ddisgyn mewn cariad efo unrhyw un yn y ffordd yma. Ond ym mywyd go iawn mae yna beryglon o beidio gwybod pwy ydynt go iawn. Ond wedi dweud hynny, cwpl o ddiwrnodau yn ôl cyfarfuasai â bachgen ifanc swynol oedd wedi cyfarfod ei ddyweddïad trwy chware World of Warcraft (ia… ym, nid oes llawer i ddweud… pob heddwch i chi!) felly efallai gallai weithio.
Byddai'n well gen i GYFARFOD fy machgen i gyntaf a disgyn mewn cariad llwyr a dwfn yn y ffordd yna. Ti'n gwybod, y ffordd arferol, yn lle cysidro perthynas ar-lein sydd mewn gwirionedd yn ddim ond ychydig o lythrennau ar sgrin. Mae wedi gweithio i rai ac wedi bod yn ofnadwy i eraill, ond dwi'n teimlo fod rhaid i ti gael allan yna a darganfod cariad, nid cuddio tu ôl i sgrin cyfrifiadur (rydych chi'n gwybod pwy ydych chi).
PS. Russell Kane, mi fyddai'n berchen arnat ti ryw ddydd, o byddaf. Gobeithio mai ti fydd yn llenwi fy hosan Nadolig eleni!
Tudalennau Bod Mewn Perthynas.







