Hunan Gred
Rydw i wrth fy modd yn tynnu lluniau. Comigau a chartwnau yn bennaf, ond rwy’n hoffi tynnu portreadau hefyd.
Cefais asesiad yr wythnos ddiwethaf, ac roedd yn rhaid i mi wneud cyflwyniad o flaen fy nosbarth i gyd ac arolygydd.
Roeddwn yn meddwl fod y cyfan wedi mynd yn dda. Ond doedd yr athrawes ddim. Doedd hi ddim yn hoffi fy ngwaith celf a doedd hi ddim yn hoffi fy lluniau. A doedd yr arolygydd ddim yn eu hoffi ychwaith.
Felly, sefais i fyny o flaen llawer o bobl, a rhoddais fy ngwaith celf i gyd mewn sioe sleidiau, proses sy’n hynod o boenus i mi ei wneud oherwydd does gennyf ddim hyder o gwbl.
Bu’n rhaid i mi siarad am ddeng munud a rhoi traethawd 3000 o eiriau i mewn dim ond i gael clywed fod fy ngwaith yn ddim byd ac y byddwn mae’n debyg yn methu’r cwrs oherwydd nad ydw i’n gwneud lluniau haniaethol a phethau y gall fy chwaer tair oed dynnu eu lluniau.
Felly i bawb sy’n hoffi tynnu lluniau neu unrhyw beth i’w wneud â chelf, waeth faint y bydd pobl yn creu problemau i ti, neu beth bynnag mae pobl yn ei ddweud wrthyt am dy waith, anwybydda nhw.
Dy waith di yw e’ ac mae’n rhywbeth yr wyt ti wedi ei greu. Paid â gadael i unrhyw un dy dynnu i lawr. Mae gen i ddwy flynedd arall a fedra’ i ddim rhoi’r gorau iddi oherwydd mae arnaf angen y cwrs hwn. Mae’n cyfateb i dri phwnc lefel Uwch a 5 TGAU
Rwy’n gobeithio cyrraedd yno yn y pen draw oherwydd dydw i ddim yn mynd i weithio am dair blynedd i gael rhywun yn dweud wrtha’ i nad ydw i ddim yn mynd i lwyddo, oherwydd fe wnaf lwyddo. Dymuna pob lwc i mi oherwydd mae arnaf ei angen!








