Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Hwyl Yr ?yl Neu 'Merry Christmas'

Postiwyd gan eddie secretary o Torfaen - Cyhoeddwyd ar 23/12/2011 am 09:55
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Diwylliant, Pobl, Materion Cyfoes

  • eira

English version

Nodyn: Fel gyda phopeth ar CLIC mae'r farn a fynegwyd yn yr erthygl hon yn rai'r awdur ac nid o reidrwydd yn rhai CLIC.

Iawn, felly mae hwn yn fath o rant…

Felly dwi wedi bod yn gwrando ar y gweithwyr yn y siopau a thu'n gwybod beth? Byddwn i'n dweud fod tua 70-80% ohonynt yn dweud "Happy Holidays" (Hwyl yr ?yl).

Nawr, dwi'n cofio pan oeddwn i'n ifanc, doedd dim ots ble oeddet ti neu pwy oeddet ti, roedd staff y siop bob tro'n dweud "Merry Christmas" (Yn cyfeirio at Crist wrth gwrs – dyw'r un broblem ddim yn wir wrth ddweud Nadolig Llawen). Beth sydd mor o'i le mewn dathlu g?yl Gristnogol gelwir yn 'Christmas'? Pam fod llawer o lefydd adeg yma'r flwyddyn yn stopio canu carolau a stopio siopau o ddweud "Merry Christmas"? Pam bobl, ydym ni yn gadael i hyn ddigwydd? Ar ddiwedd y dydd, mae'r mwyafrif o bobl Brydeinig yn Gristion a dylent gael dathlu eu ffydd heb erledigaeth.

Ond dyna'r ochr Gristnogol, nawr am y crefyddau eraill (ac mae gormod ohonynt i restru). Dwi'n deall nad yw'r bobl ffydd Iddewig efallai ddim yn dathlu'r Nadolig fel ni, ac maent yn dilyn ffordd y Chanukah. I ddweud y gwir byddwn yn mwynhau dathliad Chanukah gan fy mod i efo diddordeb mewn dysgu cael profiad o ddiwylliannau newydd.

Gyda'r bobl o'r ffydd Fwslimaidd, dwi ddim yn sicr pa wyliau maent yn dilyn amser yma'r flwyddyn ond dwi'n deall eu bod yn teimlo wedi'u gwthio o'r neilltu yn ystod cyfnod y Nadolig, ond dwi hefyd yn teimlo na ddylai nhw gael eu herlid oherwydd eu ffydd chwaith ac na ddylai nhw gaethiwo ni o ddathlu ein ffydd ni chwaith (os ydy'r erthygl yma wedi tramgwyddo unrhyw un yna ymddiheuriadau).

Ond dwi o'r farn dylai dinasyddion Prydain gael caniatād i ddathlu eu ffydd a'r gwyliau sydd yn gysylltiedig iddynt heb gael eu herlid na'u cyfyngu!

Felly eleni dwi'n dymuno "Merry Chrismas" a blwyddyn newydd dda i bawb! Ond i'r rhai sydd ddim yn dathlu'r Nadolig yna hwyl yr ?yl i chi!

Gwybodaeth - Crefydd

DELWEDD: taivasalla

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50