Hyfforddiant A Chefnogaeth Iechyd Meddwl
Os wyt ti'n berson ifanc efo problem cyflwr iechyd meddwl a hoffet gael cyngor a chefnogaeth, mae'r Sefydliad Iechyd Meddwl yn cynnal cwrs hunan reolaeth am ddim i bobl ifanc yng Nghaerdydd ar ddydd Mercher 24ain a dydd Iau 25ain Awst 2011, yn Stadiwm y Mileniwm, Heol y Porth, Caerdydd, CF1 1NS.
Mae'r hyfforddiant hunan reolaeth yn cynnwys gweithdy dau ddiwrnod, chwe sesiwn hanner diwrnod dilynol bob pythefnos a ffurfiant grŵp cefnogaeth gyfoed ble bydd pobl yn parhau i gael cefnogaeth.
Mae'r hyfforddiant yma ar gyfer pobl ifanc 18-30 oed gyda diagnosis iechyd meddwl parhaol sydd yn byw yng Nghymru a hoffai ddysgu sgiliau fydd yn galluogi nhw i osod nod, creu cynlluniau gweithredu a dysgu sut i ddatrys problemau i weithio tuag at gyrraedd y nodau hyn.
Os oes gen ti ddiddordeb yn y cwrs hyfforddiant yma, plîs e-bostia walesmhf@mhf.org.uk neu ffonia 01633 415434 i gadw lle.
Am wybodaeth bellach am y prosiect hunan reolaeth yng Nghymru, plîs ymwela www.mentalhealth.org.uk
Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd Emosiynol a Meddyliol
Digwyddiadau » Mental Health Self-Management Course







