Iselder: Cyfaddefiad Personol
*Rhybudd: Mae'r stori hon yn ddisgrifiad personol o salwch meddwl. Efallai bydd yn ffynhonnell sbardun i rai pobl. Cynghorir doethineb darllenwr*
Bydd y mwyafrif ohonoch erbyn hyn wedi clywed am farwolaeth drasig a sydyn rheolwr y tîm cenedlaethol Cymru Gary Speed.
Bu farw o hunanladdiad ymddangosiadol yn 42 oed. Dwi ddim yn hoff iawn o bêl-droed; mae gen i ychydig o ddiddordeb ynddo, ond beth wnaeth y newyddion i mi, oedd fy atgoffa mewn ffordd anghyffyrddus a trist o'm hymgais i ladd fy hun.
Ia, ti wedi darllen yn gywir, dwi wedi trio rhoi diwedd ar bopeth. Sioc? Syndod? Wedi syfrdanu? Mae'n debyg fod y rhai ohonoch sydd yn adnabod fi ddim wedi cysidro'r ffaith fy mod i wedi meddwl am farw, heb sôn am drio lladd fy hun. Ond, mae'n wir ac fe ddywedaf fy stori, os ti'n fodlon i wrando.
Hunanladdiad ydy un o'r pethau tabŵ mewn cymdeithas. Gall siarad am unrhyw beth ond 'hynny'. Os nid ydym yn siarad amdano, nid yw'n bodoli; mae'n eistedd yn nerfus yng nghefn cwpwrdd bywyd, un rhan ohono yn gobeithio na fyddwn ni byth yn chwilio amdano ac un rhan yn gobeithio byddwn ni. Ond mae yno drwy'r adeg, yn llercian yn y tywyllwch.
Dwi wedi dioddef o iselder, ac yn fwy diweddar Anhwylder Deubegwn, am mor hir a gallaf gofio. Mae'r Anhwylder Deubegwn yn, fel dwi'n ddweud , ddiagnosis eithaf diweddar, ond mae'r Iselder Cronig gen i ers roeddwn yn fy arddegau.
Mae cymaint wedi cael ei ysgrifennu am salwch meddwl, pethau da a drwg, fel ein bod bron yn teimlo'n ddideimlad i'w ystyr a'i effaith ar bobl.
Mae fy stori bersonol i yn un o frwydro mawr ac aberth personol. Stori sydd yn parhau i gael ei ysgrifennu, a bydd yn parhau i gael ei ysgrifennu nes byddaf yn marw. Mae rhai pobl yn cael bowt byr o iselder yn digwydd yn ystod cyfnodau emosiynol neu ingol yn eu bywydau ac ar ôl cyfnod byr o amser maent yn gwella i arwain bywyd iachus. Mae eraill fel fi, yn cario holl bwysau beth mae Horace wedi'i alw yn 'ci du' ar ein hysgwyddau yn ddyddiol.
I geisio ysgrifennu sut mae'n teimlo pan ti'n wirioneddol isel ydy un o'r pethau anoddaf gall person ei wneud. Mae'r teimladau, meddyliau a'r emosiynau i gyd yn fy mhen, ond mae ysgrifennu sut mae'n teimlo yn brawf enfawr o'r hunan. I ddweud ei fod yn deimlad fel cael dy fygu gan dywyllwch pan ti ar dy bwynt isaf; tywyllwch dinistriol, dwys. Dyw hyn ddim yn hyd yn oed dechrau disgrifio'r cyflwr meddwl annioddefol a trallodus ti ynddo.
Yn ystod un o fy nghyfnodau isaf chwe blynedd yn ôl, roeddwn eisiau marw. Roeddwn i wir eisiau marw. Roedd fy meddwl wedi difa, fy nghorff mor carpiog ac wedi'i rwygo gan fywyd ac ar yr adeg honno, yr unig beth oeddwn i eisiau oedd cysgu a byth deffro. Doedd y syniad o hunanladdiad ddim yn beth ofnus. I ddweud y gwir, cefais synnwyr pendant o ryddhad a rhyddid. Syniad od, ond un roeddwn yn barod i dderbyn. Roedd fy modolaeth gyfan wedi torri cymaint fel bod unrhyw ymgais i drwsio fi yn ymddangos yn hurt. Nid oedd golau, dim tywyllwch, dim dydd na nos. Dim cariad, dim chwerthin dim bywyd. Doedd dim. Uffern o ddim.
Pan mae'n brifo i agor dy lygaid ond mae'n brifo mwy i gadw nhw wedi cau, ti'n gwybod nad wyt ti mewn lle da. Doeddwn i ddim yn gallu cael allan o'r gwely; doeddwn i ddim yn gallu symud. Roedd hyd yn oed meddwl yn cymryd cryfder goruwchddynol. Doeddwn i ddim yn bwyta, gallwn i ddim cysgu, a doeddwn i ddim yn ymolchi. Os byddai pyllau uffern yn wir, roeddwn i yn byw yno. Doedd dim yn gallu llusgo fi allan. Dyna pan benderfynais roi diwedd ar bopeth.
Fedrai ddim esbonio'r broses o feddwl sydd yn digwydd pan ti eisiau marw a cheisio ei wneud. Mae bron fel petai ti ar awtobeilot gyda golwg twnnel; mae pob rhesymeg wedi gadael ti ac mae dy holl feddyliau yn chwilio am ryw fath o heddwch. Unrhyw fath o heddwch. Unrhyw fath o orffwys. Unrhyw fath o ddianc. Mae'r blynyddoedd wedi niwlo fy atgofion o'r diwrnod penodol hwnnw, ond dwi yn gwybod fod dagrau a chalon mor drwm fel y meddyliais y byddai'n gollwng allan ohonof a marw cyn i mi wneud.
Roedd ysbytai, a doctoriaid, a seiciatryddion, a meddygaeth, ac un dydd, rhyw sut, roddais y darnau carpiog ac wedi'u rhwygo yn ôl at ei gilydd a byw i ddweud yr hanes. Mae yna dal seiciatryddion a meddygaeth, diwrnodau da, diwrnodau drwg a dyddiau ble, unwaith eto, dwi'n cymryd taith i mewn i byllau uffern. Dwi dal yn cael meddyliau am hunanladdiad weithiau, ond nawr dwi efo sustem gefnogol mewn lle i stopio hyn gyrraedd y pwynt critigol. Bod hyn yn parhau trwy fy mywyd, dwi ddim yn gwybod. Yr unig beth dwi'n gwybod ydy mai cymryd pob diwrnod fel y daw, yn llythrennol, ydy'r unig ffordd weithiau i fedru goroesi.
Mae pobl ifanc mor dueddol i gael problemau iechyd meddwl ag y mae oedolion, a gyda phwysau ysgol,teulu, perthnasau a mwy, gall fod yn adeg anodd bod yn berson ifanc, Os gallaf roi un darn o gyngor dyma fyddai ef; os wyt ti'n teimlo'n isel, yn drist, neu'n hunanladdol, plîs, plîs siarada gyda rhywun. Paid cadw popeth i mewn. Os wyt ti'n teimlo nad alli di siarad gyda rhywun, yna ysgrifenna ef i lawr.
Defnyddia unrhyw ffordd ti'n teimlo'n gyffyrddus i adael dy deimladau allan. Nid oes gwendid mewn gofyn am gymorth. Os byddet ti'n edrych arnaf i yn y stryd, fyddet ti'n gwybod sut oeddwn i yn teimlo go iawn? Mae pobl yn cerdded o gwmpas drwy'r dydd yn ymladd brwydron personol yn breifat. O ddydd i ddydd, a wyddwn ni ddim.
Bydd un mewn bob pedwar person yn, ar un pwynt yn eu bywydau, cael profiad o ryw fath o salwch meddwl. Dydy dweud wrth bobl am 'ddod dros y peth' neu 'ni all fod mor ddrwg â hynny' ddim yn helpu ymladd y stigma o salwch meddwl. Beth sydd yn helpu ydy hanesion pobl. Straeon go iawn fel un fi. Dwi ddim efo cywilydd o fy ngorffennol a dwi ddim efo cywilydd o fy salwch meddwl.
Nid yw'n diffinio fi, na ddylai o ddiffinio ti nag unrhyw un arall. Os nad ydym yn siarad am ein profiadau ni fyddwn yn gallu rhoi diwedd ar y frwydr barhaol i drin pobl gydag iechyd meddwl gyda'r parch a'r urddas maent yn haeddu.
Dim ond cychwyn fy stori i yw hwn, ond os oes gen ti stori fel un fi, dwi'n gobeithio bydd yn annog ti i siarad am dy brofiadau.
Os wyt ti angen siarad gyda rhywun, galwa'r Samariaid ar 08457 90 90 90, neu e-bostio jo@samaritans.org neu edrycha ar y dolennau yma yn adran gwybodaeth Swoosh.







