Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

La Fheile Padraig Sona Duit!

Postiwyd gan Beckie Sub Editor o Bro Morgannwg - Cyhoeddwyd ar 14/03/2011 am 08:50
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Diwylliant, Dawns, Addysg, Gwyl, Bwyd a Diod, Hanes, Pobl, Chwaraeon a Hamdden, Materion Cyfoes

  • Photo 2

English version

La Fheile Padraig Sona Duit- mae'n golygu Dydd Gŵyl Padrig Hapus!

Yn union fel Dydd Gŵyl Dewi, mae Gweriniaeth Iwerddon efo dydd ei hun hefyd yn dathlu ei nawddsant.

Bob blwyddyn ar 17 Mawrth mae Iwerddon, Gogledd Iwerddon a gwledydd eraill efo cysylltiad Gwyddelig yn dathlu bywyd Sant Padrig fu'n fyw o AD 387-461.

Nid oes llawer o wybodaeth am ddyddiau cynnar Sant Padrig. Cafodd ei eni yn Prydain Rhufeinig yn y 4ydd ganrif, ac yn 16 oed cafodd ei herwgipio gan ysbeilwyr Gwyddelig aeth ag ef i Iwerddon fel caethwas. Treuliodd ei fywyd yn gwasanaethu'r eglwys, ac yn lledaenu neges Cristnogaeth.

Mae nifer o bobl yn cysylltu Dydd Gŵyl Padrig gyda'r shamrock. Yn debyg iawn i gennin pedr Cymru, ac mae llên gwerin Wyddelig yn dweud fod un o ddulliau dysgu Sant Padrig yn cynnwys defnyddio shamrock i esbonio gwersi Cristion y Drindod i'r bobl Wyddelig.

Mae gwyrdd wedi cael ei gysylltu gydag Iwerddon a Dydd Gŵyl Padrig ers amser maith, ond nid yw wedi'i gysylltu gyda Sant Padrig erioed, glas oedd y lliw gwreiddiol. Mae rhubanau gwyrdd a shamrocks wedi cael eu gwisgo mor fuan â’r 17eg ganrif.

Yn America, sydd â phoblogaeth uchel o breswylwyr Gwyddelig, mae llawer o ddathliadau dros y wlad ar 17 Mawrth. Y mwyaf ohonynt yn Ddinas Efrog Newydd, sydd yn cynnal y parêd Dydd Gŵyl Padrig dydd Iau - mwynha dy hun!

Delweddau: indulge Desserts & stpatty.info

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.