Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Lluniau Newydd

Postiwyd gan Metallica-gal o Castell-Nedd Port Talbot - Cyhoeddwyd ar 19/02/2010 am 14:44
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Celfyddyd, Comedi, Ysgrifennu Creadigol, Teithio

  • lluniau
  • lluniau newydd

English version

Wel, fel ti'n gwybod dwi wrth fy modd yn tynnu lluniau.

Felly dwi wedi postio mwy o luniau yma oherwydd bod pobl eisiau gweld mwy.

Dyma fy rhai diweddar o deviantART.

Dydyn nhw ddim mor dda â hynny, oherwydd dwi ddim wedi defnyddio Photoshop yn iawn o’r blaen. Dim ond nawr rwy’n ei ddefnyddio am y tro cyntaf.

Gobeithio ti'n hoffi’r rhain.  Roeddwn yn meddwl defnyddio un o’r enw Llythyrau Caru ar gyfer clawr y CLICzine nesaf oherwydd mae’n cynrychioli ysgrifennu'r hyn yr wyt ti'n ei deimlo.

Rydw i yn y broses o wneud gwahanol stribedi comig ar Photoshop, o’r pethau bach sydd wedi digwydd gyda CLIC hyd yma. Mae’r un dwi’n gweithio arno ar hyn o bryd yn ymwneud â’r cwrs preswyl olaf, pan gafodd Portia ei damwain fach. Mae’n ddrwg gen i Portia – roedd rhaid imi wneud hyn!

Gyda llaw, roedd yr esgidiau roeddet yn eu gwisgo yn neis iawn.

Byddwn wrth fy modd yn cael sylwadau am wahanol syniadau ar gyfer stribedi comig newydd hefyd!

Diolch yn fawr.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.