Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Mae CLIC Wedi Glanio!

Postiwyd gan CLIC Kathryn o Cenedlaethol - Cyhoeddwyd ar 25/10/2009 am 14:09
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Materion Cyfoes

  • glanio

English version

Ar ôl blwyddyn o gynllunio, datblygu ac ymgynghori parhaus gyda phobl ifanc a sefydliadau, rydym o’r diwedd yn datgelu ein golwg newydd a ffres. 

Fel y gwasanaeth cenedlaethol i roi Gwybodaeth a Chyngor i Bobl Ifanc (11-25) yng Nghymru, bydd CLIC yn parhau i ddarparu gwyddoniadur o wybodaeth ddefnyddiol i'w defnyddwyr  a’u cyfeirio at sefydliadau perthnasol i ofyn am gymorth a chyngor.

Yr hyn sy’n wahanol yw y bydd y wefan yn awr yn caniatáu i ti a’r sefydliadau sy’n cefnogi dy weithgareddau lwytho erthyglau, lluniau a fideos hefyd i roi cyhoeddusrwydd i ddigwyddiadau a newyddion i’w rhannu gyda phawb ar draws Cymru. 

Y cyfan sy’n rhaid i ti ei wneud yw cofrestru ar-lein i gael enw defnyddiwr a chyfrinair i allu dechrau cyfrannu at y wefan. Bydd yr holl gynnwys a lwythir yn cael ei safoni gan y golygyddion cyn ymddangos ar-lein. 

Gyd chymorth pobl ifanc rydym wedi dechrau adolygu ac ailysgrifennu rhai adrannau o’r wybodaeth gyfredol ond croesawir sylwadau ac adborth gan bawb sy’n ymweld â’r wefan. Gyda chymaint o wybodaeth werthfawr yn cael ei chynnwys, bwriedir datblygu’r wybodaeth dros y flwyddyn i ddod. 

Mae cyfle i roi sylwadau ar bob tudalen felly cymera ran, arwydda i gofrestru, llwytha dy gynnwys dy hun neu rho wybod i ni beth rwyt ti'n ei feddwl!


Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.