Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Mae Shifft Yn Digwydd

Postiwyd gan Chainey o Rhondda Cynon Taf - Cyhoeddwyd ar 04/11/2010 am 23:05
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Addysg, Technoleg, Gwaith a Hyfforddiant

  • future

English Version

Mae’r rhan fwyaf ohonom sydd yn dod ar Wicid, CLIC, theSprout ayyb i gyd yn eithaf craff ar y rhyngrwyd. Rydym wrth ein boddau gyda’r dechnoleg sydd ar flaen ein bysedd. Beth ddaw yfory?

Oeddet ti’n gwybod, erbyn yr amser ti’n 21 oed byddet yn debygol o fod wedi gwylio 20,000 awr o deledu a chwarae 10,000 awr o gemau fideo?

Meddylia os byddai’r 10,000 awr yma yn cael ei dreulio yn dysgu iaith, yn deall y gyfnewidfa stoc neu wneud rhywbeth. Neu’r 20,000 awr o deledu yn cael ei dreulio yn bod yn gynhyrchiol.

Mae ceblau opteg ffibr newydd sydd yn gwthio 10 triliwn didau i lawr y ffibr – golygai hyn i mi fyddem yn byw rhyw fath o fywyd rhith wirionedd cyn hir. Ofnus.

Gwylia’r fideo i ddarganfod mwy.

Ond beth mae hyn i gyd yn ei olygu i ni yng Nghymru?

Wel, bob dydd mae myfyrwyr o amgylch y byd yn cydweithio ar brosiectau ar-lein; ysgrifennu ffilmiau, datblygu gwefannau, golygu delweddau, dylunio electroneg, creu gwaith celf a mwy na fedra ddychmygu.

Ni fedrwn ni cael ein gadael ar ôl. Dyw’r dechnoleg ddim am fynd i ffwrdd. Mae’n rhaid i ni gofleidio fo, defnyddio fo, archwilio’r posibiliadau, gwthio’r ffiniau, breuddwydio am sut i’w ddefnyddio er lles ein hunain, a lles eraill.

Rydym yn byw mewn amseroedd cyffrous.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.