Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Monolog – Yr Eneth Ddistaw

Postiwyd gan Ihavethecyrusvirusx o Rhondda Cynon Taf - Cyhoeddwyd ar 04/02/2011 am 17:36
1 sylwadau » - Tagiwyd fel Ysgrifennu Creadigol

  • monolog

English version

Mae'r erthygl hon wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Adolygiad Gorau yng Ngwobrau CLIC 2011.

Dyna’r trydydd gwaith i mi gael rhywbeth wedi’i anelu am fy mhen a llwyddodd fy nharo fi yn y pymtheg munud diwethaf.

Maent yn piffian arnaf i a meddwl mod i’n jôc. Dim ond am nad wyf fel nhw. Tin deall beth dwi’n feddwl?

Yr hogiau sydd ond yn poeni bod eu tacl yn enfawr ac os ydynt yn ei chael hi neu beidio'r wythnos hon gan ryw “chick” trist. O, ac yna mae’r genethod plastig dwi’n taeru sydd wedi cael eu gwneud yn Tsiena. Ti’n gwybod y fath? Y rhai sydd ddim yn gallu helpi ond rhoi colur ymlaen, eisiau snogio hogiau a partïo yn galed.

O, a ni fedra anghofio am actio’n ddwl i’r hogiau, na allem? Ia. “Mae addysg yn crap” medda nhw, ond yna yn disgwyl ennill miliynau. Pobl hurt. Dwi’n wahanol. Wel, gwahanol iddyn nhw. Maen nhw’n treulio’r nosweithiau a phenwythnosau, mewn disgo, yn cael ychydig o ganiau ac ati. Fi? Dwi’n meddwl fod hynna yn du hwnt o anaeddfed. Na, dwi ddim yn drist. Wel, dyna mae fy ffrind gorau, Beckii, yn ddweud beth bynnag.

Jenny dwi. Dwi’n hoffi sglefrio iâ, marchog ceffylau, darllen nofelau a chael nosweithiau yn cysgu yn nh? fy ffrindiau. Dwi ddim yn gwisgo fel slag a dwi ond yn gwisgo ychydig o golur. O leiaf dwi ddim yn edrych fel liquorice allsort! Dwi’n cael ymlaen gyda’n ngwaith gan fod i eisiau bod yn newyddiadurwr pan yn h?n. Dwi angen cymhwysterau da i gael i mewn i brifysgol. Dwi ddim ond yn gwneud beth fydd yn effeithio fy nyfodol y ffordd iawn. Dwi ddim yn siarad yn y dosbarth gan nad oes dim i siarad amdano. Maen nhw i gyd yn meddwl “dyma’r bywyd”.

Disgwyl di tan maen nhw'n ganol eu tridegau, mewn dyled a ddim efo swydd. Mmm. Yna pwy fydd â’r chwarddiad diwethaf?

Delwedd: Cedwir Pob Hawl gan MiNd-PICtURe-SyMbloSIS

1 CommentPostiwch sylw

Ihavethecyrusvirusx

Ihavethecyrusvirusx

Rhoddwyd sylw 27 mis yn ôl - 9th February 2011 - 21:08pm

haha cool! It can be viewed in Welsh :D

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50