NadoCLIC #15
English version
Croeso i ffenestr #15 o'r Calendr Adfent NadoCLIC! Os hoffet ffenestr dy hun i ddangos dy stwff Nadolig (neu dylai hynny fod yn stwffin!!!) a chael cyfle i ennill Nintendo 3DS yna e-bostia dan@cliconline.co.uk cyn gynted â phosib.
10 Cân Gorau Nadolig
Iawn, felly dydd Mawrth, cawsom 10 Cân Waethaf Y Nadolig, wedi'u dewis gan ThingsThatAnnoyMe. Ac roedd yn eithaf diflas gweld cymaint o gasineb at lawenydd y Nadolig… felly dwi wedi penderfynu cyflwyno 10 o'r Caneuon Nadolig Gorau… efallai byddai cefnogwyr drws #13 NadoCLIC yn hoffi edrych i ffwrdd nawr…
Felly, mewn dim trefn o gwbl (gan fy mod yn caru pob un cymaint â'i gilydd):
10) Wham! – Last Christmas
Ia, yr un gyda George Michael ynddo. Hyfryd o 80au, yn boddi mewn caws y Nadolig, dwi'n caru'r gân yma, yn bennaf am fod pawb yn adnabod y geiriau, a dyw cael canu yn ystod y Nadolig byth yn beth drwg. Mae ganddo bopeth dylai cân y Nadolig gael: fideo drwg, cytgan gafaelgar a chlychau yn tincial, hyd yn oed! Enillydd dwi'n meddwl.
9) Jona Lewie – Stop The Cavalry
O fy holl ganeuon Nadolig gorau, hwn ydy'r un mwyaf od mae'n debyg. Mae'r gân yn un rhyfeddol o lon am filwr eisiau mynd adref am y Nadolig, yn lle ymladd yn ffosydd eiraog yr Ail Ryfel Byd. Mae'n eithaf c?l, os dwi'n onest. Mae'n bendant yn gân sydd ddim yn cael ei werthfawrogi ddigon. Mae hyd yn oed band pres ynddo.
8) Wizzard – I Wish it Could Be Christmas Everyday
Heblaw am y ffaith fod yna robot ar y cychwyn, yn ogystal â'r prif lais gyda gwallt fel Gandalf gyda het Where's Wally ar ei ben, mae'n rhaid i hwn fod ymysg yr ychydig o ganeuon sydd yn cael ei adnabod, ond sydd ddim yn cael ei gorchwarae, yn ein bywydau, yn sicr? Mae popeth amdano yn anhygoel – mae'r fideo hyd yn oed efo castell a mwstas a gwisg ffansi. Byddai Nadolig ddim yn Nadolig hebddo.
7) Xander Rawlins – 1000 Miles Apart
Iawn, dyw hwn ddim yn glasur, ond mae dal yn gân wych. Wedi'i ysgrifennu gan filwr tra yn Afghanistan, mae'n drist yn sicr, ond mae'n bwysig dwi'n meddwl, i'r syniad o Nadolig modern. Yn bennaf am ei fod yn gwneud fi deimlo'n ddiolchgar am beth sydd o'm nghwmpas, a'r gost i'r rhai sydd wedi peryglu eu bywydau ar gyfer ein rhyddid. Oherwydd, fel mae'r gân yma yn esbonio, bydd rhai pobl heb dad, mam, ewythr, modryb, cefnder, cyfnither, brawd, chwaer, ffrind gorau, cariad, gwr neu wraig y Nadolig hwn o ganlyn yr aberth maent wedi gwneud i'n gwlad. A dylai'r Nadolig fod yn gyfnod lle rydym yn ddiolchgar am heddwch, a'r rhai sydd yn ymladd amdano.
Ond yn anffodus, nid oes llawer o ddynion eira yn y fideo.
6) John & Yoko & The Plastic Ono Band gyda'r Harlem Community Choir – Happy Xmas (War is Over)
Yn bendant, mae hwn yn un o fy ffefrynnau. Nid oes dim gwell na John Lennon yn canu am gyfnod heddwch gyda chôr o blant gyda chlychau'n tincian i wneud i mi wenu a rhoi ffydd yn fy nghyd-ddyn ac ati. Gwisga dy het Siôn Corn a swaeo iddo, gan nad yw'r un Nadolig yn gyflawn heb y gân yma.
5) Tom Jones & Cerys Matthews – Baby, It’s Cold Outside
Efallai bydd rhai sydd yn draddodiadol am y Nadolig yn cwyno am hwn, ond dwi am barhau er hyn. Efallai nad oes cyfeiriad gwirioneddol at y Nadolig ond MAE hi'n oer tu allan, ac weithiau, mae'n bwrw eira fel Narnia, a wel… mae hynny'n Nadoligaidd, tydi? A hefyd nid oes dim gwell i wneud i ti chwerthin na Cerys Matthews yn gorffen gyda "bloody freezing, innit". Felly dwi'n dadlau fod hwn yn gân sy’n cynhesu’r galon lawn o wmff a'r gallu i ganu ynghyd ag ef.
4) Band Aid 20 - Do They Know It’s Christmas?
Yn onest nawr, mae hwn yn gân dda. Oes, mae ganddo gynlluniau odli drwg sy'n cael eu gorddefnyddio, ond nid oeddent yn ceisio bod yn T.H. Parry Williams, oedden nhw? I ddweud y gwir, o safbwynt cerddorol, mae wedi'i roi at ei gilydd yn eithaf da. A dwi'r un mor hapus yn gwrando ar y gwreiddiol ag yr ydw i'r fersiwn hwn os dwi'n onest. Ond mae'r un yma yn mynd un cam ymhellach, dwi'n meddwl. Mae ganddo ychydig o hud gitâr Hawkins; ychydig o pop Sugababes; tôn lledfol Dido; ac mae yna rapiwr yna yn rhywle, dwi'n si?r. Ond gall ddarganfod y prydferthwch mewn dwy ffurf: yn gyntaf, am ei fod wedi cael ei ysgrifennu i gasglu arian i helpu teuluoedd llwglyd yn marw o AIDS a salwch yn y Gwledydd Trydydd Byd. Yn ail, mae wedi caniatáu i gr?p o bobl, sydd i gyd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd yn eu gyrfaoedd, i ddod at ei gilydd a gwneud rhywbeth sydd ddim yn hunanol ac yn hyfryd.
3) Twisted Sister - White Christmas
Dwi'n credwr mawr mewn Roc Nadolig. A dyma esiampl wych o fersiwn newydd dda o gân. Mae yna gymaint ar gael, ond dwi'n sicr fod hwn yn ddim llai na anhygoel. Tiwn wych i lapio anrhegion. Mae pawb yn adnabod y geiriau, felly gwen mawr ymhobman dwi'n meddwl.
2) The Pogues & Kirsty MacColl - Fairytale Of New York
Nawr, dwi ddim yn dweud fod yr un yma ddim yn dramgwyddus – i ddweud y gwir, dwi wedi fy synnu eu bod nhw'n ei chwarae ar y radio bellach. Ond, dwi yn meddwl fod hud y gân wedi'i golli ar rai pobl. Mae'n hiraethlon, ac yn cyfleu Nadolig mwy realistig yn berffaith – gydag ychydig o ffraeo a pherthnasau amherffaith. Dwi'n meddwl, heblaw am y cyfeiriadau homoffobig, mai cân hwyl ydyw i gael o gwmpas. Mae'n llawn o'r rhagolwg lleddf Prydeinig ar fywyd, ac mae'n gwneud i mi chwerthin i feddwl gallwn bob tro weld yr ochr ddrwg i bethau… hyd yn oed ar y Nadolig. Mae'n rhesymol o lon, mae'n cael fi i mewn i ysbryd y Nadolig, ac mae'n hwyl cael canu gydag ef. Dim byd o'i le efo hynny.
Ond, dwi'n meddwl fod y fersiwn Ronan Keating yn drasiedi o ddeallusrwydd dynol, ac yn staen du mawr ar dapestri hanes cerddorol.
1) The Darkness - Christmas Time (Don’t Let the Bells End)
Hwn, dwi'n meddwl, ydy'r "I wish it could be Christmas Everyday" o'm nghenhedlaeth i. A dwi ddim yn credu bod unrhyw un yn gallu anghytuno gyda hynny. Ychydig o hwyl ydyw. Mae bias gen i gan fy mod i'n caru The Darkness, ond mae hwn yn hyfryd. Gitâr aml-wddf, cytgan gwych a choeden Nadolig… beth gall fynd o'i le gyda hynny?! Mae'n rhaid ei fod yn fil gwaith gwell nag unrhyw beth fydd yr X Factor yn cynhyrchu eleni, yn sicr? Yn well na Bieber? Wel ydi si?r iawn! Mae'n wych!
Felly, Nadolig Llawen, Merry Christmas, Joyeux Noel, Nollaig Chridheil, CLICwyr!
Wyt ti'n ysgrifennydd, ffotograffydd, gwneuthurwr ffilm, darlunydd, DJ, cerddwr, animeiddiwr, blogiwr, bardd neu'n greadigol yn gyffredinol sydd efo rhywbeth i ddweud am y Nadolig? Wel, e-bostia sam@cliconline.org.uk i gael cyfle i gael ffenestr NadoCLIC dy hun nawr a chyfle i ennill Nintendo 3DS!







