Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

NadoCLIC #9

Postiwyd gan eddie secretary o Torfaen - Cyhoeddwyd ar 09/12/2011 am 12:00
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Yn Gymraeg

  • 4

English version

Croeso i ffenestr #9 o'r Calendr Adfent NadoCLIC! Os hoffet ffenestr dy hun i ddangos dy stwff Nadolig (neu dylai hynny fod yn stwffin!!!) a chael cyfle i ennill Nintendo 3DS yna e-bostia dan@cliconline.co.uk cyn gynted â phosib.


Dwi'n dyfalu erbyn hyn bod y mwyafrif ohonoch wedi rhoi eich addurniadau Nadolig i fyny, ac os ddim: rydych chi angen dal i fyny!

Yn fy nhŷ i mae'r addurniadau i fyny. Nid cymaint ag arfer am ychydig resymau:
1 – Mae prisiau trydan yn llawer rhy uchel eleni; fel arfer ein tŷ ni ydy'r un mwyaf disglair yn y stryd, mae gennym gannoedd o oleuadau a silwetau.
2 – Newid mewn amgylchiadau teuluol sydd yn golygu fod holl hwyl y Nadolig wedi cael ei sugno ohonom eleni.

Ond yn ôl i'r addurniadau…

Byddet yn gweld addurniadau sgleiniog yn mynd  fyny, rhai mawr sy'n goleuo i fyny a bob math, ond mae'n rhaid meddwl am y rhai sydd ddim efo'r holl bethau sydd gennym ni. Ia dyna ti, dwi'n siarad am y bobl ar y strydoedd eleni, a'r rhai yn y gwledydd trydydd byd.

Cefais y pleser ychydig flynyddoedd yn ôl i fynd drosodd i Ghana, ac yno maent yn dathlu'r Nadolig, ond nid fel ni: nid oes ganddynt goed Nadolig a goleuadau ac anrhegion a phopeth: na, maent yn mynd i'r eglwys; maent yn treulio amser gyda theulu; yn byw'r dydd, ac yn rhannu'r ychydig sydd ganddynt gyda'r rhai sydd â dim.

Ond dydyn ni ym Mhrydain byth yn hapus gyda beth rydym yn ei gael: os nad ydym yn ei hoffi, rydym yn mynd ag ef yn ôl i'r siop ac yn cael ein harian yn ôl. Wel dwi'n dweud NA, dim eleni. Dwi'n addo byddaf i yn rhoi'r anrhegion dwi ddim eisiau i'r bobl sydd eu hangen, rhywun sydd angen rhywun i ddangos tosturi a chariad ar adeg yma'r flwyddyn. Dwi'n addo i roi unrhyw anrheg na fyddaf yn ei ddefnyddio i Hosbis Plant Tŷ Hafan.

Dwi'n annog ti i ymuno gyda fi yn y tosturi hwn. Dwi'n gofyn i ti ymuno â fi a chymryd fy llaw, a cherdded drwy'r drysau yna a rhoi'r anrheg o gariad i'r plant yma eleni. Dwi'n gofyn i ti helpu darparu Nadolig a dyfodol i'r plant yma mewn angen.

Dwi hefyd yn gofyn i ti gofio eleni pan fyddet yn bwyta dy ginio Nadolig (neu pa bynnag ddigwyddiad teuluol neu grefyddol ti'n dilyn) i feddwl am y rhai sydd heb fwyd eleni, y rhai sydd ar y strydoedd, yn yr oerni.
Hefyd eleni, hoffwn ofyn i ti gadw golwg ar dy gymdogion hŷn, gwneud yn siŵr eu bod nhw'n iach ac, os ddim, gadael i'w teulu nhw wybod yn syth, gad iddynt wybod am y sefyllfa. Os nad wyt ti'n adnabod y teulu, dweud wrth dy rieni, gad iddynt wybod.

Ac un syniad diwethaf: Mae anifeiliaid anwes am fywyd, NID Y NADOLIG YN UNIG.

Nadolig Llawen

Eddie_Secretary

Calendr Adfent NadoCLIC

Wyt ti'n ysgrifennydd, ffotograffydd, gwneuthurwr ffilm, darlunydd, DJ, cerddwr, animeiddiwr, blogiwr, bardd neu'n greadigol yn gyffredinol sydd efo rhywbeth i ddweud am y Nadolig? Wel, e-bostia sam@cliconline.org.uk i gael cyfle i gael ffenestr NadoCLIC dy hun nawr a chyfle i ennill Nintendo 3DS!

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.