Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

NadoCLIC: Mario Yma!

Postiwyd gan Sam (Sub-Editor) o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 20/12/2011 am 12:02
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Gwyl, Technoleg, Materion Cyfoes

  • DS1
  • ds2

English version

Yn curo Santa i'r pwnsh o gwpl o ddiwrnodau, mae ein postman wedi dod a'r peth rydym wedi bod yn disgwyl amdano ers oes. Heddiw mae Steve (yntau Dave ydy o… ok dwi ddim yn gwybod enw'r postman) wedi danfon y wobr am y ffenestr orau yn ein Calendr NadoCLIC – y Nintendo 3DS.

Nawr i'r rhai craff ymysg chi, wedi sylwi fod llun y Nintendo 3DS ar y dde yn un rhew gwyn prydferth yn hytrach nag un "sydd yn sgleiniog ac yn goch metelaidd i gyd- fynd â siwt Siôn Corn". Wel penderfynom annog Derek Brockway wneud iddi fwrw eira ar Ddiwrnod Nadolig (fo sydd yn rheoli'r tywydd yng Nghymru ia?) byddwn yn dewis un neis eira wen a dyw ddim byd i wneud efo'r ffaith fod yr un coch sgleiniog wedi cynyddu mewn pris yn sydyn ar Amazon. Dim o gwbl!

Yn fwy amlwg byddi di wedi sylweddoli ein bod wedi dewis bwndel bach cŵl gyda gêm Super Mario 3D Land. Pwy sydd ddim yn mwynhau gêm platfform Mario?

Wel, mae cyngor mawreddog CLIC yn cyfarfod dros eu cinio Nadolig a byddent ym mwlio ac yn trafod yr ymgeiswyr, yna heb finsio eu geiriau, siarad twrci a phenderfynu’r pencampwr cyn mynd yng nghracers. Bydd yr enillydd yn cael gwybod erbyn dydd Gwener 6ed Ionawr 2012… mae'n ginio Nadolig hir.

Tan hynny, mwynha'r Calendr NadoCLIC a chofia bostio am dy ffenestr gorau isod.

Calendr Adfent NadoCLIC

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.