Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Nadolig Ar Fudd-daliadau

Postiwyd gan eddie secretary o Torfaen - Cyhoeddwyd ar 21/12/2011 am 12:54
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Pobl, Materion Cyfoes, Gwaith a Hyfforddiant

  • coed

English version

Mae Nadolig ar fudd-daliadau yn anodd ta waeth pa fudd-daliadau ti'n ei gael!

Dwi'n dweud hyn achos eleni dwi'n ei chael yn anodd ymdopi gyda chyllid, yn enwedig pan dydy fy mudd-daliadau ddim yn dod i mewn nes y dydd Iau cyn y Nadolig, a ti'n gwybod nad yw hynny yn gadael llawer o amser i brynu anrhegion Nadolig, yn enwedig gan nad wyf wedi cael rhai eto. Dwi angen cael un i fam, cwpl i fy chwaer, ac un i dad, ac mae'n siŵr dylwn i gael un i gariad mam hefyd. Dim ond pethau bach dwi am gael iddyn nhw gan nad allaf fforddio llawer, ond d; dwi am wario llawer ar fy ffrind anhygoel prydferth – dwi'n mabwysiadu ci bach iddi, fel anrheg Nadolig/Flwyddyn Newydd o'r elusen Four Paws.

Ond dyna'r gost fwyaf sydd gen i eleni a dwi'n gobeithio bydd gen i ychydig o arian ar ôl fel nad yw fy waled yn wag yn y flwyddyn newydd.

Ond gad i ni barhau efo hyn…

Wel dydy budd-daliadau, fel mae pawb yn gwybod, ddim yn talu am gymaint â hynny mewn gwirionedd. O leiaf mae'n incwm rheolaidd ac mae yna ychydig mwy o fudd-daliadau allan yna, fel y Cynlluniau Hyfforddiant, ac ar rhai budd-daliadau, os wyt ti'n siarad gyda chynghorydd gyrfa gallet ddweud wrthynt ba fath o hyfforddiant ti eisiau ac efallai byddent yn gallu trefnu i ti fynychu cwrs, fel arfer am ddim.

Os wyt ti dros 18 oed a ti wedi cael dy wneud yn ddi-waith yn y chwe mis diwethaf, efallai dy fod di efo'r hawl i Ariannu ReActII; mae hwn hyd at £1,500 a gall cael ei ddefnyddio i ail hyfforddi. Dwi wedi cymryd yr opsiwn yma a byddaf yn gwneud Cymhwyster SIA (Goruchwyliwr Drws a Gweithredydd CCTV). Fe wna'i adael i ti wybod sut mae pethau'n mynd pam fyddaf yn cychwyn. Ond mae hynny'n stori arall, fel gallet ddweud mae'r stori yma yn erthygl gymysg, wel, Nadolig Llawen bawb!

Gwybodaeth – Budd-daliadau

Sefydliadau – Gyrfa Cymru

Gwybodaeth – Anifeiliaid Anwes

Gwybodaeth – Prentisiaethau a Hyfforddiant

DELWEDD: stephendl

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.