Newyddion Cegin Eddie
English version
Dydd da cyd GLICwyr!
Mae gen i ddau darn o newyddion i chi…
Yn gyntaf, rydych chi i gyd yn adnabod fi fel eddie_secretary, ond roeddwn i'n teimlo ar gyfer y ryseitiau Cegin Eddie dyliwn i gael cyfrif ar wahân iddo, a dyma ef! O hyn ymlaen, bydd unrhyw rysáit dwi'n ysgrifennu yn cael ei gyhoeddi o dan y cyfrif hwn a bydd popeth arall o dan gyfrif eddie_secretary. Mae hyn er mwyn i mi fedru cadw trac ar y ryseitiau dwi'n ysgrifennu a'r sylwadau sydd yn cael ei adael arnynt.
Dwi'n gobeithio fod pawb yn mwynhau' ryseitiau dwi'n ysgrifennu a dwi'n gobeithio os ydych chi wedi gwneud rhai ohonynt, eich bod wedi mwynhau!
Yn ail, dwi'n chwilio am fwy o syniadau!
Oes unrhyw beth hoffai rai ohonoch weld rysáit ohono?
Oes unrhyw un hoffai weld rysáit o ddiwylliant neu grefydd benodol?
Oes unrhyw un allan yna sydd eisiau rhoi sialens i mi (yn debyg i'r Iron Chef) a fydda chi'n hoffi rhoi cwpl o gynhwysion i mi hoffech weld mewn pryd?
Plîs gadewch sylwadau isod a gadewch i mi wybod, achos mae popeth dwi'n ei roi i fyny yn cael ei ddylanwadu gennych chi bobl dda.
Diolch CLICwyr!
Cliciwch yma i weld ryseitiau Eddie.
Newyddion – Bwyd a Diod
Sefydliadau – Food For Thought







