Paëla Yn Y Glaw
English version
Ar ôl saith wythnos yn Ewrop, llosg haul, sbectol haul wedi torri, gwin rhad a Mapiau Google yn unig ffordd i ni fedru para'n fyw, roedd hyn wedi dod yr arferol derbyniol.
Ar wythnos diwethaf ein taith, roeddem ni yn Madrid gyda chyllideb o bedwar ewro'r dydd a thocyn yn ôl i Brydain oedd ddim yn gallu cael ei ddefnyddio am chwe diwrnod arall.
Ers dod yn ôl mae 'y dydd Iau yna' wedi dod yn enwog ymysg fy ngr?p o ffrindiau.
Roedd fy ffrind gorau a hiraf, Nicola, yn cael, i roi pethau'n syml, diwrnod gwaethaf ei bywyd. Roedd hi wedi colli ei chamera ym Mharc Retiro, ei phwrs wedi cael ei ddwyn wrth iddi brynu Ray Bans ffug mewn canolfan siopa yn Sol, ac roedd ein ffrind Americanaidd Jared, roeddem ni wedi cyfarfod yn teithio flwyddyn cynt, wedi colli ei cherdyn teithio Metro diddiwedd, oedd werth ugain ewro (llawer iawn o arian wrth deithio).
Roedd yr olwg ar wyneb Nicola wrth i ni gerdded o gwmpas strydoedd cefn llwm Madrid yn chwilio am fwyd rhad mewn t? bwyta rhatach fyth yn drallodus dros ben. Yn llwglyd, wedi blino ac wedi llosgi yn yr haul, roedd hi'n jyglo ochneidio a llusgo ei thraed dros strydoedd coblog Sbaen wrth chwilio am baëla dau ewro.
O'r diwedd daethom o hyd i far tapas llym dros ben: roedd y ffaith ei fod yn d? bwyta llawn mwg sigâr a dynion Sbaeneg hen gyda glendid personol gwael iawn a moesau gwaeth yn amherthnasol os golygai fod y bwyd yn rhad. Eisteddom du allan a archebodd Nicola pryd o'r enw 'Tomatos Sbaeneg' gan obeithio cael salad tomatos heulsych gydag olew olewydd a finegr balsamaidd. Beth gafodd hi? Hen domato cleisiog ar blât gyda phlatiad ychwanegol o, ym, dim byd.
Gwenodd y bwrdd cyfan yn sympathetig ar Jared wrth i Nicola ddechrau sgrechian arno am golli'r cerdyn Metro wrth archebu paëla dau ewro i ddilyn y tomato pathetig. Daeth y prif gwrs a dechreuodd Nicola fwyta ei phryd llawn cyntaf ers dyddiau. Gwenodd. Roedd y diwrnod yn dechrau gwella.
Eisteddodd yn fodlon am y tro cyntaf mewn wythnosau yng ngwres 10-y-nos-ond-dal-yn-boeth-dros-ben Madrid, gyda gr?p o bobl ddiddorol diddiwedd o'n cwmpas roeddem wedi cyfarfod dros Ewrop. Roedd hynny, wrth gwrs, nes iddo ddigwydd. Y pinacl o'r 'dydd Iau yna' yng nghanol mis Gorffennaf 2011. Dechreuodd dywallt y glaw.
Roedd prif gwrs Nicola wedi'i ddifetha (dydy paëla gyda d?r ddim yn neis iawn). Eisteddodd yn wylo yn y glaw gyda thomato gwlyb yr unig beth yno i gysuro hi. Er ei anlwc, mae'r 'dydd Iau yna' yn parhau i fod yn stori orau fi o'r saith wythnos o deithio: un i ddweud wrth y wyrion ac wyresau yn bendant.
DELWEDD: R.Duran







