Pennod Newydd Yw Hi
Bydd y straeon a ysgrifennaf yn seiliedig ar fy mhrofiadau. Dyma’r cyntaf o sawl un gobeithio.
Rydw i’n mynd i ddechrau drwy ddweud yr hanfodion wrthych. Rydw i’n 11 mlwydd oed ac mae gennyf frawd h?n (ond ni ddatgelaf ei enw) ac mae fy rhieni wedi ysgaru. Mae gan fy nhad gariad ond nid oes gan fy mam. Yn fy mhen rydw i wedi ei chael hi’n anodd derbyn eu bod wedi gwahanu. Mae wedi bod yn galed, ond mae fy mrawd a minnau’n ymdopi.
Mae hyn am fy nhad.
Fedra i byth ddod i arfer â’r newid yn gyfan gwbl. Cofiaf yn yr ysgol gynradd (rydw i bellach yn yr ysgol uwchradd) pan newidiwyd ein hen ddesgiau am rai newydd ac am weddill fy mywyd ysgol ysgrifennais ar y desgiau newydd i’w gwneud yn debyg i’r hen ddesgiau!
Weithiau pan fyddaf yn aros yn nh? fy nhad byddwn yn gyrru i d? ei gariad i gael swper ac rydw i bob amser yn teimlo’n llawn euogrwydd oherwydd y cwbl fedra i ei feddwl amdano yw fy Mam a “NID yw’r ddynes hon a’r plant yn perthyn i mi” neu “Ddylwn i DDIM bod yma.” Teimlaf yn ansicr pan fyddaf o’i chwmpas a dof â sgyrsiau â hi i ben yn gyflym drwy ofyn am fynd i’r toiled neu am gael dychwelyd i edrych ar fy ngwaith cartref (Mae bob amser yn waith cartref ffug y dof gyda mi er mwyn osgoi sgyrsiau).
Treuliais Nos Galan gyda hi a’i phlant a’r cwbl y gallwn feddwl amdano oedd fy mam adref ar ei phen ei hun yn aros i hanner nos gyrraedd. Mae’r atgof hwn yn parhau i fod yn hunllef i mi.
Dechreuais y flwyddyn gyda hi; Nid ydw i am ddiweddu’r flwyddyn gyda hi.
Y cwbl rydw i’n ei ddymuno yw peth cyngor a sylwadau. Diolch yn fawr.
Gwybodaeth » Teulu a Pherthnasau » Gwahaniad a Cholled » Ysgariad







