Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Penwythnos Mawr Radio1

Postiwyd gan CLICtania o Cenedlaethol - Cyhoeddwyd ar 25/02/2010 am 11:02
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Gwyl, Cerddoriaeth, Pobl, Llwyfan, Yn Gymraeg

  • Chris&Pixie Faenol
  • Pixie Faenol

English version

Mae pawb wedi bod yn siarad am y peth am fisoedd a nawr mae wedi cael ei gadarnhau. Datganwyd ar sioe frecwast Chris Moyles bore Mercher, 24 Chwefror, fod Penwythnos Mawr BBC Radio 1 yn cael ei gynnal ym Mangor eleni.

Mae’r Ŵyl cerddoriaeth am ddim mwyaf ym Mhrydain yn dal 20,000 y dydd dros 2 ddiwrnod ar 22 a 23 Mai 2010. Bydd perfformiadau byw gan rhai o’r sêr mwyaf ym Mhrydain ac yn rhyngwladol a bydd DJ’s Radio 1 yn cyflwyno.

Cafodd sioe frecwast Chris Moyles ei ddarlledu yn fyw o Stad y Faenol ar ddiwrnod y cyhoeddiad ac roedd Pixie Lott, y person cyntaf i gadarnhau y bydd yn perfformio yn y Penwythnos Mawr, yno hefyd yn perfformio yn fyw.

Y flwyddyn hon ydy penblwydd 10 oed y Penwythnos Mawr ac mae addewid wedi ei wneud mai hwn fydd y flwyddyn gorau erioed. Bydd cerddoriaeth byw ar gael dros 4 llwyfan a bydd yn cael ei ddarlledu ar Radio 1 yn ogystal â phresenoldeb ar-lein rhyngweithiol a llawer o berfformiadau yn gallu cael eu gwylio ar orchymyn.

Mae’r BBC yn addo fod y mwyafrif o’r ticedi am ddim yn mynd i bobl sydd yn byw ym Mangor a’r ardal gyfagos. Bydd manylion y perfformwyr a’r ticedi yn cael ei gyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.

Mae’r grŵp Facebook ‘Radio 1's Big Weekend 2010, Bangor North Wales’ wedi denu miloedd o aelodau o fewn ychydig oriau o’r cyhoeddiad. Pan gafodd y darn hwn ei ysgrifennu roedd bron i 10,000 o bobl wedi cadarnhau eu bod eisiau mynd.

Dywedodd Chris Moyles: “Dwi wrth fy modd efo Penwythnos Mawr Radio 1 – hwn ydy’r digwyddiad gorau drwy’r flwyddyn. Dwi’n edrych ymlaen yn barod i wario cwpl o ddiwrnodau ym Mangor a dod i adnabod y lle!”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards: “Rydym wrth ein boddau yn croesawu Radio 1 a’r gwrandawyr i Wynedd ac rydym yn hyderus fod Stad y Faenol yn le gwych i lwyfannu’r Penwythnos Mawr.”

“Mae cynnal digwyddiad fel hyn yn gyfle cyffrous i ddangos i’r byd eang beth sydd yn gwneud Bangor a’r ardal gyfagos yn le mor arbennig.”

I geisio am docynnau byddet yn gallu cofrestru ar wefan Radio 1 yn nes at yr amser, yna bydd y tocynnau’n cael eu rhannu ar hap, yn seiliedig ar god post, ond rhoddir mwy o flaenoriaeth i'r rheini sy'n byw ym Mangor a'r ardal gyfagos.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.