Pleidleisio I’r Rhai Di-glem
Mae yna wastad dryswch yn arwain at etholiadau am bwy i roi pleidlais iddo.
Mae pobl yn cael eu swaeo gan y papurau newydd a sianeli teledu rhagfarnllyd ac mae yna nifer o bobl sydd ddim yn poeni ac yn pleidleisio am unrhyw un heb edrych ar y polisïau.
Na phoener, rydym yma i helpu gyda’r canllaw Pleidleisio I’r Rhai Di-glem.
Y prif bleidiau yn Etholiad Cynulliad Cymru 2011 ydy Llafur, Ceidwadwyr, Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru:
- Mae maniffesto’r blaid Llafur yn cynnwys polisïau fel presgripsiwn am ddim a thocyn bws i’r henoed yn ogystal â chynllun i amddiffyn Cymru o doriadau’r llywodraeth Brydeinig.
- Mae maniffesto’r Ceidwadwyr yn cynnwys addewid i weithio tuag at gael 1.5 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2015 ac i gyflwyno ariannu teg i Gymru.
- Mae maniffesto’r baid Democratiaid Rhyddfrydol yn canolbwyntio ar ddefnydd gwell o arian, gan gynnwys meddygon teulu 24 awr ar gyfer anafiadau llai o fewn y GIG a gwneud pob adeilad sector breifat newydd yn ynni effeithlon erbyn 2015.
- Mae maniffesto Plaid Cymru yn cynnwys amddiffyn ysbytai a sicrhau fod plant sydd yn gadael yr ysgol gynradd yn gallu darllen, ysgrifennu a chyfri i’r safon ddisgwyliedig.
Ond, os nad wyt ti’n hoffi unrhyw un o’r pleidiau hyn neu hoffet fwy o fanylion, paid anghofio edrych ar y pleidiau llai ar y wefan Cynulliad Cymru. Yn bersonol byddwn i’n awgrymu’r Blaid Monster Raving Looney. Pleidleisia’n ddoeth!
Gwefan Cynulliad Cymru
Tudalennau Gwleidyddiaeth
DELWEDD: secretlondon123







