Pleidleisio Yn 16?
English version
Dros y can mlynedd diwethaf rydym wedi tystio grwpiau wedi'i dadfreinio mewn amryw ffurf yn mynnu'r hawl i bleidleisio, bod hyn yn ddyn cyffredin, merched neu ostwng oedran y ddau ryw i 18, ond nawr mae galw cryf i'w ostwng eto i 16.
Mae ymgyrchwyr o blaid Votes@16 yn ymddangos fel bod ganddynt ddadl gryfach gyda nifer o ffeithiau a ffigyrau o gymharu ā'r rhai yn erbyn gostwng yr oed, sydd ddim i weld efo dadl lawn, sydd yn arwain fi i gredu eu bod yn ofni pobl fwy ifanc yn cael y gallu i bleidleisio.
Gall pobl ifanc cael eu harestio ac yn cael eu cysidro i fod digon hen i ddeall canlyniad eu hymddygiad o ddeg oed. Yn 16 oed mae person ifanc yn dod yn gyfrifol ac yn cael penderfynu dros iechyd eu hunain, os ydynt eisiau gadael yr ysgol ac yn gallu penderfynu ar eu trywydd mewn bywyd o ran addysg bellach ac uwch, prentisiaethau neu gyflogaeth llawn amser.
Pethau eraill gall person 16 oed wneud yn gyfreithiol ydy cychwyn teulu, ymuno a hyfforddi yn y Fyddin a symud allan a byw ar ben eu hunain. Mae pobl ifanc yn cael eu trethu yn 16 oed, a dyma reswm pam fod y ddadl o blaid pleidlais yn deud "No Taxation Without Representation" yn atgof o'r hen saint Americanaidd ar yr adeg pan roeddent eisiau cynrychiolaeth oherwydd eu bod yn talu trethi i'r goron.
Mae dros 1.5 miliwn o rai 16 ac 17 oed ym Mhrydain. Mae'r bobl ifanc yma yn wybodus ac yn angerddol am y byd maent yn byw ynddi, ac maent yn fedrus iawn i gysylltu gyda'r sustem ddemocrataidd cymaint ag unrhyw ddinesydd arall. Mae ardaloedd eraill ym Mhrydain wedi newid yr oed pleidleisio yn barod i 16 oed; yr ardaloedd yma ydy Ynys Manaw, Jersey a Guernsey. Mae i'w weld yn nifer o lefydd dros Ewrop, Asia a De America, ac maent yn gallu pleidleisio yn 16 am amryw wahanol lefelau o lywodraeth, felly bydda'n gwneud gwahaniaeth enfawr os byddai Prydain yn gwneud yr un peth, hyd yn oed os byddai hyn dim ond ar gyfer etholaethau lleol a rhanbarthol. Yn eu hastudiaeth ddiwethaf darganfuwyd y Comisiwn Etholiadol fod 72% o bobl ifanc o fewn y gr?p oedran yno yn cefnogi gostwng yr oedran.
Mae Sefydliadau Ieuenctid dros Brydain yn cefnogi Pleidlais Yn 16 ac wedi gwneud hyn am nifer o flynyddoedd, sydd yn cynnwys Cyngor Ieuenctid Prydeinig, Senedd Ieuenctid Prydain,Y Ddraig Ffynci, Senedd Ieuenctid Yr Alban a nifer fawr o fforymau/cynghorau ieuenctid dros y wlad. Mae corfforaethau gwleidyddol fel Senedd Yr Alban, Llywodraeth Cymru a nifer o bleidiau gwleidyddol gan gynnwys Llafur, Plaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol i enw rhai, hefyd o blaid. Mae nifer o bleidiau gwleidyddol yn cychwyn aelodaeth yn 15 oed sydd yn galluogi iddynt bleidleisio mewn pleidlais fewnol, felly pam nad ydynt yn gallu gwneud yr un peth ar gyfer eu plaid mewn etholaeth? Oherwydd natur gwleidyddiaeth Prydain, nid yw'r ardaloedd datganoledig yn gyfrifol am ostwng yr oedran pleidleisio o fewn eu rhanbarth, Llywodraeth Ganolig sydd yn dal i gadw'r hawl/p?er hwnnw.
Mae Cynnig Cynnar Y Dydd (CCD) wedi cael ei roi ymlaen gan Stephen Williams a bydd yn cael ei glywed unwaith bod digon o amser a chefnogaeth wedi cael ei roi iddo. Mae'r ffaith fod senedd eithaf newydd a nifer o aelodau ieuengach yn golygu'r posibilrwydd o gefnogaeth bellach i newid yr oedran pleidleisio o 18 i 16. Mae CCD blaenorol a gyflwynwyd gan Julie Morgan, cyn AS Gogledd Caerdydd, yn teimlo ei bod yn gynnig pwysig i ddod ymlaen ac i gywiro'r anghyfiawnder a'r dadryddfreinio o botensial bleidleiswyr ifanc.
Mae'r rhai sydd yn dadlau yn erbyn gostwng yr oedran pleidleisio yn dweud byddai'n gostus i gynnig cynyddu diddordeb pobl ifanc ac yn credu byddai'n ddraen enfawr ac yn wastraff arian trethdalwyr, gall gael ei ddefnyddio'n well yn lleol neu'n genedlaethol i ddarparu gwasanaethau gwell i bawb. Dadl arall sydd yn ymwneud ā phleidlais i rai 16 oed ydy fod pobl ifanc o'r oedran hwnnw ddim ond yn canolbwyntio ar un peth e.e. materion amgylcheddol neu'r gwrthdaro parhaol yn Iraq. Maent yn ystyried fod pobl o'r oedran yma yn ddiffyg aeddfedrwydd a phrofiad ac mae hyd yn oed symudiadau i gynyddu’r bleidlais i 21 oed yn hytrach na gostwng i 16.
Yn gyfreithiol, mae person yn oedolyn llawn yn 18 oed, yr un oedran sydd yn cael ei gefnogi gan y CCUHP (Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn) pan fod plentyn yn stopio bod yn blentyn. Yn yr oedran yma gallent arwyddo ffurflenni caniatād rhieni eu hunain ac felly yn dangos fod ganddynt fwy o syniad am wneud penderfyniadau pwysig drostynt eu hunain gan eu bod yn fwy aeddfed. Ond gall person ifanc ymuno ā'r Fyddin Brydeinig ond ddim mewn sefyllfaoedd rheng flaen, neu briodi (gyda chaniatād rhiant) yn 16 oed. Ond mae hyn yn cael ei gwrth-ddweud gan y ffaith fod unigolion yn gallu cael teulu eu hunain os ydynt yn dymuno yn 16 oed. Felly mae'r gyfraith yn darparu ardal lwyd gan nad yw person ifanc 16 i 17 efo cyfrifioldeb llawn drostynt eu hunain, ond maent yn cadw cyfrifioldeb llawn dros blentyn ei hun. Mae'r syniad o "dylai plant cael eu gweld a ddim eu clywed" yn anffodus yn parhau.
Mae'r mwyafrif o ystadegau yn dangos mai nifer bach o rai 18 i 24 oed sydd yn pleidleisio ar hyn o bryd, felly pam ar y ddaear dylai'r oedran pleidleisio gael ei ostwng i 16? Mae hyn yn cael ei gwrthbrofi gan ymgynghoriadau cynt sydd yn dangos fod mwyafrif clir yn dweud byddant yn pleidleisio, os byddai'r oed yn cael ei ostwng. Tra byddai'r rhai yn erbyn yn cwestiynu'r ymgynghoriadau ac yn dweud bod gwahaniaeth mawr rhwng y rai sydd yn dweud y byddant a'r rhai sydd yn pleidleisio. Mae'r dyfynnod canlynol yn cael ei ddefnyddio ganddynt i gefnogi'r ddadl – "Actions speak louder than words".
Mae'r mwyafrif yn credu fod unrhyw ostyngiad yn yr oedran pleidleisio yn gorfod cyd-fynd gyda ffocws gwell ar yr ymwybyddiaeth a'r agwedd addysgiadol tu ōl i'r bleidlais. Mae addysg yn bwynt allweddol sydd yn rhaid cyfeirio ato, gan nad yw'n ddigon diddorol yn bresennol oherwydd y ffordd mae'n cael ei ddysgu. Yn fwy na dim, mae gwersi dinasyddiaeth neu ABCh yn bynciau 'doss' gan fod athrawon ddim efo diddordeb nac yn deall y sustem ddigon i gyfnewid y fath wybodaeth i'w myfyrwyr nac defnyddio llyfrau/holiaduron byr, fel ffordd o'i wneud yn haws iddynt. Mae gwleidyddiaeth ar y cyfan yn egniol ac yn rhoi hyder ac uchelgais; gallai myfyrwyr gael nifer dadl ddiddorol a phleserus, Gall hun yn ei dro fod yn agoriad llygaid i'r byd go iawn. Mae'n well dysgu gwleidyddiaeth fel pwnc ymarferol, gallai roi profiad gwych i'r rhai sydd yn rhedeg neu yn cefnogi ymgeisydd mewn ymgyrch gwleidyddol, bod hyn yn yr ysgol neu yn yr ardal leol.
Nid yw dadleuon eraill yn erbyn yn ddigon cryf o gymharu ā'r rhai sydd yn cefnogi gostwng yr oedran pleidleisio. Dadl cenhedlaeth h?n ydyw ran fwyaf, yn fwy o'r rhai sydd ddim wedi tystio amryw etholaeth ieuenctid dros y wlad, gyda rhai yn cael mwy o bob yn pleidleisio nac mewn etholaethau lleol neu genedlaethol. Felly wrth i bobl ifanc ddod i mewn i wleidyddiaeth, mae'r posibilrwydd o gysylltu gyda phobl ifanc yn gallu dod yn norm, byddai'n fwy tebygol o ostwng yr oedran pleidleisio yn llwyddiannus.
Mae'n rhaid gwella addysg yn y ffordd mae'n cael ei ddysgu i gysylltu ag i wella'r dinesydd ar y cyfan. Mae'n rhaid i'r gyfraith ail feddwl yr oedran cyfrifioldeb a dylai cael ei ostwng i 16 pan mae pobl ifanc yr oedran yma efo'r cyfrifioldeb dros y mwyafrif o'u bywydau yn barod. Dylent fedru mynychu a chymryd rhan yn beth bynnag maent eisiau.
Os hoffet arwyddo'r ddeiseb, plīs clicia ar y linc ganlynol a dilyn y cyfarwyddiadau.
Os hoffet hefyd ddatgan yn gyhoeddus dy fod yn cytuno gyda phleidlais yn 16 gwna hyn drwy wefan clymblaid Votes@16.
Sefydliadau – Y Ddraig Ffynci
Sefydliadau – Cyngor Ieuenctid Prydeinig
Gwybodaeth – Gwleidyddiaeth Ieuenctid
Erthygl Berthnasol: UK Youth Parliament Proves Voting Age Should Remain








