Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Pobl Ifanc Yn Teimlo Effaith Toriadau’r Llywodraeth

Postiwyd gan GraduStef o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 04/10/2010 am 11:51
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Materion Cyfoes

  • Nick Clegg

English version

Toriadau, toriadau a mwy o doriadau. Dyna’r unig beth mae’r llywodraeth i weld yn siarad am heddiw, ond beth mae hyn yn ei olygu i ni? Aeth theSprout i sesiwn cwestiwn ac ateb gyda’r dirprwy Prif Weinidog Nick Clegg yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, i ddarganfod mwy.

Agorwyd y sesiwn gyda chwestiwn gan Nick Clegg.

“Dylai ni ddelio gyda’r diffyg ariannol?”

Bydd cyllideb Cymru yn cael ei gwtogi o £162.5m fel rhan o doriadau £6.2bn, i geisio taclo’r diffyg ariannol ym Mhrydain.

Er nad oes neb yn gwadu nad all osgoi aberthiadau mae llawer o bobl yn ofni gallai cymaint o doriadau mor sydyn gael canlyniadau llym.

Yn gyffyrddus, dywedodd Clegg wrthym: “Mae’n rhaid i chi wneud rhywbeth am hyn.”

Eisteddom a gwrando tra yn y cyfamser roedd Sbaen a Groeg, sydd hefyd yn profi toriadau llywodraeth galed oherwydd argyfwng economaidd, yn ymateb gyda streiciau cyffredinol a chaeadau gwlad-eang.

Ond roedd Clegg yn cysuro’r neuadd yn hyderus fod y foronen ddim yn cael ei dynnu’n ôl yn gyfan gwbl a rhoddodd y cynllun Premiwm Disgybl fel esiampl o ariannu ychwanegol i ysgolion a phlant dan anfantais.

“Nid ydym yn torri Premiwm Disgybl.”

Yn fwy pwysig roedd pobl angen teimlo nad oedd eu lleiafrifoedd yn cael eu targedu'n annheg.

Lleisiodd Arielle, golygydd theSprout, farn pobl ifanc.

“Os oes hawl gan bobl ifanc i gael eu clywed ydych chi am ymgynghori gyda nhw am y sefydliadau a’r gwasanaethau byddent yn colli oherwydd y toriadau hyn?”

Ymateb Nick Clegg oedd:

“Mae’r llywodraeth yn lansio ymgynghoriad cenedl eang yn gofyn barn pobl am beth maen nhw'n feddwl fyddai'r toriadau fwyaf effeithiol.”

I wneud cynilion a thoriadau yn y llefydd iawn, mae rhaid ymgynghori gyda’r bobl sydd yn cael eu heffeithio. Er hyn dywedodd un aelod Sprout:

“Doedd dim sôn am bobl ifanc yn ei ymateb.”

Ar hyn o bryd mae’r asiantaeth dysgu pobl ifanc yn cael ei adolygu ac mae asiantaethau hyfforddiant a datblygu i ysgolion hefyd yn cael ei adolygu. Pwy fydd y nesaf i gael eu torri?

Doedd neb i weld yn poeni am y gwasanaethau rheng flaen yn ormodol, ond y sefydliadau tu ôl i’r llenni, sydd yno fel ffynonellau gwybodaeth, cefnogaeth, rhyngweithiad cymdeithasol ac yn darparu cymorth i bobl ifanc oddi wrth straen yn ystod y cyfnod anodd yma. Sut le fyddai'r byd heb theSprout neu ein grwpiau ieuenctid lleol?

Pwy fydd y nesaf i gael eu torri?

Yn yr adolygiad gwario ar 20 Hydref byddwn yn darganfod mwy am ble mae’r fwyell yn debygol o ddisgyn.

Ydyn ni’n teimlo’n well nawr fod Nick Clegg wedi ateb ein cwestiynau?

I ddilyn yn fuan, cyfweliad gyda Jon House prif weithredwr Cyngor Caerdydd.

DELWEDD: Swyddfa’r Prif Weithredwr.

Mwy ar y stori hon:

Defnyddiwr Sprout Eisiau Ymateb Gan Nick Clegg

A oedd y (wybodaeth) hyn defnyddiol i chi?

[nid a yw'n dda, ond oedd o ddefnydd]

     

Diolch am dy help!

Mae eich adborth yn cael ei werthfawrogi.

Mae drwg gennym am nad oedd y wybodaeth am ddefnydd

A allwch chi sbario eiliad i ddweud pam?


Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50