Prosiect Moroedd Garw
Mae Catch 22 yn sefydliad sydd yn cefnogi plant a phobl ifanc ym Mhrydain.
Eleni, maent wedi rhoi cyfle gwych i 60 o bobl ifanc 16 i 25 oed.
Mae'r prosiect yn cael ei gefnogi gan y Prif Weinidog, David Cameron, a Ben Fogle ymysg enwau cyfarwydd eraill.
Neil Laughton, cyn milwr SAS sydd wedi cymryd rhan mewn amryw alldeithiau gan gynnwys dringo Everest, sydd yn arwain y prosiect.
Mae Project Rough Seas (Prosiect Moroedd Garw) yn golygu dau benwythnos hyfforddiant, un yn Rhosydd y De (South Downs), a'r llall yn Eryri a hefyd wythnos o hyfforddiant yn Yr Alban, Loch Tay. Ar ôl dysgu sgiliau newydd fel sut i godi pabell, coginio ar stôf gwersyllu, technegau goroesi a hefyd dringo'r mynydd mwyaf yn Lloegr a Chymru, Yr Wyddfa, mae'r 60 o bobl ifanc yn cael ei dorri i lawr i 36 i fynd allan ar alldaith fythgofiadwy.
Yn ystod yr alldaith bydd y bobl ifanc dewisedig yn gwersylla yn fynyddoedd Norwy ac yn byw oddi ar y tir am wythnos. Yn ystod yr wythnos hon, bydd yr anturiaethwyr yn gorfod dal pysgod gyda phobl leol a'u coginio i swper.
Yn ail gyfnod yr alldaith byddent yn teithio i lawr i Sweden ac ar y llong dal. Yna bydd y bobl ifanc yn hwylio tuag y gogledd o amgylch arfordir Norwy ac yna'n dychwelyd i Lundain. Bydd rhan olaf y daith yn golygu codi Pont Llundain er mwyn i'r llong dal gael hwylio i lawr yr afon Tafwys.
Ar ôl y rhan corfforol o'r prosiect, bydd y 60 o bobl ifanc yn ffodus iawn o gael eu gosod mewn lleoliadau gwaith am chwe mis wedi'r artaith.
Roeddwn i yn lwcus iawn i gael fy nerbyn ar ôl cofrestru am y prosiect ac ers mis Mai dwi wedi bod yn cymryd rhan yn y penwythnosau hyfforddiant. Hyd yn hyn dwi wedi bod yn Rhosydd y De, Brighton ac Eryri. Fel dwi'n ysgrifennu hwn, dwi ar y ffordd i'r Alban (dylyfu gên).
Dwi wedi cadw dyddiadur o'r penwythnosau a byddaf yn parhau gyda'r dyddiadur yn yr Alban. Byddaf yn ysgrifennu popeth i fyny mor gynted â phosib ac yn eu llwytho i fyny i chi gyd weld! Gobeithio byddaf yn ysgrifennu dyddiadur arall os byddaf yn llwyddo cael lle i Norwy. Croesi bysedd!










