Pryder Yn Y Siop Trin Gwallt
Mae trinwyr gwallt yn gallu siarad am byth, cytuno?
Wel, mae rhai yn siaradus. Ond weithiau gall cael dorri dy wallt fod yn gyfnewid lletchwith iawn. Dim ond cwestiynau syml fel "Ym, te, coffi?" sy'n cael ei ddweud. Mae'n ofnadwy. Mae'n anghyffyrddus iawn. Byddwn yn mynd mor bell â dweud fod y trallod rhwng y cwsmer a'r triniwr gwallt yn amlwg. Dyw hyd yn oed grym amsugno mil o bapur cegin Plenty ddim yn gallu gwneud yr aer yn llai mwygl. Mae fel gwneud y "Walk of Shame", y daith unig honno lle gallet deimlo llygaid pawb yn llosgi i mewn i dy groen.
Dwi ddim yn gwybod beth yw e. Yn gyffredinol mae gen i driniwr gwallt sydd yn neis iawn ac yn gallu mwydro nonsens llwyr am beth bynnag allan o'm ngheg. Dwi ddim yn swil o gwbl ond pan fyddaf yn cael triniwr gwallt gwahanol dwi'n mynd yn swil. Dwi ddim yn gallu dweud sut dwi eisiau i'm ngwallt edrych. Dim ond yn dweud, "Ym, [rhywbeth annealladwy – eithaf posib mewn Rwsiad] gwallt". Dwi ddim am ddweud celwydd, dwi wedi cael steiliau gwallt eithaf diddorol o ganlyn hyn. Efallai fod hyn yn esbonio pam na dorrais fy ngwallt am dair blynedd pan yn fach. Ond roeddwn yn edrych fel merch. Ond un rhywiol. Yn amlwg.
Mae'n debyg fod gair mewn Almaeneg sydd yn disgrifio hyn yn digwydd. Mae ganddynt un am bopeth: fel "Schadenfreude" er esiampl. Mae hyn yn golygu'r pleser o anlwc rhywun arall. Wir; Googla ef. Dwi'n meddwl os yw cymdeithas yn gorfod creu gair am ystyr gorbryder detholus pan yn y siop drin gwallt, yna dylai fod yng Nghymraeg. Dwi ddim yn bod yn wladgarol; ond dwi'n meddwl dylai Cymru gael ychydig o adnabyddiaeth. Beth wyt ti'n feddwl o hynny?
Newyddion – Categorïau – Ffasiwn
Gwybodaeth – Chwaraeon a Hamdden – Y Celfyddydau Gweledol – Ffasiwn
DELWEDD: IMG_1417.JPG gan dirtymouse







