Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Pync Roc Halal?

Postiwyd gan dirty o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 27/05/2010 am 17:50
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Diwylliant, Cerddoriaeth, Materion Cyfoes

English version

“I stopped trying to define punk around the same time I stopped trying to define Islam; they aren't so far removed as you think. They both began in tremendous bursts of truth and vitality but seem to have lost something along the way.”

- The Taqwacores gan Michael Muhammad Knight.

Cymerodd Michael Muhammad Knight y shahadah (arafiad o ffydd) a thrawsnewid i Islam yn 16 oed, ar ôl darganfod am Islam gan fandiau hip-hop fel Public Enemy a drwy ddarllen bywgraffiad o Malcolm X fel plentyn. Mae o’n ystyried hyn fel ei weithred gwrthryfel cyntaf, a doedd yn bendant ddim yr un diwethaf. Wedi’i fagu yn Gatholig Gwyddelig, roedd ei fam yn hollol gefnogol o’i drawsnewid i Islam ac, yn 17 oed, aeth Knight i astudio Islam yn Fosg Faisal ym mhrifddinas Pakistan, Islamabad. Flynyddoedd wedyn mae Michael Muhammad Knight yn parhau i fod mor anghonfensiynol ac erioed: ar ôl blino a ffeindio nad oedd Islam uniongred a’i gyfyngiadau yn cael dim effaith arno, ysgrifennodd tri llyfr a’u cyhoeddi ei hun ar beiriannau Xerox a’u gwerthu o gist ei gar, un o’r rhain oedd maniffesto o bethau oedd i ddod. Cafodd Jello Biafra, cyn prif leisydd y grwp(need ^ on w) pync semenol The Dead Kennedys, afael ar y llyfr hwn a chyn hir roedd ei label Alternative Tentacles yn cyhoeddi’r nofel.

Mae’r nofel ffugiol The Taqwacores (mae taqwa yn golygu ‘duwioldeb’ neu ‘ymwybyddiaeth duw’ yn yr Arabeg wreiddiol, tra mae core yn dod o’r genre pync roc o craidd caled) yn sôn am pyncs Islamaidd yn byw mewn ty(need ^ on y) pync yn Buffalo, Efrog Newydd. Roedd llawer yn cyhuddo Knight o gabledd oherwydd y ‘rriot grrls’ oedd yn gwisgo burqa a’r pyncs wedi meddwi yn gweddïo – hyd yn oed merched yn arwain gweddi.

Beth oedd yn sefyll allan yn erbyn beirniadaeth o’r nofel oedd y delweddau gwych, datblygiad cymeriadau cryf a rhannau oedd yn gwneud i ti feddwl ac yn codi cwestiynau a beirniadaeth bwysig o Islam, y Qur’an a hyd yn oed y Proffwyd Muhammad (a’i briodas i’r ferch chwech oed Aisha). Roedd rhai darnau mor ddadleuol fel eu bod wedi cael eu golygu gan y cyhoeddwyr ym Mhrydain (Telegram).

Roedd The Taqwacores yn nofel lle’r oedd cymeriadau yn ailgymodi eu ffydd gyda syniadau eu hunain, yn codi rhannau o’r Qur’an nad oedd (ar y cyfan) neb yn barod i siarad amdano, hyd yn oed materion domestig yn y Gorllewin sydd yn gwneud ni yn anghyffyrddus. Mae un cymeriad yn dweud: “If I believe it’s wrong for a man to beat his wife, and [a verse in] the Qur’an disagrees with me, then [beep!] that verse.”

Nid Michael Muhammad Knight oedd yr unig un yn ei gred, ei ragolwg a’i dadrithiad o Islam. Roedd plant Mwslim yn codi’r llyfr hwn i fyny dros America, a cyn hir – yn union fel yn ei lyfr – roedd dynion a merched ifanc Mwslim yn dechrau bandiau pync eu hunain, ac yn ddigon sydyn daeth Taqwacore yn genre cerddoriaeth yn ei hun. Nid oes un sain gyffredinol i Taqwacore: mae’n amrediad o ‘roc pync Bolywood’ o’r ‘pyncistani’ Kominas i’r sain tynged metel o Al-Thawra (sy’n golygu ‘Y Chwildro’ yn Arabeg. Mae’r grwp(needs ^) pync genod yn unig o Canada, Secret Trial Five, yn canu am Zombies Dwyrain Canol (mae’n debyg mai rhain ydy’r math gwaethaf!) a’r band rap tecno acwstig Saag Syndicate. Mae’r ehangder o’r gerddoriaeth sydd ar gael, wedi’i ysbrydoli gan yr un llyfr yma, yn rhyfeddol.

Daeth y freuddwyd yn wirionedd. Aeth clwstwr o fandiau Taq-X a’r daith yn eu bys ysgol wyrdd wedi’i drawsnewid, gyda Michael Muhammad Knight ei hun yn gyrru. Nid yw’r can ‘Suicide Bomb the GAP’ o albwm cyntaf The Kominas, ‘Wild Nights in Guantanamo Bay’, wedi cael ei ysgrifennu i fod yn gythruddol yn unig. Mae’r geiriau yn ddigrif ac yn goeglyd, yn cyfosod diwylliant a chrefydd Ddwyreiniol a Gorllewinol, ac yn codi pwyntiau da wrth wneud hynny: "Freedom franchises are popping all over / but they choose the wrong targets in jumbled up order / Buy red mercury in a silver can / before they put a swoosh on Uncle Sam / Before the dollar said 'In Coke we Trust'", yn cael ei chwarae dros diwniau gafaelgar gwallgof. Cyn i ti ofyn, ydy, mae Wild Nights in Guantanamo Bay ar Spotify, heblaw am y trac diwethaf.

Dydy Taqwacore ddim yn unig am blant Mwslim yn chwarae cerddoriaeth; yn Islam mae’n ‘haraam’ (waharddedig) hyd yn oed gwrando ar gerddoriaeth, felly mae’n hollol ryfeddol i fynd o hyn i greu a chwarae caneuon pync ymwybyddiaeth wleidyddol gyda chymysgedd o gerddoriaeth bhangra. Y cyffuriau, y rhyw… maen nhw i gyd wedi bod yn Islam; mae’r gwrthryfela wedi bod yn bresennol o hyd. Mae’n gwrthryfela yn erbyn yr Islam eithafol gadwrol fel y Taliban ac yn erbyn delfrydau Gorllewinol. Wyt ti’n cofio pan ddywedodd Bush “You’re either with us, or you’re with the terrorists”? Mae Taqwacore yn gorfforiad byw yn dangos nad yw’r datganiad yna yn werth dim. Nid os rhaid i ti fod yn unrhyw un ohonyn nhw. Mae Islam yn fwy hyblyg nag y gallem ni ddychmygu. Mae pobl yn rhy sydyn i feddwl ‘dyma yw Islam” neu “dyna yn unig ydy Islam”, lle mae pethau popeth yn ddu neu’n wyn, pan nad dim dyma ydy’r achos o gwbl.

Nid mai ‘Pync Islamaidd’ ydyw ydy’r peth pwysig; ond y syniad a’r neges mae’n lledaenu ac yn hyrwyddo. Mae wedi bod cymod o ffydd fawr wedi bod efo Islam gan blant sydd yn stopio ac yn cwestiynu’r bobl hyn a’i rhieni, yn ymarfer Ijtihaf, dehongliad personol o’r Qur’an sy’n cyferbynnu efo’r farn ffwndamentalydd (yn bennaf) mae nifer yn cael eu gorfodi i dderbyn pan yn blentyn. Tydi bod yn Fwslim erioed wedi bod mor ddadleuol ag y mae nawr: oes rhywun yn cofio Shabina Begum, y ferch aeth a’i hysgol i’r uchel lys dros ei gwisg ysgol Islamaidd?

Nid symudiad cerddorol yn unig yw Taqwacore: mae wedi ysbrydoli ffilm ddogfen a gafwyd ei ddangos am y tro cyntaf yn Gwyl (needs ^) Ffilm Sheffield; mae cynlluniau i ddangos ffilm wedi’i selio ar y llyfr yn y Sundance 2010 am y tro cyntaf; ac mae cymuned cryf o Fwslemiaid (rocwyr pync neu beidio) yn ymddangos, i gyd yn rhyddfrydig ac yn barod i drafod Islam mewn ffordd ystyriol na welwyd ei fath o’r blaen. Edrycha ar flog Taqwacore – mae’n cael ei ddiweddaru yn rheolaidd, weithiau mae’n ddadleuol, ond mae’n orfoledd i edrych ar o bryd i bryd. Roedd y llyfr Taqwacore yn ysbrydoliaeth i’r gweddïo ju’mah ar ddydd Gwener yn cael ei arwain gan ferched i gael ei gynnal yn Efrog Newydd, y cyntaf o’i fath.

Cadwa olwg allan, gall y symudiadau gwahanol yma sydd yn dod o dan y term ‘Taqwacore’ ddim ond tyfu, rhannu eu negeseuon a’u poblogrwydd gynyddu a chyflymu.

Ymwrthodiad: Mae’r barn sydd yn cael ei fynegi mewn erthyglau ar theSprout yn rai pobl ifanc Caerdydd, ac ddim o angenrheidrwydd yn adlewyrchu rhai theSprout neu unrhyw un sy’n gysylltiedig a theSprout.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.