Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Rantio Am Swyddi

Postiwyd gan eddie secretary o Torfaen - Cyhoeddwyd ar 01/12/2011 am 10:19
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Diwylliant, Addysg, Pobl, Gwaith a Hyfforddiant, Gwirfoddoli

  • money

English version

Iawn, felly rhybudd i bawb, mae hwn yn dipyn o rant, ond dwi'n meddwl bydd hwn o ddiddordeb i ti.

Swyddi. Pam fod yna cymaint o gyfleoedd allan yna i bobl gael swyddi sydd Ddim Mewn Addysg, Cyflogaeth nac Hyfforddiant (NEET), neu sydd newydd adael yr ysgol uwchradd neu'r chweched dosbarth?

Ti'n clywed ar y newyddion am y cyfleoedd i rai 16-19 oed, ac mae'r un peth yn wir yma gyda'r Groes Goch Brydeinig hefyd efo cyfleoedd i bobl ifanc 17-19 oed.

Dwi ddim yn deall yn union sut gall y bobl ifanc yma gael cymaint o gyfleoedd. Cymera fi fel esiampl. Dwi'n 22 ar y 4ydd o Ragfyr, ac yn fy mywyd cyfan dwi  ddim ond wedi cael dwy swydd daledig.

Yn fy marn i, cefais fy niswyddo yn annheg o'r cyntaf (cyrhaeddais yn hwyr oherwydd yr eira ym mis Mawrth 2009) ac yn yr ail cefais fy niswyddo oherwydd toriadau yn y gyllideb. Ond dwi wedi cwblhau 7000 awr o wirfoddoli, felly pam nad wyf i gyda swydd? Pwy sydd yn barod i dalu cyflog gweddus i mi gallaf fyw arno? Wel? Unrhyw un?

Doeddwn i ddim yn meddwl. Ond gan symud ymlaen, yn ddiweddar dwi wedi gorfod ymladd y ganolfan gyrfaoedd i gael y budd-daliadau dwi arnynt yn ôl, ar ôl iddynt gael eu canslo am reswm cyffredin, ac yna roedd rhaid i mi fynd am "gyfweliad yn seiliedig ar yrfa". Yn y bôn, mae'n cymryd dau funud. Maent yn eistedd ti i lawr ac yn gofyn, "wel, pa fath o waith wyt ti eisiau gwneud?" a dwi'n meddwl, "Wel os dwi yma yna dyw'r swydd dwi eisiau ddim ar gael, felly dweud wrtha i ba swyddi sydd yna gallaf i wneud!"

Yn lle hyn, dywedais fy mod eisiau mynd i mewn i hyfforddiant, ond nad oedd gennyf gymhwyster ffurfiol o gwbl ac roeddwn angen un, a gallent nhw dalu amdano. Wel, deg wythnos yn ddiweddarach a llwyddiant, maent yn talu am gwrs i mi yn y gobaith bydd yn helpu fi i gael swydd yn y dyfodol.

Ond dyw hyn ddim yn gymorth am nawr. A pheth arall, dwi'n ofalwr ifanc. Dwi'n edrych ar ôl fy nhad sydd yn anabl, sydd yn iawn, ac mae o'n iawn am y peth, ond dwi'n cythruddo gan fy mod yn gallu cael swydd wrth dderbyn lwfans gofalwr, ond ni all dalu mwy na £100 yr wythnos. Nawr mae hyn yn llai na 12 awr o waith, ond dyma le mae popeth yn mynd yn wirion yn fy marn i.

Os wyt ti'n hawlio lwfans gofalwr a chymhorthdal incwm ti ddim ond yn gallu gweithio a chael cyflog o tua £20 yr wythnos cyn iddynt gymryd y cymhorthdal incwm i ffwrdd oddi wrthyt, felly os wyt ti mewn sefyllfa ble ti'n helpu i dalu biliau cyffredinol y tŷ (nwy, trydan, dwr, trwydded teledu, ffôn ac ati) yna nid oes llawer ar ôl i deithio o gwmpas i fynd i swyddi, bod hyn am gyflog neu'n wirfoddol.

Felly hyd yn oed os gallet ti ryw sut gael swydd sydd yn talu o fewn y ffiniau, ti dal mewn trafferthion, gan nad alli di gael yno oherwydd mae'r bysiau yn codi gormodedd, mae tacsis yn waeth, ac os wyt ti'n gyrru mae'n rhaid talu mwy allan ar dreth car, MOT, yswiriant, petrol, a thrwsio a chynnal y car. Ond mae'r llywodraeth eisiau i bobl gael swyddi a chael allan o'r tŷ mwy. Ha ha, mae hynna yn ddoniol, sut gallent nhw wneud hyn os nad allent nhw fforddio gwneud?

Ar hyn o bryd dwi'n gwirfoddoli i'r Cadetiaid y Fyddin, ond dwi ddim wedi gallu mynd am gwpl o wythnosau gan nad oes gen i drafnidiaeth a dwi ddim yn gallu codi arian i dalu'r bws. Dwi hefyd yn gwirfoddoli i'r gwasanaeth ieuenctid, ond dwi'n lwcus gyda nhw, maen nhw'n darparu trafnidiaeth i mi er mwyn i mi gael i ble dwi angen bod gyda nhw.

Ond hefyd dwi wedi gwirfoddoli i Achub y Plant, ac mae'n rhaid i mi gyfaddef eu bod nhw yn griw gwych, mae'r gyllideb mor dynn ac yn cael ei ymestyn mor denau fel nad allwn hawlio costau teithio na chael fy nhalu tra roeddwn efo nhw am wythnos. Ond ta waeth am hynny gan nad oedd gen i ddim arall i wneud.

A nawr rydym yn cyrraedd y darn diddorol…

Os ydw i eisiau gweithio yn y sector dwi eisiau byddwn i'n hapus gyda 'ond', ac yr 'ond' hwn ydy bydda'n rhaid i mi dalu drwy'n nhrwyn mewn trethi, yn ogystal â rhoi arian i mewn i'm nghynllun pensiwn (ia bechgyn a genethod, mae'n dda i gychwyn hwn yn gynt yn hytrach na'n hwyrach) yn ogystal â gorfod talu mwy tuag at rent gartref (tŷ cyngor ydyw ac yn cael ei dalu drwy fudd-daliadau tai)  thalu mwy tuag at y bil dwr, treth cyngor, a nifer o bethau eraill byddai'r dyn treth yn falch o gymryd o'r arian dwi wedi gweithio'n galed amdano.

Felly ar y cyfan, ydym, rydym yn well ar fudd-daliadau ond dyw hyn ddim yn fywyd i fyw. Os gallwn ni weithio dylwn ni gael y cyfleoedd i gael gwaith llawn amser yn ein gwaith dewisol. I mi hyfforddiant a dysgu ydy hynny. Dwi wrth fy modd yn rhannu fy ngwybodaeth ar y pynciau dwi'n angerddol amdanynt fel Nodau Datblygu'r Mileniwm a chyfranogi, ond wyt ti'n meddwl fy mod i'n cael y cyfle hwnnw? Wel wnes i ddim, a chyn hir mi fyddaf, ond dal, dweud di wrthyf i ble mae yna gyflogwr sydd yn galw allan am hyfforddwr cymwysedig? Dweud di wrthyf i am swydd sydd ddim efo bron i 30 o bobl yn ceisio am un lle.

Eleni agorodd Primark yng Nghwmbrân, a do fe geisiais am un o'r swyddi (roeddwn angen yr arian), ond y peth dwi ddim yn ei ddeall ydy fod dros 3000 o bobl wedi ceisio am ddim ond 200 o swyddi. Dweud di wrthyf i, sut mae'n bosib fod dros 3000 o bobl heb waith yn Nhorfaen? Sut mae'n bosib nad oes swyddi allan yna ddim mwy?

Wel, fe ddywedaf wrthyt ti. Y cwmnïoedd mawr corfforaethol yma fel Ford, GE a chwmnïau mawr eraill sydd wedi allforio eu ffatrïoedd a'u swyddfeydd dramor i India, Pakistan, Saudi Arabia a'r Dwyrain Pell, ac eto rydym ni yma heb obaith, a heb swyddi, ac mae yna rai ohonom sydd heb gartrefi oherwydd y ffaith nad oes gennym swyddi, ond eto nid ydym yn gymwysedig i wneud dim arall, a hyd yn oed os ydym ni, mae yna 30-40 o bobl eraill yn awyddus i gael y swydd sydd ar gynnig.

Beth dwi'n feddwl sydd ei angen i ddatrys y broblem yma?

Tyrd â'r cwmnïoedd mawr yn ôl, a rhoi swyddi i'r bobl Brydeinig sydd wedi gweithio'n galed trwy eu bywyd i geisio cael gwaith. Rhowch swyddi i'r bobl sydd â phrofiad, nid y rhai sydd â phapur sgleiniog gyda'r geiriau 'wedi pasio' arno yn unig. Mae gen i bum mlynedd o brofiad o hyfforddiant, dwi wedi hyfforddi rhai o'r swyddogion sydd yn gweithio yn Llywodraeth Cymru. Dwi wedi dysgu iddynt sut i gael pobl ifanc i gyfranogi a pam dylent gynnwys pobl ifanc wrth wneud penderfyniadau. Dwi wedi gweithio'n galetach na'r mwyafrif, a does gen i ddim.

Pam, ti'n gofyn? Am ei fod yn rhy ddrud i gael y cymhwyster.

Beth rydym angen ei wneud hefyd ydy gwneud y cymwysterau hyn yn anoddach i'w ennill fel nad oes 30 o bobl yn ceisio am yr un swydd. Gallwn gael dim ond 10-15 o bobl yn lle. A hefyd, creu mwy o swyddi, nid lleoliadau chwe mis bach gwirion fel y Gronfa Swyddi'r Dyfodol (roedd hwnnw yn jôc, gallwn i ddim ceisio amdano am nad oeddwn wedi bod yn derbyn y budd-dal iawn am ddigon o amser, gan nad oeddwn eisiau bod yn berson arall yn hawlio arian dôl).

Os wyt ti am roi'r cyfle i bobl, dylet ti roi'r cyfle iddynt gael gyrfa am o leiaf blwyddyn neu ddau, i roi ysgogiad iddynt i weithio o ddifrif. Gyda fi, yr unig ysgogiad dwi angen ydy ei fod yn talu'r biliau a bod digon ar ôl i fyw arno ac i arbed arian am wyliau.

Felly, dewch yn ôl diwydiant mawr, stopiwch y polisi drws agored cylchdro ar fewnfudiad, a rhoi swyddi Prydeinig i bobl Brydeinig, a chefnogi nhw trwy eu gyrfa hefyd. Os nad ydynt yn gallu cael i'r gwaith oherwydd diffyg trafnidiaeth, yna rhowch drafnidiaeth am ddim iddynt. Os ydynt yn gwirfoddoli, rhowch drwydded bws am ddim iddynt, a thalu am unrhyw gostau eraill maent yn dod ar draws.

Os ydy'r person mewn cwestiwn yn llai abl (dwi ddim am ddwued anabl gan nad yw pawb yn hoff o'r term) ond dal eisiau gweithio, yna darparwch nhw gyda swydd addas maent eisiau gwneud. Os ydynt yn hapus i eistedd tu ôl i ddesg, parhewch. O ydynt eisiau, ac yn gymwysedig i, weithio mewn canolfan chware, gadewch iddynt. Am un, bydd hyn yn dangos i bobl nad ydynt yn boen ariannol ar y genedl. Nid ydyn yn ANNILYS (*poeri'r gair allan – mae'n air afiach ond roedd ei angen*).

Gad i ni ddangos i weddill y bobl gallent wneud yr un peth â phawb arall. Ond paid gorfodi nhw i mewn iddo, gad iddynt wneud hyn fel y mynnent. Os ydynt eisiau aros gartref gyda'u teulu a helpu gartref, gadewch iddynt.

Wel, dyna ddigon am fy rant i. Os ydy rhywun arall yn teimlo'r un peth neu efo unrhyw syniadau am beth allem ni bobl ifanc wneud i wella ein cyfle i gael cyflogaeth lawn-amser, yna gad i mi wybod a gad sylwad isod.

Diolch am ddarllen

Tudalennau Cyflogaeth a Hyfforddiant
Tudalennau Arian

DELWEDD: krissen

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.