Realiti Estynedig
English version
Rydym ni fel pobl wedi mabwysiadu technoleg yn yr un ffordd a wnaethom gyda thân, dillad ac ati.
Ond mae'n ymddangos bod Google eisiau mynd un cam ymhellach.
Ddim yn hapus gyda chael y chwilotydd mwyaf poblogaidd yn y byd, porwr rhyngrwyd, rhwydwaith cymdeithasol, rhannu cwmwl a sustem rheoli bwrdd gwaith a ffonau symudol, mae Google wedi creu syniad newydd, ac wedi rhoi'r cod enw Project Glass iddo.
Y syniad ydy creu ffurf o sbectol sydd yn galluogi'r defnyddiwr i ddod a thechnoleg yn rhan o'u bywyd bob dydd, trwy ddefnyddio math o sbectol
Mae'r delweddau yn dangos dyluniad minimol gyda meicroffon a sgrin fideo sydd yn rhan dryloyw ac yn gosod gwybodaeth dros yr olygfa o lygaid de'r defnyddiwr.
Gan ddefnyddio ei rwydwaith cymdeithasol ei hun, Google+, i rannu'r syniad, rhannodd eu labordy arbrofol o'r enw Google X ddelweddau'r syniad, sydd yn ddyluniad minimal gyda meicroffon a sgrin fideo sydd yn rhan dryloyw ac yn gosod gwybodaeth dros yr olygfa o lygaid de'r defnyddiwr.
Ar y fideo cyflwyno, gall weld fod y darn yma o dechnoleg yn gallu cael ei ddefnyddio mewn amryw ffyrdd, fel defnyddio'r sustem GPS cynwysedig i gynllunio taith, derbyn galwadau a negeseuon llais, gosod atgofiadau a chymryd fideos a lluniau.
Ac na, nid Ff?l Ebrill hwyr ydy hyn, gan fod hwn wedi'i ryddhau ar y 4ydd o Ebrill 2012. Er mae'n eithaf amlwg fod hwn dal yn y dull prototeip, gan nad yw Google wedi rhoi unrhyw syniad pryd fydd y cynnyrch yma ar werth nac wedi rhoi unrhyw gost arno.
Felly dyma ydy dyfodol technoleg? Ydy hyn yn gam rhy bell? Fe wnaf adael i ti benderfynu.
Ar y We – Gwybodaeth Diogelwch
DELWEDD: Google







