Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Rhamant, Gwyliau A Chamel Marw

Postiwyd gan kalomeeragregorio o Sir Benfro - Cyhoeddwyd ar 19/04/2012 am 15:39
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Comedi, Ysgrifennu Creadigol, Pobl, Teithio

  • calon

English version

Roedd hi'n byw bywyd syml. Yn treulio'r diwrnodau ar ben ei hun adref, gyda'i chathod a hen ferched unig eraill ar Foxybingo.com am gwmni.

Ond roedd Susie-Jane eisiau mwy o'i bywyd. Gan blethu ei gwallt hir, coch, a gwisgo yn ei ffrog beige gorau, gyda sanau yn mynd efo ef, fe wnaeth ei thaith wythnosol i'r canolfan gwaith.

Dyma oedd uchafbwynt ei wythnos, gan fod hi’n cael gwneud defnydd o un o'r pethau mwyaf gwerthfawr oedd ganddi, ei thocyn bws am ddim. Mae cyrraedd canol dref Hwlffordd yn gyffro i unrhyw un, ond i Susie-Jane roedd hi'n gor-gyffroi. Gan gyrraedd y Canolfan Bys Gwaith, cafodd ei chyflwyno i Stacey, person-chwilio-am-waith-ymgynghorwr-cynorthwywr newydd.

Wedi siomi'n fawr nad oedd hi'n cael ei harferol, Brenda, roedd diwrnod Susie yn dechrau gwaethygu. Aeth pethau'n waeth pan ddarganfuwyd mai'r unig waith oedd ar gael i rywun gyda'i chymwysterau hi oedd yn Iraq. Nid lleoliad perffaith i rywun sydd efo deallusrwydd llai nag arferol i fynd iddo o ddewis nhw eu hunain, ond doedd Susie-Jane ddim i'w gweld yn rhy siomedig.

Meddyliodd byddai teithio'r byd un wlad ar y tro yn gynllun gwych, ac roedd rhaid i ti gychwyn yn rhywle. Heb amheuaeth, derbyniodd y cynnig swydd. Gan luchio ei gwallt coch dros ei hysgwydd, aeth allan o'r Canolfan Gwaith ac yn syth am y maes awyr. Roedd ei thynged yn disgwyl amdani.

Yn dilyn digwyddiadau'r bore hwnnw, roedd y siwrne awyren yn eithaf digyffro. Gan lanio ym maes awyr Baghdad, gafaelodd yn ei chês print llewpard a mynd allan i'r haul chwilboeth…

I'w barhau…

Tudalennau Gwyliau a Theithio
DELWEDD: M.Angel Herrero

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50