Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Rhestra Dy Hoff Ganeuon

Postiwyd gan steampunk13 o Penybont ar Ogwr - Cyhoeddwyd ar 13/04/2011 am 14:28
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Cerddoriaeth, Chwaraeon a Hamdden, Materion Cyfoes

English version

Mae'r erthygl hon wedi cyrraedd y rhestr fer categori Erthygl Greadigol Gorau yng Ngwobrau CLIC 2011.


NB: Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu gwefan CLIC eu hunain dydd Gwener – www.bwsted.com - felly i ddathlu rydym yn postio’r erthygl hwn dros holl wefannau CLIC, gan ein bod yn sicr byddech i gyd eisiau rhannu eich deg cān gorau! Plīs gadwa sylwad ar y gwaelod – Ryan (golygydd cenedlaethol)

Mae’n gwestiwn syml sydd yn cael ei ofyn yn aml ond sydd bob tro yn creu penbleth i mi, i gwtogi fy rhestr miwsig i ddeg yn unig, ond dwi wedi llwyddo o’r diwedd.

Nid oes trefn benodol, gan ei fod yn newid o ddydd i ddydd wrth i mi benderfynu fy mod yn hoffi un yn fwy na’r llall.

Felly dyma fy rhestr miwsig deg uchaf sydd wedi cymryd amser maith i’w wneud, a pam fy mod i wedi dewis y rhain.

1: Blowin’ In The Wind gan Bob Dylan
Y rheswm dwi’n gorfod cynnwys y gān hon ydy am fy mod wrth fy modd efo’r amryw wahanol ystyr tu ōl iddo. Cafodd ei ryddhau yn 1963 ar yr albwm The Freewheelin’ Bob Dylan. Ers hyn mae wedi dod yn gān eiconig sydd wedi ei hail gwneud gan gerddorion o bob genre. Profai hyn fod Bob Dylan yn gerddor sydd yn gallu swyno nifer o wahanol fathau o artistiaid cerddorol. I mi maw hwn yn un o’r caneuon yna sydd yn dangos y gwir dalent sydd gan Bob Dylan.

2: Black Velvet gan Alannah Myles
Mae’r curiad wythdegau roc a’r sain esmwyth, i mi, yn gwneud i’r gān deimlo fel melfed. Mae hefyd yn gwneud i mi deimlo fel rhan o’r cyfnod a’r lle yna. Dwi’n teimlo fel y dylwn i fod mewn rhyw fath o sal?n hen ffasiwn, yn meddwl am ddim arall ond y gān hon. Mae’r gān ei hun yn gerdd i Elvis, un o’r mawrion cerddorol eraill. Cafodd ei ryddhau yn 1989 ac roedd yn rhif un am bythefnos.

3: Piano Man gan Billy Joel
Billy Joel ydy un o’r pethau dwi’n caru fwyaf. Nid oes cān ganddo dwi ddim yn hoffi, ac mae yna cymaint y gallwn enwi fel fy ffefryn, ond Piano Man sydd efo’r emosiwn mwyaf ac sy’n dangos pa mor dalentog ydy’r pianydd a’r canwr hwn wrth ysgrifennu caneuon ac adrodd storiāu. Ta waeth beth mae’n ganu, dwi’n teimlo fel ei fod yn tynnu fi i mewn i’r olygfa. Cafodd Piano Man ei ryddhau yn 1973 ar yr albwm o’r un enw. Mae wedi cael ei ganu amryw waith gan gynnwys yn ei gyngherddau ac ar amryw albwm, ac ystyrir y gān fel ei arwydd-dōn.

4: Dear Mr President gan Pink
Dwi’n un o ffans mwyaf Pink. Roedd hi’n anodd i mi ddewis o’i chaneuon. Roedd hi’n agos iawn rhwng Don’t Let Me Get Me a Dear Mr President. Ond fe ddewisais Dear Mr President gan nad yw’n gān yn unig. Mae’n gān i wneud pwynt ac i herio barnau gwleidyddol. Mae hyn yn profi nad yw hi’n gwneud miwsig dim ond er mwyn bod yn enwog; mae hi eisiau gwneud gwahaniaeth a dod yn ddylanwadol. Cafodd y gān ei ryddhau yn 2006 ar yr albwm I’m Not Dead. Ni chafodd ei ryddhau fel sengl, gan fod ofnau y gallai gael ei weld fel st?nt cyhoeddusrwydd.

5: War gan Poets Of The Fall
Mae POTF yn fand Ffinnaidd o Helsinki, dwi’n ymwybodol ohonynt ers llai na blwyddyn. Er mai dim ond amser byr iawn dwi wedi adnabod y band hwn, dwi’n meddwl bod y ffordd maent yn defnyddio geiriau a thelyneg yn creu barddoniaeth yn ei ffurf orau. Mae pob llinell a darn o gerddoriaeth yn adlewyrchu’r ochr prydferth a’r ochr tywyll o fywyd, ac efallai’r darnau bach rydym yn methu ac yn anghofio amdanynt. Dwi wrth fy modd gyda llawer o’u caneuon, ond War fydd yr un byddaf yn chwarae fwyaf am byth. Cafodd y gān adnabyddiaeth o’r gźm gyffrous seicolegol, Alan Wake. Cafodd ei recordio ar gyfer yr albwm Twilight Theatre.

6: To Make You Feel My Love gan Garth Brooks (cān wreiddiol Bob Dylan)
Er bod y cān wedi cael ei ysgrifennu a’i recordio yn wreiddiol i albwm 1997 Bob Dylan, Time Out Of Mind, y fersiwn gorau gen i ydy’r un gan Garth Brooks. Yn bersonol dwi’n meddwl fod ei lais yn gweddu i’r gān llawer gwell gan fod ganddo lais meddal grutiog sydd yn dod a lwmp i’m ngwddf Mae’n gān cariad pwerus sydd hefyd wedi cael llwyddiant yn y siartiau gyda Billy Joel ac Adele.

7: Hallelujah gan Rufus Wainwright (yn wreiddiol gan Leonard Cohen)
Er na chafwyd llawer o lwyddiant yn wreiddiol, cafodd y gān ei ail wneud gan John Cale ac arweiniodd hyn i nifer o artistiaid recordio fersiwn eu hunain o’r gān hon sydd wedi’i hysgrifennu yn wych. Y fersiwn fwyaf adnabyddus o’r gān ydy’r un gan Jeff Buckley, ac un o’r fersiynau fu’n uchel yn y siartiau yn ddiweddar oedd gan Alexandra Burke, enillydd The X Factor 2008. Ond, gallai’r gān yma fod wedi ei chanu gan unrhyw un a byddwn i dal yn ei garu. Mae’r ysgrifennu hardd, barddol a’r gerddoriaeth yn golygu na allaf weld unrhyw nam iddo. Ond, fersiwn Rufus oedd y fersiwn cyntaf i mi glywed a dyma yw fy ffefryn o hyd.

8: Sweet Child O’Mine gan Guns ‘N’ Roses
Os dwi’n hollol onest, dwi ddim yn ffan fawr o Guns ‘N’ Roses, ond bydd y gān yma efo lle yn fy nghalon am byth. Dyma’r gān dwi’n rhannu gyda fy narpar wraig a dyma fydd ein dawns gyntaf. Cafodd y cān ei ysgrifennu ar gyfer eu halbwm stiwdio gyntaf yn 1987, Appetite For Destruction. Dyma’r cyntaf, a’r unig gān i gyrraedd brig y siartiau yn yr UDA. Ond, dim ond rhif chwech llwyddodd yn y wlad yma. Er nad yw wedi’i gadarnhau erioed, credai fod y cān yn ymwneud ag Erin Everly, cariad Axl Rose ar yr adeg.

9: Grow Old With You gan Adam Sandler
Cafodd y cān ei ysgrifennu gan Tim Herlihy a Adam Sandler, berfformiodd y gān hon wrth chwarae Robbie Hart yn y ffilm The Wedding Singer yn 1998. Mae’r ffilm a’r gān wedi cael eu hysgrifennu yn hyfryd, gyda thema gomig sydd yn cyd-fynd gyda’r gwaith Adam Sandler ac ysgrifennwr y ffilm, Tim Herlihy. Mae’n un o fy ffefrynnau gan fod y gān yn anhygoel o ramantus a'r fath byddai pob merch ramantus eisiau ei glywed rhyw dro yn ei bywyd.

10: Fairytale Of New York gan The Pogues a Kirsty McColl
Mae’n gān Nadolig, dwi’n gwybod, ond mae pawb efo hoff gān Nadolig. I mi, mae hwn yn llawer gwell na chān Nadolig. Mae’n ymwneud ā bywyd go iawn; cyplau go iawn oedd, ar yr adeg, ddim yn gallu dioddef edrych ar ei gilydd ac yn barhaol yn ffraeo ac yn cael yn ōl at ei gilydd, ond am ryw reswm angen ei gilydd. Mae’r thema o Nadolig yn helpu’r neges. Dyma gyfnod o’r flwyddyn sydd yn dod a phawb at ei gilydd, pa bynnag caledi sydd yn ein bywydau.

Felly fe orffennai’r rhestr yma gyda chwestiwn. Beth ydy dy 10 cān gorau di, a pham? Plīs sylwada isod!

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50