Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Rhy Cŵl I Wisg Ysgol?

Postiwyd gan Swoosh Editorial Group o Bro Morgannwg - Cyhoeddwyd ar 24/08/2011 am 14:22
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Ysgrifennu Creadigol, Addysg, Pobl, Materion Cyfoes

  • uniform

English version

Gyda therm ysgol newydd ar fin cychwyn, mae'r adeg arswydus yna pan fydd mam neu dad yn mynd a ni i siopa am wisg ysgol yn prysur agosáu yn fwy sydyn na hoffem.

Cawsom ddadl eithaf hir ar wisg ysgol yn ein grŵp golygyddol, felly dyma ni yn cyflwyno ein barn o blaid ac yn erbyn gwisgoedd ysgol.

O Blaid Gwisg Ysgol

Gwisg ysgol. Beth ydy'r pwynt? Nid yw neb yn edrych yn dda ynddynt, maen nhw'n costio lot o arian a pan rydym yn casáu’r ysgol cymaint ag yr ydym ni, ydym ni wirioneddol eisiau rhywbeth sydd yn datgan ein bod yn 'perthyn' yno?

Er pa mor negyddol efallai rydym yn gweld ein gwisg ysgol, mae'n bodoli er mwyn diogelwch ein hunain. Maent yn atal bwlio, yn arbed arian i'n rhieni bob blwyddyn, yn gwneud y diwrnod ysgol yn fwy cyffyrddus, yn ymarferol ar gyfer y diwrnod ysgol ar gyfartaledd ac yn helpu ni beidio mynd ar goll ar dripiau ysgol.

Yn ogystal â hyn, mae unrhyw beth da byddwn yn ei wneud y tu allan i'r ysgol, os byddai'n cael ei wneud yn ein gwisg ysgol, yn gallu cael ei fwydo'n ôl i'r ysgol, ac mae athrawon yn sicr o werthfawrogi'r ychydig bach mwy.

Yn fy marn i, mae gwisgoedd ysgol yn grêt (iawn, efallai ddim yn y ffordd maent yn edrych). Maent yn arbed cymaint o amser i mi yn y bore, byddwn yn cael pyliau o banig am beth i wisgo, os byddwn yn edrych yn wirion o gymharu â hi, neu os byddent yn cofio fy mod wedi gwisgo'r un wisg wythnos diwethaf! (Mae hefyd yn rhoi mwy o amser i fi gysgu yn y bore os nad wyf yn gorfod dewis beth i wisgo.)

Dwi hefyd ddim efo'r arian i wneud yn siŵr fod gen i ddigon o ddillad i wisgo rhywbeth gwahanol i'r ysgol bob dydd o'r flwyddyn ysgol; heb sôn am y ffaith fod ffasiwn yn newid DRWY'R adeg, felly i gadw hynny i fyny?! Ti'n jocian!

Mae gwisgoedd ysgol yn ffordd hanfodol o gynnal cydraddoldeb drwyddi draw. Gall neb fod efo gwell na'r person arall ac ni all pobl gyfoethog a phobl ddim mor gyfoethog gael eu gwahaniaethu am eu golwg, tuedd a ffasiwn. Mae cael gwisg ysgol yn yr ysgol hefyd yn paratoi'r disgyblion am eu gyrfaoedd, mae'r rhan fwyaf o swyddi efo iwnifform neu gynllun gwisg ac yn disgwyl i'w gweithwyr wisgo beth ofynnir ohonynt, ni ddylai disgyblion gael mewn i'r arferiad o wisgo dillad eu hunain mewn amgylchedd gwaith.

Arweiniad y Llywodraeth ydy fod yr ysgolion a'r Awdurdodau Addysg Leol yn penderfynu cael gwisg ysgol neu beidio. Dylai ysgolion gael gwisg ysgol gan ei fod yn gwella ysbryd cymunedol a chymdeithasgarwch ysgolion.

Yn Erbyn Gwisg Ysgol

Gwisg ysgol. Da neu ddrwg? Beth wyt ti'n meddwl? Dwi ddim yn un sydd yn hoffi gwisg ysgol, dwi'n credu ei fod yn stopio ti fod yn ti dy hun, yn stopio ti fynegi dy hun. Mae gwisg ysgol yn syniad drwg gan ei fod yn tynnu o dy bersonoliaeth.

Er bod gwisg ysgol yn stopio mathau o fwlio mae dal yn gallu digwydd gan fod dy wisg ysgol yn gallu bod yn flêr ac yn fudur yn union fel dillad dy hun.

Mae gwisg ysgol yn costio llawer o arian i dy rieni. Flwyddyn ddiwethaf gwariodd mam £150 ar wisg ysgol i fi a fy chwaer a dim ond crysau polo, siwmperi a throwsusau oedd hynny! A hanner ffordd drwy'r flwyddyn rhaid cael gwisg ysgol newydd gan fy mod wedi tyfu neu wedi rhwygo ac mae'r rhestr yn parhau.

Mae Clog Addysg Greadigol yn dweud fod gwisg ysgol yn paratoi plant am yrfaoedd dyfodol. Dwi yn erbyn hyn gan ein bod dal yn blant a ddim yn barod eto am sut beth ydy cael dy drin fel oedolyn ac yn bersonol dwi ddim yn meddwl ein bod yn barod yn feddyliol eto.

Mae gen i gwestiwn i ti ateb: wyt ti'n meddwl fod gwisg ysgol yn helpu canlyniadau ysgol? Dwi ddim yn meddwl ei fod o oherwydd os oes gen ti feddwl positif tuag at yr ysgol yna byddet yn parhau i fod yn bositif beth bynnag.

Beth wyt ti'n feddwl am wisg ysgol? Wyt ti'n meddwl ei fod yn tynnu o dy bersonoliaeth? Ydy hyn yn gwneud i ti ganolbwyntio mwy? Neu byddai'n well gen ti wisgo dillad pob dydd i'r ysgol? Gad i ni feddwl beth ti'n feddwl isod!!!

Delwedd: willsmith15

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.